Byw yn Sir Gâr
Diweddarwyd y dudalen ar: 08/08/2023
Cydbwysedd rhwng Gwaith/Bywyd
Mae Sir Gâr yn sir sydd â rhywbeth i bawb ac mae'n lle perffaith i fyw, gweithio a chwarae.
Mae mynyddoedd garw, bryniau a chymoedd gwyrdd godidog yn dominyddu ardaloedd gogleddol a chanol y sir , ac mae arfordir o draethau hardd a chilfachau cudd yn y de, gan gynnwys dau draeth baner las yng Nghefn Sidan a Phentywyn.
Mae cyfuniad amrywiol o gymunedau dwyieithog gwledig a threfol cyfeillgar, yn rhoi i'r sir ei chymeriad unigryw a nodedig. Mae'r trefi arfordirol hardd a'r pentrefi ar hyd Bae Caerfyrddin fel Porth Tywyn, Llansteffan a Thraeth Pentywyn yn cynnig golygfeydd trawiadol o dywod euraid a bywyd gwyllt.
Llanelli, tref fwyaf Sir Gâr wedi'i siapio gan ei threftadaeth ddiwydiannol, nid yw'n lo, tun na chopr bellach sy'n mynd i'r arfordir, ymwelwyr ydyw. Mae pobl yn anelu am Barc Arfordirol y Mileniwm a'r traethau eang cyfagos ar gyfer hamdden, pleser a llesiant. Mae'r llwybr yn rhedeg drwy Barc Arfordirol y Mileniwm ac yn ffurfio rhan o Lwybr Arfordir Cymru. Mae'n llwybr cerdded a beicio 13 milltir o hyd i gerddwyr ar hyd arfordir deheuol Sir Gâr , ac mae'n cysylltu Llanelli â Pharc Gwledig Pen-bre.
Mae rhywbeth ar bob cornel yn nhrefi marchnad bywiog Llandeilo, Llanymddyfri a Chastellnewydd Emlyn, gyda digonedd o fwyd a diod lleol. Yn y canol, mae Bannau Brycheiniog a Mynyddoedd Cambria, a'r dref hynaf yng Nghymru, sef tref sirol Caerfyrddin, a saif yn falch ar lannau Afon Tywi, sef afon hiraf Cymru.
Mae cysylltiadau ffyrdd da, un o'r cyfraddau troseddu isaf yn y DU, cefn gwlad ac arfordir prydferth, ysgolion a thai da, yn ychwanegu at ansawdd bywyd gwych yn Sir Gâr.
Swyddi a Gyrfaoedd1
Gweithio i ni
- Neges wrth y Arweinydd y Cyngor
- Byw yn Sir Sir Gâr
- Llesiant Gweithwyr
- Beth mae ein staff yn ei ddweud amdanom ni
- Cyfleoedd eraill
Buddiannau gweithwyr
Ein Cenhadaeth a'n Gwerthoedd Craidd
Sut i ymgeisio
Mwy ynghylch Swyddi a Gyrfaoedd1