Pass Plus Cymru
Cynllun a ariannir gan Lywodraeth Cymru yw Pass Plus Cymru, ar gyfer gyrwyr ifanc rhwng 17 a 25 sydd wedi pasio eu prawf yn ddiweddar. Nod y cynllun yw helpu gyrwyr ifanc i wella eu sgiliau gyrru, i gael mwy o brofiad, ac o bosib i gael gostyngiad ar eu hyswiriant car.
Mae’r cynllun yn gofyn bod gyrwyr ifanc yn mynychu tiwtorial rhyngweithiol tair awr a ddilynir gan sesiwn hyd at naw awr ‘ar y ffordd yn y car’ (wedi ei rhannu rhwng dau yrrwr) gyda Hyfforddwr Gyrru Cymeradwy sydd wedi cofrestru gyda Pass Plus Cymru.
Mae cynllun Pass Plus Cymru yn cynnwys chwe modiwl a luniwyd yn arbennig, ac sy’n cwmpasu’r canlynol:
- Gyrru yn y dref
- Tu allan i’r dref
- Ym mhob tywydd
- Yn y nos
- Ar ffyrdd deuol
- Ar draffyrdd
Hefyd rhoddir sylw i yrru amddiffynnol, ymwybyddiaeth o beryglon, canolbwyntio, goryrru, gyrru o dan ddylanwad cyffuriau ac alcohol, agweddau ac ymddygiad diogel.
Oherwydd y bydd y cyfranogwyr yn cael eu hyfforddi gan hyfforddwr gyrru proffesiynol, byddant yn cael profiad ychwanegol gwerthfawr a sgiliau moduro cadarnhaol y byddai angen amser hir arnynt i’w caffael fel arall.
Ar ôl cwblhau'r cwrs, bydd pob ymgeisydd yn cael Tystysgrif Pass Plus. Byddwch chi'n gallu defnyddio'r dystysgrif hon i hawlio'ch gostyngiad ar eich yswiriant car.
Beth yw cost y cwrs?
Cost y cwrs, sydd wedi ei achredu gan yr Asiantaeth Safonau Gyrru (DVSA), yw £20, sef gostyngiad sylweddol ar y gost arferol o ryw £160. Yr awdurdod lleol sy’n talu’r gweddill, o grant diogelwch ffyrdd Llywodraeth Cymru.
Teithio, Ffyrdd a Pharcio
Ymgeisio am...
- Cau ffordd o ganlyniad waith brys
- Cau ffordd ar gyfer gwaith sydd wedi'i gynllunio
- Hysbysu am gwaith yn y ffyrdd
- Ymgeisio am addurniadau tymhorol ar/uwchben y briffordd
- Arwyddion rhybuddio marchogaeth
- Arwyddion traffig cludadwy
- Arwyddion twristiaeth brown
- Marciau i warchod mynediad preifat (Bar H)
- Mynediad i lleoedd parcio i'r anabl
- Mynediad i gerbydau i dramwyfeydd (cyrbau isel)
- Ganiatâd i wneud gwaith insiwleiddio allanol dros briffordd
- Cynllun parcio i breswylwyr
- Tystysgrif hepgor gollyngiad
Beicio modur
- Dillad a Helmed Beicio Modur
- Hyfforddiant Beic Modur
- Biker Down! Cymru
- Dragon Rider Cymru
- Carden CRASH Beiciau Modur
Ceir Cefn Gwlad
Ceir trydan - Pwyntiau gwefru
Diogelwch ffyrdd
Gorchmynion rheoleiddio traffig
Graeanu
Gwaith ar y ffyrdd
Gwasanaethau bws
Mynediad ar gyfer cerdded a beicio (Teithio Llesol)
Mwy ynghylch Teithio, Ffyrdd a Pharcio