Sut i ymgeisio
Diweddarwyd y dudalen ar: 07/09/2023
Gofynnir i chi gofrestru cyfrif cyn creu eich cais.
Bydd hyn yn eich galluogi chi i:
- storio eich manylion
- cadw, adalw a pharhau â'ch cais/ceisiadau
- monitro statws unrhyw gais rydych wedi'i gyflwyno
- derbyn negeseuon e-bost yn rhoi gwybodaeth am swyddi gwag
Sut i gyflwyno eich cais
Bydd eich cais yn cau ar ôl 30 munud – mae hyn am resymau diogelwch. Cofiwch gadw eich cais yn rheolaidd er mwyn osgoi colli unrhyw wybodaeth.
Gofynnwn i chi gyflwyno eich cais ar-lein. Os nad ydych yn gallu cyrchu'r rhyngrwyd gartref, mae cyfleusterau di-wifr a chyfrifiaduron at ddefnydd y cyhoedd ar gael yn y prif lyfrgelloedd yn y sir.
Rydym yn gyflogwr cyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ceisiadau gan unrhyw rai sy'n teimlo eu bod yn ateb gofynion ein swyddi gwag. Rydym wedi "ymrwymo i hybu cydraddoldeb ac i werthfawrogi amrywiaeth". Os bodlonir meini prawf hanfodol y swydd, mae'r Cyngor yn gwarantu y rhoddir cyfweliadau i bobl sydd ag anableddau, yn unol â diffiniad Deddf Cydraddoldeb 2010.
Rydym yn croesawu ceisiadau am rannu swydd yn achos pob swydd a hysbysebir sydd am o leiaf 30 awr yr wythnos, oni nodir yn wahanol yn yr hysbyseb swydd benodol. Edrychwch ar ein Bolisi Rhannu Swyddi i gael rhagor o fanylion. Sylwch ei bod yn bosibl na fydd ein Polisi Rhannu Swyddi yn berthnasol i'r rhai a gaiff eu recriwtio a'u cyflogi'n uniongyrchol gan ysgolion. O ran swyddi gwag mewn ysgolion, cysylltwch â'r ysgol unigol sy'n recriwtio i holi am ei pholisi rhannu swydd.
Derbynnir ceisiadau ar ffurf arall os bydd ymgeisydd yn cael anhawster i gwblhau'r ffurflen ar-lein oherwydd anabledd. Nodwch nad ydym yn derbyn CV fel gwybodaeth ategol neu yn lle'r ffurflen gais. Os oes angen y ffurflen gais arnoch mewn fformat arall, megis print bras, anfonwch neges e-bost at: swyddi@sirgar.gov.uk.
Hawl i weithio yn y DU
Rhaid i pob un o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir NAD ydynt yn gymwys i wneud cais am yr hawl i weithio yn y DU o dan Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE gael rhyw fath arall o ganiatâd mewnfudo yn eu galluogi i weithio o 1 Ionawr ymlaen. Ewch i wefan Llywodraeth y DU am wybodaeth bellach i ddeall eich hawl i weithio yn y DU.
Yn achos ymgeiswyr sydd angen ein nawdd ar gyfer cais Llwybr Gweithwyr Medrus, rhaid iddynt fodloni’r meini prawf cymhwysedd a bennir gan Lywodraeth y DU o dan y system ar sail pwyntiau. Cyn cyflwyno cais am y swydd wag, dylech wirio a yw’r rôl yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd yn y canllawiau Llwybr Gweithwyr Medrus a ddarperir gan Lywodraeth y DU.
Swyddi a Gyrfaoedd1
Gweithio i ni
- Neges wrth y Arweinydd y Cyngor
- Byw yn Sir Sir Gâr
- Llesiant Gweithwyr
- Beth mae ein staff yn ei ddweud amdanom ni
- Cyfleoedd eraill
Buddiannau gweithwyr
Ein Cenhadaeth a'n Gwerthoedd Craidd
Sut i ymgeisio
Mwy ynghylch Swyddi a Gyrfaoedd1