Benthyciadau gwella cartrefi

Diweddarwyd y dudalen ar: 13/01/2023

Os oes angen i chi wneud gwelliannau i sicrhau bod eich cartref yn gynnes neu'n ddiogel, ond ni all fforddio gwneud y gwaith; mae'n bosibl y byddwn yn gallu eich helpu drwy fenthyciad ad-dalu gwella cartrefi. Gallwch wneud cais am fenthyciad gwella cartref os ydych chi'n perchen-feddianwyr, landlord, datblygwr neu sefydliad elusen/trydydd sector. Er fod y benthyciad yn cyfrannu at wneud eich cartref yn gynnes neu'n ddiogel, nid yw'n ofynnol i'ch cartref fodloni'r holl feini prawf hyn - gellir defnyddio'r benthyciad i dargedu un elfen allweddol. Gellir defnyddio Benthyciadau Gwella Cartrefi ar gyfer:

  • Diffygion sylweddol i'ch eiddo, er enghraifft - grisiau peryglus, trydanau peryglus, to sy'n gollwng
  • Ychwanegiad at y Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl
  • Diogelwch rhag tân, neu Ddiogelwch;
  • Renovating or converting an empty home;
  • Effeithlonrwydd Ynni (ychwanegiad ECO);

Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr ac os bydd y gwaith yn cyfrannu at wneud yr eiddo'n gynnes neu'n ddiogel, gallai fod yn rhan o gwmpas y cynllun. Unwaith y byddwn wedi derbyn eich cais, byddwn yn trefnu amser addas i asesu eich cartref a'r gwaith yr hoffech ei wneud. Mae hyn fel y gallwn nodi unrhyw beryglon neu ddiffygion. Gellir gwneud ceisiadau am fenthyciad rhwng £1000 a £25,000 fesul cartref. Mae'n rhaid i'r gwaith gael ei gyflawni gan gontractwr sydd ar ein Rhestr Adeiladwyr Cofrestredig.

Y cyfnod ad-dalu hwyaf yw 10 mlynedd i berchen-feddiannwr neu denant a phum mlynedd i landlord. Mae swm isafswm ad-dalu o £50 y mis i berchen-feddianwyr a £100 y mis i landlordiaid. Mae'r benthyciadau'n ddi-log, ar yr amod nad oes diffygdalu'n digwydd. Os na chedwir at y trefniadau ad-dalu neu os bydd unrhyw amodau eraill yn cael eu torri, bydd cyfanswm y benthyciad yn daladwy a chodir llog ar y swm sy'n weddill. Bydd y llog yn ddyledus fel y nodir yn y Cytundeb Cyfleuster Benthyca.

Bydd tâl gweinyddol unwaith yn unig yn cael ei godi y gellir ei dalu dros gyfnod y benthyciad neu ymlaen llaw.

  • Ar gyfer benthyciadau hyd at dair blynedd, bydd y tâl yn 10%
  • Ar gyfer benthyciadau rhwng 4 a 10 blynedd, bydd y tâl yn 15%

Mae'n rhaid ichi allu fforddio ad-daliadau'r benthyciad. Caiff gwiriad fforddiadwyedd ei gynnal er mwyn sicrhau y gallwch dalu'r ad-daliadau. Mae'n ofynnol nad oes gan ymgeiswyr hanes credyd anffafriol, gan gynnwys:

  • Dyfarniadau Llys Sirol
  • Trefniadau Gwirfoddol Unigol
  • Gorchymyn Gostwng Dyled
  • Methdaliad (yn y chwe blynedd diwethaf)
  • Ansolfedd / diddymu o ran cwmni
  • Dyledion sy'n ddyledus inni ar adeg gwneud y cais

Os ydych chi'n llwyddiannus yna:

  • Dylid cwblhau'r gwaith o fewn 12 mis ar ôl ei gymeradwyo, oni bai y ceir caniatâd i wneud fel arall
  • Caiff taliadau eu gwneud pan fydd yr holl waith yn cael ei gwblhau. Gellir gwneud taliadau interim mewn rhai amgylchiadau
  • Mae'n rhaid ichi gytuno i wneud yr ad-daliadau misol drwy Ddebyd Uniongyrchol
  • Bydd yr ad-daliadau'n dechrau ar y 1af o'r mis llawn cyntaf ar ôl i'r taliad olaf gael ei wneud.
  • Byddwch yn derbyn cytundeb benthyciad sy'n amlinellu eich holl gyfrifoldebau, rydym yn argymell eich bod yn darllen hyn yn llawn.

NODYN PWYSIG:
Mae'n ddrwg gennym ond yn sgil y galw cynyddol uchel am y math hwn o gymorth, mae'r Awdurdod wedi cael llwyth o geisiadau ac mae bellach yn delio ag ymholiadau niferus sy’n aros am ymateb. O ganlyniad i'r galw hwn, bydd ymholwyr yn profi cryn aros am unrhyw gymorth ariannol gan ein bod wedi ymrwymo’n llawn i’r gyllideb a ddyrannwyd ar gyfer y cynllun hwn. Mae'r cynllun hwn bellach ar stop hyd nes y byddwn yn gallu edrych ar opsiynau ariannu eraill, posibl. Ar hyn o bryd, nid oes sicrwydd y bydd hyn yn llwyddiannus. Dylid ystyried hyn wrth wneud cais am fenthyciad.

Gwnewch ymholiad