Cyfleoedd adleoli

Diweddarwyd y dudalen ar: 17/10/2023

Mae rheidrwydd cyfreithiol ar gyflogwyr i ystyried gweithwyr ar gyfer Cyflogaeth Arall Addas. Drwy gynnig cyfleoedd adleoli, ein nod yw rhoi cymorth i weithwyr ar adeg anodd yn eu gyrfaoedd a'u bywydau, a galluogi rhai ohonynt i ddal ati i weithio pan na fyddent fel arall wedi gallu gwneud o bosibl, a hynny o achos salwch, perygl o golli swydd, neu reswm dilys arall. TNid yw'r swyddi hyn ar gael i ymgeiswyr allanol a dim ond gweithwyr presennol sydd wedi'u cofrestru â'r Gronfa Dalent (Adleoli) fydd yn cael cynnig amdanynt. I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at y Polisi Adleoli.

A fyddech cystal â chael golwg ar y rhestr o swyddi gwag, ac mae croeso ichi gysylltu â'ch Rheolwr Llinell neu'r Tîm Adnoddau Dynol i drafod hyn ymhellach.

Rydym yn croesawu ceisiadau am rannu swydd yn achos pob swydd a hysbysebir sydd am o leiaf 30 awr yr wythnos, oni nodir yn wahanol yn yr hysbyseb swydd benodol. Edrychwch ar ein Bolisi Rhannu Swyddi i gael rhagor o fanylion. Sylwch ei bod yn bosibl na fydd ein Polisi Rhannu Swyddi yn berthnasol i'r rhai a gaiff eu recriwtio a'u cyflogi'n uniongyrchol gan ysgolion. O ran swyddi gwag mewn ysgolion, cysylltwch â'r ysgol unigol sy'n recriwtio i holi am ei pholisi rhannu swydd.

Sylwch: Os byddwch yn derbyn penodiad am gyfnod penodol e.e. dros gyfnod mamolaeth/absenoldeb salwch/absenoldeb heb dâl ac ati, bydd y penodiad yn dod i ben ar y dyddiad a nodwyd yn eich telerau cyflogaeth neu pan fydd deiliad y swydd yn dychwelyd, pa un bynnag sy'n digwydd gyntaf ac ni fydd yn destun taliad dileu swydd.

Chwilio am swydd