Ceir trydan - Pwyntiau gwefru
Gallwch ddefnyddio 28 o beiriannau gwefru cyflym (7kW-22kW) sy'n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin o fewn ein hawdurdod. Gallant wefru dau gerbyd ar yr un pryd a byddant yn gwefru'r rhan fwyaf o geir cydnaws sy'n rhedeg yn gyfan gwbl ar drydan mewn 3-5 awr a gall ceir hybrid 'plygio i mewn' eu defnyddio hefyd.
Sicrhaodd Cyngor Sir Caerfyrddin gyllid ar gyfer y rhan fwyaf o'r peiriannau gwefru yn dilyn ceisiadau llwyddiannus i Gronfa Trafnidiaeth Leol Llywodraeth Cymru a chynllun pwyntiau gwefru preswyl y Swyddfa Cerbydau Allyriadau Isel.
Mae gan gerbydau trydan amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys ansawdd aer a manteision economaidd.
Mae'r peiriannau gwefru cyflym wedi'u lleoli yn y meysydd parcio canlynol:
- Parc y Brodyr Llwyd, Heol Ioan a San Pedr* – Caerfyrddin
- Porth y Dwyrain, Stryd Murray, Stryd yr Eglwys, Stryd Edgar - Llanelli
- Stryd Marged, Carregaman - Rhydaman
- Stryd y Neuadd – Brynaman Uchaf
- Woodfield Road – Llandybïe
- Heol Cilgant – Llandeilo
- Stryd y Bont – Llanybydder
- Y Ganolfan Gymunedol – Ystradowen
- Traeth Llansteffan – Llansteffan
- Heol y Pentre – Sanclêr
- Stryd y Brenin Edward – Hendy-gwyn ar Daf
- Marsh Road – Pentywyn
- Maes Parcio'r Mart – Castellnewydd Emlyn*
- Teras Efa – Glanyfferi
- Harbwr y Gorllewin – Porth Tywyn
- Heol y Neuadd – Y Tymbl
- Neuadd Goffa – Pontyberem
- Pafiliwn Bowlio – Y Garnant
- Canolfan Gwenllian – Cydweli
*uned a weithredir gan Pod Point – 26c y kWh
Y cyfraddau* presennol gan gynnwys TAW yw:
- £0.25 y kWh o drydan a ddefnyddir
Mae 2 beiriant gwefru cyflym (50kW) hefyd wedi'u lleoli ym maes Parcio a Theithio Nant-y-Ci ac ym maes parcio'r Castell, Llanymddyfri.
Gall y rhain wefru cerbyd trydan i 80% mewn 30-40 munud. Mae'r dull o dalu yn ddigyffwrdd ac mae'n costio 20c y kWh gyda ffi gysylltu o 95c.
Noder:
Cofiwch Dalu ac Arddangos. Bydd angen talu'r ffi berthnasol i gwmpasu'r cyfnod y mae cerbyd wedi'i barcio yn y maes parcio (os oes angen).
Teithio, Ffyrdd a Pharcio
Ymgeisio am...
- Cau ffordd o ganlyniad waith brys
- Cau ffordd ar gyfer gwaith sydd wedi'i gynllunio
- Hysbysu am gwaith yn y ffyrdd
- Ymgeisio am addurniadau tymhorol ar/uwchben y briffordd
- Arwyddion rhybuddio marchogaeth
- Arwyddion traffig cludadwy
- Arwyddion twristiaeth brown
- Marciau i warchod mynediad preifat (Bar H)
- Mynediad i lleoedd parcio i'r anabl
- Mynediad i gerbydau i dramwyfeydd (cyrbau isel)
- Ganiatâd i wneud gwaith insiwleiddio allanol dros briffordd
- Cynllun parcio i breswylwyr
- Tystysgrif hepgor gollyngiad
Beicio modur
- Dillad a Helmed Beicio Modur
- Hyfforddiant Beic Modur
- Biker Down! Cymru
- Dragon Rider Cymru
- Carden CRASH Beiciau Modur
Ceir Cefn Gwlad
Ceir trydan - Pwyntiau gwefru
Diogelwch ffyrdd
Gorchmynion rheoleiddio traffig
Graeanu
Gwaith ar y ffyrdd
Gwasanaethau bws
Mynediad ar gyfer cerdded a beicio (Teithio Llesol)
Mwy ynghylch Teithio, Ffyrdd a Pharcio