Ymwybyddiaeth o Sgamiau

Diweddarwyd y dudalen ar: 12/01/2023

Ymwybyddiaeth o Sgamiau

Mae troseddwyr yn defnyddio pandemig Covid-19 i dwyllo pobl.

Ceir yma restr rai o sgamiau mwyaf cyffredin Covid-19:

Sgamiau e-bost, neges destun a galwadau ffôn:

• E-bost annisgwyl gan y llywodraeth yn cynnig arian ichi.
Sgam ‘rhestr heintiau’ tebyg i un Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn honni darparu rhestr neu fap o heintiau lleol.
• E-bost oddi wrth Lywodraeth Ei Mawrhydi yn gofyn am roddion i’r GIG.
• E-bost gan HMRC yn datgan eich bod yn ‘gymwys i gael ad-daliad treth’.
• Gwerthu profion swabio ffug COVID-19, atchwanegion a phecynnau atal-feirws.
• Neges destun yn gofyn i chi dalu dirwy gan ei bod yn dweud y cofnodwyd i chi adael eich cartref dair gwaith yn ystod cyfnod clo.
• Galwad ffôn yn datgan fod ‘canllawiau’r llywodraeth yn mynnu erbyn hyn fod pawb yn gwisgo mwgwd y tu allan i’r tŷ, gwasgwch 1 i brynu eich mwgwd’.

Trosedd stepend drws:

• Gwasanaethau glanhau sy’n cynnig glanhau rhodfeydd a throthwyon i ladd bacteria neu’n cynnig ‘diheintio’ tu fewn eich cartref.
• Gweithwyr gofal iechyd ffug yn cynnig ‘profion cartref’ ar gyfer y feirws.
• Troseddwyr yn cynnig gwneud eich siopa. Maen nhw’n cymryd arian ond ddim yn dod yn ôl.

Cyngor a chymorth

Cofiwch gwestiynu unrhyw alwadau, negeseuon testun neu e-byst diofyn yn gofyn am eich gwybodaeth bersonol neu ariannol (enw, cyfeiriad, manylion banc).
Er mwyn gwirio’r cwmni cysylltwch â nhw’n uniongyrchol gan ddefnyddio e-bost neu rif ffôn hysbys.
Er mwyn cael cyngor ar seiberdroseddau, neu i roi gwybod am e-byst amheus, ewch i ncsc.gov.uk/cyberaware -
Gall unrhyw un a ddioddefodd dwyll neu seiberdroseddu roi gwybod amdano ar-lein yn actionfraud.police.uk neu ffoniwch 0300 123 2040
neu cysylltwch â Gwasanaethau Defnyddwyr Cyngor Ar Bopeth ar 0808 223 1133