Arolwg Boddhad Preswylwyr STAR 2021

Diweddarwyd y dudalen ar: 17/03/2022

Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn cysylltu â rhai o'n tenantiaid tai yn gofyn am adborth i'n helpu i wella ein gwasanaethau.

Mae eich sylwadau a'ch barn yn wirioneddol bwysig - yn ein harolwg diwethaf roedd dros 2,000 o denantiaid wedi cymryd rhan, ac er ein bod yn falch o glywed bod 85% o bobl yn fodlon ar ein gwasanaethau tai cyffredinol, roedd yr adborth wedi ein helpu i nodi materion a oedd angen inni roi sylw iddynt.

Os gofynnir ichi gymryd rhan yn yr arolwg, byddem yn ddiolchgar pe byddech yn ei gwblhau ac yn ei ddychwelyd atom cyn gynted â phosibl. Byddwn yn cymryd yr hyn rydych yn ei ddweud o ddifrif a byddwn yn defnyddio'ch adborth i wella ein gwasanaethau.

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost i maecymunedynbwysig@sirgar.gov.uk