Ffyrdd Gwledig
Rydym yn dadansoddi data ynghylch gwrthdrawiadau yn rheolaidd ar gyfer rhwydwaith ffyrdd ein sir, ac mae ein ffyrdd gwledig yn dal i fod yn achos pryder o ran nifer y bobl sy'n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol arnynt.
Mae ystadegau diweddar ar gyfer ein ffyrdd gwledig yn dangos bod 125 o wrthdrawiadau lle cafodd rhywun ei ladd neu ei anafu'n ddifrifol wedi digwydd rhwng 2016 a 2018. Cafodd 145 o bobl eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol yn y rhain, ac roedd gyrwyr ifanc rhwng 17 a 24 oed yn rhan o 23% o'r gwrthdrawiadau hyn.
Bu farw 26 o bobl yn ystod y cyfnod hwn; 77% ohonynt ar ein ffyrdd gwledig.
Ystadegyn a allai eich synnu yw bod camgymeriadau dynol yn ffactor yn 95% o'r holl wrthdrawiadau sy'n digwydd ar y ffordd.
Mae llawer o waith wedi'i wneud i wella rhwydwaith ffyrdd y sir drwy amryw o gynlluniau diogelwch ar y ffyrdd a thrwy fentrau addysgol a hyfforddiant, ond mae gwrthdrawiadau'n dal i ddigwydd ar ein ffyrdd gwledig.
Rydym eisiau grymuso gyrwyr i wneud cyfraniad cadarnhaol i ddiogelwch ffyrdd yn eu cymunedau eu hunain drwy wneud y canlynol:
- Hysbysebu'r grwpiau/gweithgareddau cymunedol ynghylch diogelwch ffyrdd yn yr ardal.
- Rhoi cynghorion ymarferol o ran heriau bob dydd ar y ffordd.
- Cynnal sesiynau ymarferol am ddim ar y ffordd.
Rydym wedi sicrhau cyllid Grant Diogelwch Ffyrdd gan Lywodraeth Cymru am yr ail flwyddyn. Rydym yn cynnal digwyddiadau i gynorthwyo cymunedau lleol i wella ymhellach ddiogelwch ffyrdd a sgiliau gyrru ar ffyrdd gwledig, drwy roi gwybodaeth a chyngor gwerthfawr i breswylwyr.
Bydd y prosiect yn cael ei weithredu mewn partneriaeth â'r canlynol Heddlu Dyfed-Powys, GanBwyll, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Sefydliad Gyrwyr Safon Uwch Caerfyrddin a Gorllewin Cymru, Cymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau De Cymru a Nifer o Hyfforddwyr Gyrru.
Teithio, Ffyrdd a Pharcio
Ymgeisio am...
- Cau ffordd o ganlyniad waith brys
- Cau ffordd ar gyfer gwaith sydd wedi'i gynllunio
- Hysbysu am gwaith yn y ffyrdd
- Ymgeisio am addurniadau tymhorol ar/uwchben y briffordd
- Arwyddion rhybuddio marchogaeth
- Arwyddion traffig cludadwy
- Arwyddion twristiaeth brown
- Marciau i warchod mynediad preifat (Bar H)
- Mynediad i lleoedd parcio i'r anabl
- Mynediad i gerbydau i dramwyfeydd (cyrbau isel)
- Ganiatâd i wneud gwaith insiwleiddio allanol dros briffordd
- Cynllun parcio i breswylwyr
- Tystysgrif hepgor gollyngiad
Beicio modur
- Dillad a Helmed Beicio Modur
- Hyfforddiant Beic Modur
- Biker Down! Cymru
- Dragon Rider Cymru
- Carden CRASH Beiciau Modur
Ceir Cefn Gwlad
Ceir trydan - Pwyntiau gwefru
Diogelwch ffyrdd
Gorchmynion rheoleiddio traffig
Graeanu
Gwaith ar y ffyrdd
Gwasanaethau bws
Mynediad ar gyfer cerdded a beicio (Teithio Llesol)
Mwy ynghylch Teithio, Ffyrdd a Pharcio