Mynediad i lleoedd parcio i'r anabl
Diweddarwyd y dudalen ar: 19/10/2023
Lleoedd parcio i'r anabl yw focs siâp petryal sy'n cynnwys y geiriau ANABL/DISABLED ynghyd â'r arwydd rheoleiddio cysylltiedig a caniateir i ddefnyddwyr ceir anabl.
Fydd y lleoedd parcio i'r anabl DDIM am defnydd y person a wnaeth y gais amdano yn unig. Gall unrhyw yrrwr sy'n arddangos bathodyn glas dilys ei ddefnyddio.
Os hoffech wneud cais am le parcio i'r anabl ar Gefnffordd h.y. A40 A48 A477 neu A483, cysylltwch a Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru drwy ffonio 0300 123 1213
I gael eich ystyried ar gyfer lle parcio i'r anabl, mae'n rhaid i chi fodloni'r meini prawf canlynol:
- Mae gennych Fathodyn Glas ac rydych yn derbyn cyfradd uwch elfen symudedd y Lwfans Byw i'r Anabl (HRMCDLA) / Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP) sy'n cynnwys disgrifyddion penodol.
- Rydych yn defnyddio cadair olwyn ac yn gallu gwthio'r gadair y tu allan am bellter byr iawn yn unig
- Rydych yn dioddef problemau cylchrediad parhaol a sylweddol (e.e. heb goesau, diffygion o ran asgwrn cefn neu system nerfol ganolog) sy'n arwain at symudedd cyfyngedig difrifol a/neu ddibyniaeth barhaol ar galiperau/baglau penelin.
Gallwch hefyd wneud cais os ydych chi'n gyfrifol am yrru person anabl sy'n dal bathodyn glas a'ch bod chi'n byw yn yr un cyfeiriad. Fodd bynnag, ni fyddech yn llwyddiannus oni bai bod gennych dystiolaeth o'ch nam neu'ch anabledd eich hun. Byddem yn disgwyl i yrrwr gyda corff abl barcio dwbl i godi neu osod y teithiwr anabl a symud y cerbyd wedyn.
Ynghyd â bodloni'r meini prawf, mae angen:
- bod diffyg lleoedd parcio ar eich stryd ac mae'n rhaid iddo fod yn ddiogel i ddarparu lle parcio.
- ni ddylai fod parcio oddi ar y ffordd ar gael i chi megis garej hygyrch neu lawr caled.
- lleoliad i'r bae i godi/ei osod o fewn 25 metr i'ch eiddo.
Nid yw'r cyngor yn codi tâl am y gwasanaeth hwn.
Oherwydd cyllideb gyfyngedig a galw mawr am leoedd parcio i bobl anabl, mae system flaenoriaethu wedi cael ei datblygu. Mae'r sgôr yn seiliedig ar ffeithiau ac arsylwadau a gofnodwyd er mwyn asesu a blaenoriaethu pob cais.
Meini Prawf Asesu | Sgôr Uchaf |
---|---|
Parcio addas oddi ar y stryd | 20 pwynt |
Aliniad y ffordd, parcio a reoleiddir a diogelwch |
10 pwynt |
Lled y ffordd | 10 pwynt |
Dosbarth y Ffordd | 10 pwynt |
Arolwg parcio (4 ymweliad) | 20 pwynt |
Rhaid cael isafswm sgôr o 35 o bwyntiau cyn bod cais yn cael ei osod ar restr flaenoriaethu.
Caiff y rhestr ei gosod mewn trefn ar ddechrau'r flwyddyn ariannol newydd.
Bydd y ceisiadau â'r sgorau uchaf yn cael gwybod eu bod wedi cyrraedd cyfnod ymgynghori'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig.
Bydd ceisiadau aflwyddiannus sydd â sgôr yn llai na 35 o bwyntiau yn cael gwybod a bydd y cais yn cael ei dynnu'n ôl.
Byddwn yn:
- ymweld â'ch cartref ar amseroedd gwahanol bedair gwaith a byddwn yn asesu pa mor anodd ydyw i barcio ar eich stryd.
- gynnal ymgynghoriadau cyhoeddus â gwasanaethau argyfwng, grwpiau mynediad pobl anabl lleol, cynghorau sir lleol ynghyd â pherchnogion a phreswylwyr eiddo cyfagos.
Noder y gall hyn fod yn broses hir iawn gan dim ond unwaith y flwyddyn y caiff y rhestr o geisiadau eu hadolygu. Dibynnu pryd byddwch chi’n gweud eich cais, gall cymryd hyd at 12 mis.
Os ydych chi'n symud tŷ ac mae gennych Lleoedd parcio i'r anabl os nad oes unrhyw person arall yn y lleoliad gyda bathodyn glas sydd yn gallu defnyddio'r lle, byddwn yn trefnu iddo gael ei waredu.
Os na yw'r ffordd wedi ei fabwysiadu byddai'n rhaid i chi gael caniatâd / cymeradwyaeth gan bob cartref sy'n byw ar y ffordd heb ei fabwysiadu.
Mae marciau sydd â Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yn orfodadwy gan y swyddogion gorfodi sifil.
Teithio, Ffyrdd a Pharcio
Ymgeisio am...
- Cau ffordd o ganlyniad waith brys
- Cau ffordd ar gyfer gwaith sydd wedi'i gynllunio
- Hysbysu am gwaith yn y ffyrdd
- Arwyddion traffig cludadwy
- Ganiatâd i wneud gwaith insiwleiddio allanol dros briffordd
- Arwyddion rhybuddio marchogaeth
- Arwyddion twristiaeth brown
- Ymgeisio am addurniadau tymhorol ar/uwchben y briffordd
- Mynediad i gerbydau i dramwyfeydd (cyrbau isel)
- Marciau i warchod mynediad preifat (Bar H)
- Mynediad i lleoedd parcio i'r anabl
- Hawlen Bargodi Dros Dro
- Cynllun parcio i breswylwyr
- Tystysgrif hepgor gollyngiad
Mynediad ar gyfer cerdded a beicio (Teithio Llesol)
Gwasanaethau bws
Rhannu ceir
Tocyn teithio consesiwn
Ceir Cefn Gwlad
Gwefru Cerbyd Trydan
Graeanu
Beicio modur
- Dillad a Helmed Beicio Modur
- Hyfforddiant Beic Modur
- Biker Down! Cymru
- Dragon Rider Cymru
- Carden CRASH Beiciau Modur
Parcio
Pont pwyso cyhoeddus
Rhoi gwybod am anifail sydd wedi marw ar y ffordd
Rhoi gwybod am broblemau ar y ffyrdd
- Rhoi gwybod am dwll yn y ffordd
- Rhoi gwybod am lifogydd / ddraen wedi blocio ar Briffordd
- Rhoi gwybod am olau stryd ddiffygiol
- Rhoi gwybod am lystyfiant wedi gordyfu / chwyn niweidiol
- Rhoi gwybod am goed peryglus / wedi cwympo
- Rhoi gwybod am berygl baglu
- Rhoi gwybod am falurion / rwystr / tirlithriad
- Rhoi gwybod am beryglon Y Gaeaf
- Rhoi gwybod am farciau / arwyddion ffordd diffygiol
- Rhoi gwybod am strwythur ar briffordd
- Rhoi gwybod am oleuadau traffig dros dro diffygiol
- Rhoi gwybod am ffensys / rhwystrau wedi difrodi
- Rhoi gwybod am broblem gyda chysgodfan fysiau
- Rhoi gwybod am gerbyd wedi'i adael
- Rhoi gwybod am glawr twll archwilio / draen wedi difrodi
- Rhoi gwybod am ddodrefn stryd wedi difrodi / ar goll
- Rhoi gwybod am oleuadau traffig parhaol diffygiol
Rhoi gwybod am gerbyd wedi'i adael
Diogelwch ffyrdd
Mwy ynghylch Teithio, Ffyrdd a Pharcio