Biker Down! Cymru

Diweddarwyd y dudalen ar: 01/04/2019

Gan fod beicwyr modur yn dueddol o yrru mewn grwpiau neu barau, pan fydd un wedi cael damwain, beiciwr modur arall fel arfer fydd y cyntaf yno. Nod 'Biker Down!' yw lleihau nifer y beicwyr modur sy’n cael eu lladd a’u hanafu’n ddifrifol mewn damweiniau ffyrdd, a chaiff y cynllun ei weithredu gan Ddiffoddwyr Tân Gweithredol / Tîm Beiciau Modur Tân yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Mae’r cwrs yn cynnwys tri modiwl:

  • Rheoli Lleoliad Damwain
  • Cymorth Cyntaf
  • Y Wyddoniaeth o Gael eich Gweld

Bydd y cwrs yn rhoi gwell dealltwriaeth i’r cyfranogwyr o beth i’w wneud os ydynt yn gweld damwain traffig ar y ffordd a sut i reoli’r sefyllfa yn ddiogel.

Beth yw pris y cwrs?

Diolch i Grant Diogelwch Ffyrdd gan Lywodraeth Cymru, mae’r cwrs ar gael AM DDIM. Ar ôl cwblhau’r cwrs, caiff y cyfranogwyr pecyn cymorth cyntaf am ddim.

Course dates

  • 9fed Ebrill, 18:30 - 21:30 yng Ngorsaf Dân Caerfyrddin
  • 18fed Mehefin, 18:30 - 21:30 yng Ngorsaf Dân Llanelli
  • 6ed Gorffennaf, 12:30 - 15:30 - Penwythnos Beiciau Modur LLanymddyfri

Gallwch gadw lle ar y cwrs ar y ffôn ar 01267 228285, neu drwy e-bost: info@bikerdowncymru.org.uk.