Parcio a theithio

Diweddarwyd y dudalen ar: 02/12/2022

Mae’r gwasanaeth Parcio a Theithio Caerfyrddin PR1 yn mynd o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 0730 a 1825 ac yn cynnig cyfl euster Parcio a Theithio bob hanner awr o faes parcio Nant-y-ci i Ganol y Dref ac Ysbyty Glangwili.

Mae'r gwasanaeth yn dechrau o maes parcio Nant-y-ci (SA31 3SA) ac yn stopio yng Ngorsaf Fysiau Caerfyrddin - y prif arosfan yng nghanol y dref - cyn symud ymlaen i Heol Spilman a San Pedr lle gallwch fwynhau cyfleoedd siopa yn ardal Heol y Brenin . Os ydych yn ymweld â'r Ysbyty neu'n gweithio yno, mae'r gwasanaeth hefyd yn ymestyn i Glangwili cyn dychwelyd i Nant-y-ci.

Gallwch deithio rhwng unrhyw un o'r mannau aros a restrir uchod a y prisiau'n debyg i brisiau gwasanaethau bysiau lleol eraill. Byddwch yn gallu prynu neu ddefnyddio tocynnau dwyffordd , tocynnau 12 taith, Tocynnau Crwydro Gorllewin Cymru a Thocynnau Teithio Rhatach Cymru Gyfan fel y byddent ar wasanaethau bysiau eraill yn y dref.

Os ydych yn dechrau eich taith ym maes parcio Nant-y-ci , gallwch parcio AM DDIM ond mae cynnig arbennig o docyn dwyffordd undydd am £ 1 ar gael os ydych yn teithio i ganol y dref neu i'r ysbyty , a bydd plant o dan 16 oed yn teithio am ddim os ydynt yng nghwmni oedolyn sy'n prynu neu'n defnyddio tocyn £1.

Os ydych yn ddeiliad Cerdyn Teithio Rhatach Cymru Gyfan gallwch deithio am ddim o'r maes parcio ac yn ôl. Cofiwch fod rhwystr ar waith yn y maes parcio hwn. Uchder y rhwystr yw 2.1 metr.

Mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu gennym ni mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Teithio, Ffyrdd a Pharcio