Ganiatâd i wneud gwaith insiwleiddio allanol dros briffordd
Os nad oes gardd flaen gan eich eiddo, a'i fod yn ffinio â'r palmant, dylech wneud cais am ganiatâd gennym cyn gwneud gwaith insiwleiddio allanol. Mewn lleoliadau priodol, caniateir codi adeilad dros briffordd a gynhelir gennym.
Hefyd, bydd angen i chi:
- Cysylltu â'r adran gynllunio i gael gwybod a fydd angen caniatâd cynllunio
- Cysylltu â'r gwasanaeth rheoli adeiladu cyn dechrau'r gwaith i gwblhau cais elfennau thermol
I wneud cais bydd angen i chi ddarparu'r manylion canlynol:
- cyfeiriad yr eiddo y bydd y gwaith arfaethedig yn effeithio arno
- rhif y ffordd (os yw'n hysbys)
- nodi'r rhannau o'r briffordd y bydd y gwaith yn effeithio arnynt - ymyl/llwybr troed/ffordd gerbydau/lôn gefn
- disgrifiad o'r gwaith
- amcangyfrif o faint fydd y gwaith yn para
- dyddiad dechrau arfaethedig y gwaith
- dyddiad cwblhau arfaethedig y gwaith
- lled y llwybr troed/ffordd gerbydau presennol (bras amcan)
- lled y gwaith (bras amcan)
- estyniad dros y briffordd (bras amcan)
- ardal glir uwchben lefel y briffordd
- enw, cyfeiriad a rhif ffôn y contractwr
- rhif polisi ar gyfer yswiriant sydd ag indemniad o £5 miliwn (o leiaf) a'r dyddiad y mae'n dod i ben
- cynllun y safle - yr eiddo a'r gwaith arfaethedig ar raddfa o 1/500 o leiaf
- cynllun y lleoliad mewn perthynas â'r hyn sydd o'i amgylch ar raddfa o 1/1250 neu 1/2500 neu 1/10,000 o leiaf
Y ffi ar gyfer gwneud cais yw £39.00 (nes 31 Mawrth 2021).
Bydd angen i chi ddychwelyd eich ffurflen gais gyflawn a'ch siec yn daladwy i Gyngor Sir Caerfyrddin i: Gofal Strydoedd, Adran yr Amgylchedd, Parc Myrddin, Caerfyrddin, SA31 1HQ.
Gofynnir i chi ganiatáu rhwng 6 ac 8 wythnos i'ch cais gael ei asesu.
Teithio, Ffyrdd a Pharcio
Ymgeisio am...
- Cau ffordd o ganlyniad waith brys
- Cau ffordd ar gyfer gwaith sydd wedi'i gynllunio
- Hysbysu am gwaith yn y ffyrdd
- Ymgeisio am addurniadau tymhorol ar/uwchben y briffordd
- Arwyddion rhybuddio marchogaeth
- Arwyddion traffig cludadwy
- Arwyddion twristiaeth brown
- Marciau i warchod mynediad preifat (Bar H)
- Mynediad i lleoedd parcio i'r anabl
- Mynediad i gerbydau i dramwyfeydd (cyrbau isel)
- Ganiatâd i wneud gwaith insiwleiddio allanol dros briffordd
- Cynllun parcio i breswylwyr
- Tystysgrif hepgor gollyngiad
Beicio modur
- Dillad a Helmed Beicio Modur
- Hyfforddiant Beic Modur
- Biker Down! Cymru
- Dragon Rider Cymru
- Carden CRASH Beiciau Modur
Ceir Cefn Gwlad
Ceir trydan - Pwyntiau gwefru
Diogelwch ffyrdd
Gorchmynion rheoleiddio traffig
Graeanu
Gwaith ar y ffyrdd
Gwasanaethau bws
Mynediad ar gyfer cerdded a beicio (Teithio Llesol)
Mwy ynghylch Teithio, Ffyrdd a Pharcio