Dewch i sesiwn wybodaeth ar-lein i gael sgwrs anffurfiol am yr yrfa werth chweil hon.

Dydd Mawrth 10 Hydref 2023 am 10am

Dydd Iau, 12 Hydref 2023 am 7pm

Dydd Llun 16 Hydref 2023 am 4pm

Dydd Gwener 20 Hydref 2023 am 2pm

Dydd Mercher 25 Hydref 2023 am 6pm

Cofrestrwch

Gyrfa a ffordd o fyw

  • Gradd E - £12.52 - £14.22 yr awr
  • Gwyliau blynyddol hael
  • Mae patrymau gwaith pedwar diwrnod yn y gwaith / pedwar diwrnod i ffwrdd o'r gwaith a chontractau ar gael, gan weithio yn ystod y dydd a/neu gyda'r nos gan gynnwys gweithio ar benwythnosau a gwyliau banc.
  • Trefniadau gweithio'n achlysurol ar gael
  • Wythnos waith 26 neu 35 awr ar gael, gellir ystyried oriau contract eraill
  • Cyfleoedd datblygu a llwybrau gyrfa i unrhyw un sydd am ddatblygu eu gyrfa ym maes gofal cymdeithasol
  • System fentora i'ch cefnogi wrth i chi ymgartrefu yn eich rôl newydd

 

O Ddydd i Ddydd

  • Lwfans tanwydd o 0.45c y filltir
  • Amser teithio â thâl
  • Ceir adrannol ar gael
  • Ymsefydlu a hyfforddiant rheolaidd
  • Ffôn symudol
  • Darperir yr holl gyfarpar diogelu personol
  • Telir treuliau

 

Buddion staff

  • Cynllun pensiwn Llywodraeth Leol sy'n perfformio'n dda gyda chyfraniadau gan y cyflogwr
  • Cynllun buddion staff sy'n cynnwys gostyngiadau ar deithio, siopa, diwrnodau allan, moduro, siopa a llawer mwy
  • Gwersi Cymraeg am ddim
  • Cymorth llesiant ac iechyd galwedigaethol
  • Polisïau amser o'r gwaith gan gynnwys gwell absenoldeb mamolaeth yn ogystal ag absenoldeb tadolaeth, mabwysiadu, benthyg croth ac absenoldeb babi cynamserol
  • Cynllun Ymddeoliad Hyblyg
  • Gwybodaeth am sut i gael mynediad at gynllun gofal plant di-dreth y Llywodraeth

 

Beth mae cleientiaid yn ei ddweud amdanom ni

Mae'r staff yn wych”

Roeddwn arfer bod yn nyrs ac ni allaf ganmol y staff ddigon. Maen nhw'n gwneud gwaith gwych”

Mae'n hyfryd gwrando ar y staff yn siarad â fy mam a'r berthynas sydd ganddynt â hi”

Beth mae ein rheoleiddwyr gofal cymdeithasol yn ei ddweud amdanom ni

"Mae anghenion iechyd a gofal pobl yn cael eu cefnogi a'u hyrwyddo. Mae gan weithwyr gofal ddealltwriaeth dda o anghenion iechyd a gofal unigolion ac maent wedi meithrin perthynas dda â nhw."

"Mae pobl yn teimlo'n ddiogel ac maent wedi'u hamddiffyn rhag niwed. Mae gan weithwyr gofal ddealltwriaeth dda o'u rôl o ran amddiffyn pobl."

 

Rydym yn gyflogwr cyfle cyfartal ac rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth.

Gweld ein swyddi gwag ym maes gofal