A fydd y Cyngor yn cyflwyno rhagor o eithriadau?
Mae ystyriaeth yn cael ei rhoi i gytuno ar ymagwedd genedlaethol, ledled Cymru, at asesu ceisiadau am eithriadau yn y dyfodol, a hynny drwy ddefnyddio set gyffredin o egwyddorion i sicrhau cysondeb ac unffurfiaeth i fodurwyr.
Awgrymir hefyd y dylid cael cyfnod 'cynefino' i ganiatáu trafodaethau mwy ystyrlon wrth wneud cynnydd o ran y mater hwn, tra bo gyrwyr a chymunedau'n dod i arfer â'r terfynau cyflymder newydd. Mae hyd y cyfnod "cynefino" a awgrymir yn cael ei drafod a'i ystyried yn genedlaethol ar hyn o bryd, ac mae'r Cyngor yn aros am ganllawiau Llywodraeth Cymru ar y mater hwn.
Pan geir cytundeb, byddwn mewn sefyllfa i ystyried ymagwedd strategol at adolygu ein rhwydwaith, gan edrych o bosibl ar ein prif ffyrdd sydd o bwysigrwydd strategol fel blaenoriaeth gychwynnol. Wrth gwrs bydd yr ymagwedd hon yn rhoi amser i ni asesu sut mae'r terfynau cyflymder newydd wedi newid ymddygiad gyrwyr, wedi effeithio ar gyflymder traffig, ac wedi cyfrannu at ddiogelwch ar y ffyrdd.
Er bydd yna broses lle gall cymunedau neu unigolion ofyn i ni adolygu terfyn cyflymder penodol, dylid cofio y bydd yn rhaid i ni ddefnyddio ymagwedd strwythuredig a blaenoriaethol wrth ymdrin ag unrhyw geisiadau o'r fath, gan na fyddwn yn gallu ymateb i bob cais ar yr un pryd, a lle gwneir unrhyw newidiadau, bydd angen creu Gorchymyn Rheoleiddio Traffig, sy'n broses gyfreithiol hir a fydd yn destun sylwadau a gwrthwynebiadau posibl.
Mae cyngor cyfreithiol wedi cael ei geisio am y broses a'r meini prawf ar gyfer gwneud eithriadau i'r terfyn cyflymder 20mya diofyn. Felly, mae'n rhaid i eithriadau fod yn seiliedig ar ffeithiau a thystiolaeth ategol yn hytrach nag asesiad mympwyol ar sail barn gyffredinol, neu ar nifer y ceisiadau sy'n dod i law.
Rhaid ystyried rhinweddau pob eithriad yn unigol a rhaid cael tystiolaeth safle-benodol i gefnogi codi'r terfyn cyflymder o'r 20mya diofyn hyd at 30mya.
Rhaid i bob eithriad hefyd ddilyn proses gyfreithiol benodol o ran gwneud gorchymyn rheoleiddio traffig i godi'r terfyn cyflymder i 30mya.
Sut caiff eithriadau'r dyfodol eu hariannu?
Bydd unrhyw eithriadau yn y dyfodol yn dibynnu ar gyllid gan Lywodraeth Cymru.
Beth mae'r data cynnar yn ei ddweud wrthym?
Ar hyn o bryd mae data rhagarweiniol safleoedd monitro o amgylch Sir Gaerfyrddin yn dangos gostyngiad amlwg mewn cyflymderau traffig, yn amrywio o 5mya i 9mya ers cyflwyno'r terfynau cyflymder o 20mya.
Rhoi Gwybod am Bryderon ynghylch Goryrru
Yr Heddlu a Gan Bwyll sy'n gyfrifol am y rôl o orfodi'r terfyn cyflymder presennol yn hytrach na'r Cyngor Sir, gan nad oes gennym unrhyw bwerau gorfodi yn hyn o beth. Gallwch roi gwybod i Gan Bwyll yn uniongyrchol am eich pryder ynghylch goryrru yn y gymuned, ac fe wnawn nhw ymchwilio i'r mater.
ADRODD PRYDER CYMUNEDOL
Gallwch ddysgu mwy am sut mae'r Heddlu a Gan Bwyll yn gorfodi'r terfyn 20mya yma:
GANBWYLL - 20MYA