Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Diweddarwyd y dudalen ar: 24/02/2023
Rydym ni fel sefydliad yn defnyddio'r Gwasanaeth Datgelu a Gwhardd (DBS) er mwyn asesu a yw'n briodol penodi ymgeiswyr i swydd gyfrifol, ac mae'n cydymffurfio'n llawn â Chôd Ymarfer y DBS ac yn ymrwymo i ymdrin yn deg â phob ymgeisydd am swydd. Mae’n ymrwymo i beidio â gwahaniaethu’n annheg yn erbyn ymgeiswyr sy’n datgelu euogfarn neu wybodaeth arall.
Rydym yn ymrwymo i ymdrin yn deg â’i staff, darpar aelodau staff a’r rheiny sy’n defnyddio’i wasanaethau waeth beth fo’u hil, rhyw, crefydd, tueddfryd rhywiol, cyfrifoldeb dros ddibynyddion, oed, anabledd corfforol/meddyliol neu gefndir troseddol.
Rydym yn hyrwyddo cyfle cyfartal i bawb sy’n meddu ar y cyfuniad cywir o ddawn, gallu ac addewid a chroesewir ceisiadau oddi wrth ystod eang o ymgeiswyr, yn cynnwys pobl sydd â chofnod troseddol. Rydym yn dewis pa ymgeiswyr fydd yn cael cyfweliad ar sail eu sgiliau, eu cymwysterau a’u profiad.
Ni ofynnir am ddatgeliad oni bai fod asesiad risg trylwyr yn nodi ei fod yn gam cymesur a pherthnasol i’r swydd dan sylw. Pan fo'n rhaid gofyn am ddatgeliad ar gyfer swydd, bydd y pecyn cais a’r hysbyseb yn nodi’n glir y bydd y Cyngor yn gofyn am ddatgeliad pan gynigir swydd i’r ymgeisydd llwyddiannus.
Pan fydd y broses o ddatgelu gwybodaeth yn rhan o’r broses recriwtio gofynnir i ymgeiswyr nodi gwybodaeth ynghylch eu cofnod troseddol ar y ffurflen gais. Gallwn sicrhau ymgeiswyr na fydd gwybodaeth a ddatgelir yn cael ei dangos i neb ac eithrio fel rhan o’r broses recriwtio ac ni fydd y manylion hyn yn cael eu hystyried wrth lunio’r rhestr fer. Oni bai fod natur y swydd yn caniatáu i ni ofyn cwestiynau am gofnod troseddol cyfan ymgeiswyr (Hunan-ardystio), byddwn yn gofyn am fanylion ynghylch euogfarnau cyfredol yn unig yn unol â diffiniad Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974.
Rydym yn sicrhau bod pawb o fewn ein sefydliad sy’n rhan o’r broses recriwtio yn derbyn cyfarwyddyd o ran clustnodi ac asesu perthnasedd ac amgylchiadau troseddau. Rydym yn sicrhau hefyd eu bod yn derbyn cyfarwyddyd priodol ynghylch y deddfau perthnasol sy’n ymwneud â chyflogi cyn-droseddwyr e.e. Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974.
Mewn trafodaeth, ar wahân i’r cyfweliad, byddwn yn sicrhau trafodaeth agored ac ystyriol ynghylch troseddau neu unrhyw fater arall a allai fod yn berthnasol i’r swydd. Gall methu â datgelu gwybodaeth sy’n uniongyrchol berthnasol i’r swydd y gwneir cais amdani arwain at dynnu’r cynnig o swydd yn ôl.
Rydym yn tynnu sylw pob unigolyn sy'n destun datgeliad DBS at fodolaeth Côd Ymarfer y DBS ac yn darparu copi os gofynnir am un. Rydym yn ymrwymo i drafod unrhyw fater a ddaw i’r amlwg yn ystod y datgeliad gyda’r ymgeisydd cyn tynnu cynnig amodol o swydd yn ôl.
Ni fydd datgelu cofnod troseddol o reidrwydd yn rhwystr rhag cael eich penodi.. Mae'n dibynnu ar natur y swydd, yr amgylchiadau a chefndir eich troseddau.
Unigolion oedd yn 18 oed neu'n hŷn adeg cyflawni'r drosedd, dilëir euogfarn oedolyn o'r dystysgrif DBS os:
- oes 11 mlynedd wedi mynd heibio ers dyddiad y gollfarn; ac
- hon yw unig drosedd yr unigolyn, ac
- nid oedd wedi arwain at ddedfryd o garchar
O dan yr amgylchiadau hyn, caiff y gollfarn ei dileu yn unig os nad yw'n ymddangos ar y rhestr o gollfarnau na fydd byth yn cael eu dileu o'r dystysgrif. Os bydd unigolyn wedi cyflawni mwy nag un drosedd, bydd manylion ei holl gollfarnau'n cael eu cynnwys bob amser.
Dilëir rhybuddiad oedolyn ar ôl cyfnod o chwe blynedd ers dyddiad rhoi'r rhybuddiad - os nad yw'n ymddangos ar y rhestr o gollfarnau sy'n berthnasol o ran diogelu.
Ar gyfer y rheiny o dan 18 oed ar adeg y drosedd mae'r un rheolau yn berthnasol ag ar gyfer euogfarnau oedolion, ac eithrio bod y cyfnod perthnasol yn 5.5 mlynedd. Mae'r un rheolau yn berthnasol ag yn achos rhybuddiadau oedolion, ac eithrio bod y cyfnod perthnasol yn 2 flynedd.
Swyddi a Gyrfaoedd1
Gweithio i ni
- Neges wrth y Arweinydd y Cyngor
- Byw yn Sir Sir Gâr
- Llesiant Gweithwyr
- Beth mae ein staff yn ei ddweud amdanom ni
- Cyfleoedd eraill
Buddiannau gweithwyr
Ein Cenhadaeth a'n Gwerthoedd Craidd
Sut i ymgeisio
Mwy ynghylch Swyddi a Gyrfaoedd1