Adolygu gostyngiad person sengl
Rydym yn parhau i adolygu gostyngiadau, a bydd hyn yn ein helpu i nodi hawliadau twyllodrus ymysg talwyr Treth Gyngor sy'n ceisio twyllo'r system. Bob blwyddyn mae awdurdodau lleol ar draws y wlad yn cael nifer fawr o geisiadau am ostyngiad person sengl.
Yn anffodus, mae rhai o'r ceisiadau hyn yn rhai ffug ac mae'r bobl hyn yn hawlio gostyngiadau ar eu biliau trwy dwyll, yn union yn yr un modd â thwyllwyr budd-daliadau. Mae deddf ar gael sy'n caniatáu i dwyllwyr Treth Gyngor gael eu herlyn yn yr un modd â thwyllwyr budd-daliadau, a hynny drwy'r system llysoedd lle mae rheidrwydd arnyn nhw i ad-dalu'r arian sy'n ddyledus.
Bydd gwiriadau'n cael eu cynnal i sicrhau bod pob un sy'n gwneud cais am y gostyngiad yn ddilys. Fodd bynnag, efallai na fydd hi'n rhwydd egluro amgylchiadau o bryd i'w gilydd. Er mwyn cynorthwyo â'r sefyllfaoedd hyn rydym wedi cynnwys y cwestiynau mwyaf cyffredin sy'n debygol o gael eu holi yn ystod y cyfnod adolygu hwn.
Beth y mae angen i mi ei wneud?
Bydd angen ichi gadarnhau eich manylion presennol drwy gwblhau'r Adolygiad Gostyngiad Person Sengl. I gael eich ffurflen, bydd angen ichi roi'r wybodaeth ganlynol sydd wedi'i darparu ar y llythyr rydym wedi ei anfon atoch.
- Rhif PIN
- Rhif y cyfrif
- Côd Post
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y ffurflen neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin.
Treth y Cyngor
Bandiau Treth Gyngor
Talu eich Treth Gyngor
Diweddaru/ychwanegu eich manylion
Ôl-ddyledion / Sefydlu cynllun talu
Mwy ynghylch Treth y Cyngor