Hysbysiad Treth y Cyngor 2019/20

Diweddarwyd y dudalen ar: 04/04/2019

Rydym wedi clustnodi £576.139m yn ein cyllideb i wario ar ddarparu gwasanaethau i'n trethdalwyr yn 2019/20 (o’i gymharu â ffigur o £566.644m yn 2018/19).

Telir swm pellach o £9.965m i gyrff cyhoeddus eraill ar ffurf taliadau treth a chyfraniadau. Y gwariant net yw £363.302m.

£1,255.17 fydd y dreth Band D a godir gan y Cyngor Sir ar Drethdalwyr y Cyngor ar gyfer 2019/20, sy’n cynrychioli codiad o 4.89% o ran Treth y Cyngor.

  2018/2019 2019/2020 2019/2020

Gwasanaethau:

Gwariant Gross (£m) Gwariant Gross (£m) Gwariant Net (£m)
Gwasanaethau Canolog 39.155 40.404 33.219
Gwasanaethau Diwylliannol, Amgylcheddol a Chynllunio 60.683 64.621 48.011
Addysg a Gwasanaethau Plant 209.078 211.734 176.688
Gwasanaethau Priffyrdd, Ffyrdd a Thrafnidiaeth 32.019 30.105 19.889
Gwasanaethau Tai 108.652 104.917 3.026
Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion 117.057 124.358 82.469
Gwariant ar Wasanaethau 566.644 576.139 363.302

Trethi a godir ar gyfer:

     
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog 0.142 0.145 0.145
Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru 9.582 9.820 9.820
Gweddillion (-) / Diffygion y Cyfrif Masnachu -1.331 -1.456 -1.456
Llog Net a Newidiadau Cyfrifyddu Cyfalaf -15.512 -20.497 -20.497
Addasiad i'r Gronfa Pensiwn 0.000 0.000 0.000
Cyfraniadau i'r/o'r (-) Cronfeydd wrth gefn 0.000 0.000 0.000
Gwariant y Cyngor Sir 559.525 564.151 351.314

I'w ariannu drwy

     
Grant Cynnal Refeniw y Llywodraeth -199.828 -200.096  
Treth Annomestig Cenedlaethol -59.612 -60.293  
Grantiau/Ad-daliadau Penodol -94.170 -95.759  
Ffioedd, Taliadau ac Incwm Arall -119.577 -117.078  
Talwyr Treth y Cyngor -86.338 -90.925  
  -559.525 -564.151  

Rydym yn bwriadu gwario £135.6m yn 2019/20 ar brosiectau cyfalaf (£71.2m yn 2018/19 a ariennir o’r ffynonellau canlynol:

Ffynonellau £m
Benthyciadau 41.1
Derbyniadau o Werthu Asedau 9.6
Cymorth Grant 60.7
Ffynonellau Eraill 24.2
Cyfanswm 135.6

Mae angen cronfeydd cyffredinol wrth gefn (neu weddillion) i ganiatáu ar gyfer lefelu’r codi a’r gostwng sy’n digwydd mewn gweithgareddau ariannol unrhyw flwyddyn.

Amcangyfrifir y bydd gweddillion o’r fath tua £8.5m ar y 31ain Mawrth, 2020 (£8.5m ar y 31ain Mawrth, 2019).

Rydym hefyd wedi rhoi cronfeydd eraill wrth gefn o’r neilltu i gwrdd â gwariant penodol ac amcangyfrifir y bydd eu cyfanswm hwy yn £39.1m ar yr 31ain Mawrth, 2020(£52.3m ar yr 31ain Mawrth 2019).

Cyngor tref / cymuned Praesept 2018/19 (£) Praesept 2019/2020 (£) Treth cyngor band D 19/20 (£)
Abergwili 29,330.00 31,830.00 44.37
Abernant 3,000.00 2,750.00 21.05
Betws 27,000.00 32,000.00 36.59
Bronwydd 9,135.47 8,437.00 31.35
Caerfyrddin 706,425.00 727,617.75 133.10
Castell Newydd Emlyn 27,346.48 28,631.76 62.12
Cenarth 9,000.00 9,000.00 16.98
Cilycwm 5,000.00 5,000.00 22.31
Cilymaenllwyd 6,000.00 6,000.00 17.47
Cwarter Bach 84,173.60 99,173.61 105.23
Cwmaman 222,414.00 234,900.00 150.99
Cydweli 134,845.00 165,715.00 120.46
Cynwyl Elfed 12,415.15 12,787.60 28.40
Cynwyl Gaeo 6,000.00 6,000.00 14.04
Dyffryn Cennen 5,000.00 5,000.00 9.88
Eglwys Gymyn 6,000.00 6,000.00 32.21
Gorslas 81,289.56 90,720.00 46.51
Hendy-gwyn 42,421.42 55,000.00 78.82
Henllanfallteg 3,500.00 5,600.00 25.60
Llanarthne 19,000.00 20,000.00 50.40
Llanboidy 15,459.67 26,192.00 60.84
Llanddarog 17,428.00 17,971.00 33.14
Llanddeusant 2,300.00 2,750.00 21.73
Llanddowror a Llanmiloe 16,600.00 18,100.00 54.63
Llandeilo 62,073.00 65,177.00 83.70
Llandybie 180,000.00 180,000.00 41.99
Llandyfaelog 20,800.00 21,300.00 34.44
Llanedi 211,150.00 216,209.00 96.73
Llanegwad 10,000.00 10,000.00 14.23
Tref Llanelli 900,000.00 910,000.00 103.64
Llanelli Wledig 1,011,060.00 1,041,560.00 128.63
Llanfair-ar-y-bryn 4,500.00 4,500.00 17.10
Llanfihangel Aberbythych 17,500.00 17,500.00 30.37
Llanfihangel Rhos-y-corn 7,500.00 7,500.00 34.61
Llanfihangel-ar-Arth 45,000.00 49,000.00 54.71
Llanfynydd 7,000.00 7,000.00 31.23
Llangadog 20,000.00 20,000.00 32.64
Llangain 9,420.00 9,873.00 34.50
Llangathen 7,200.00 7,200.00 27.29
Llangeler 31,300.19 31,613.20 21.45
Llangennech 209,148.00 219,490.00 113.81
Llangyndeyrn 50,391.00 51,903.00 35.75
Llangynin 3,321.00 3,562.00 26.57
Llangynnwr 30,000.00 30,000.00 26.31
Llangynog 8,000.00 9,000.00 39.02
Llanismel 33,000.00 34,000.00 44.50
Llanllawddog 6,937.00 7,128.00 21.43
Llanllwni 13,000.00 13,000.00 41.57
Llannewydd a Merthyr 6,500.00 6,500.00 21.69
Llannon 285,658.00 322,450.00 168.59
Llanpumsaint 7,204.34 8,067.25 25.00
Llansadwrn 6,000.00 6,000.00 27.05
Llansawel 5,000.00 5,000.00 25.82
Llansteffan a Llanybri 21,500.00 22,000.00 39.23
Llanwinio 6,000.00 8,000.00 40.28
Llanwrda 8,000.00 10,500.00 44.89
Llanybydder 39,500.00 44,000.00 75.20
Llanycrwys 1,150.00 1,250.00 12.01
Llanymddyfri 57,267.00 60,130.00 78.43
Manordeilo a Salem 15,000.00 16,000.00 20.58
Meidrim 10,000.00 12,500.00 46.47
Myddfai 2,900.00 3,200.00 17.92
Pen-bre a Phorth Tywyn 401,600.00 456,632.00 143.50
Pencarreg 13,000.00 13,500.00 25.32
Pentywyn 7,376.18 7,379.94 47.00
Pontyberem 110,666.63 111,977.37 113.24
Rhydaman 136,968.00 191,077.00 100.17
Sanclêr 81,489.00 85,724.00 64.99
Talacharn 29,533.43 30,403.51 54.43
Talyllychau 8,000.00 8,000.00 33.35
Trelech a'r Betws 0.00 0.00 0.00
Trimsaran 64,338.00 67,769.00 80.31

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn pennu Asesiad Gwariant Safonol ar ein cyfer. Dyma’r swm y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn asesu sydd ei angen, mewn termau cymharol, i ddarparu lefel safonol o wasanaeth yn yr ardal. Nodir isod yr asesiad ar gyfer 2019/20 ynghyd â chymhariaeth â'n gofynion cyllidebol: 

Asesiad/Gofynion Cyllidebol Asesiad Gwariant Safonol (£m) Treth Cyngor Band D (£)
Asesiad Gwariant Safonol 353.034 1,279
Gofynion Cyllidebol (gan gynnwys praeseptau Cymuned) 357.042 1,339
Band Prisio A B C D E F G H I
Cyfran o'r Dreth 6/9 7/9 8/9 9/9 11/9 13/9 15/9 18/9 21/9
Y Cyngor Sir (£) 836.78 976.24 1,115.71 1,255.17 1,534.10 1,813.02 2,091.95 2,510.34 2,928.73
Heddlu Dyfed Powys (£) 165.71 193.32 220.94 248.56 303.80 359.03 414.27 497.12 579.97
Cynghorau Cymuned (cyfartaledd) 55.97 65.30 74.63 83.96 102.62 121.28 139.93 167.92 195.91

Mae pob preswylfa wedi cael ei rhoi yn un o’r 9 band prisio canlynol:

Band Gwerth yr Eiddo
A Hyd at £44,000
B £44,001 - £65,000
C £65,001 - £91,000
D £91,001 - £123,000
E £123,001 - £162,000
F £162,001 - £223,000
G £223,001 - £324,000
H £324,001 - £424,000
I £424,001 a rhagor

Mae preswylfeydd yn cael eu gosod yn y Band sy’n cynrychioli eu gwerth ar y farchnad agored yn Ebrill 2003. Bydd preswylfeydd newydd a adeiladwyd ar ôl Ebrill 2003 yn cael eu prisio yn ôl prisiau Ebrill 2003. Mae eich bil Treth y Cyngor yn dangos ym mha fand y cafodd eich preswylfa ei gosod.

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio – cangen o Gyllid y Wlad – yn gyfrifol am brisio Treth y Cyngor. Os ydych o’r farn fod band prisio eich preswylfa yn anghywir, gallwch apelio i’r Swyddfa Brisio (gweler y cyfeiriadau isod):

Tŷ Glyder
339 Stryd Fawr
Bangor
LL57 1EP
ctwales@voa.gsi.gov.uk

Llinell Gymorth: 03000 505505

Y gellwch hefyd apelio os ydych o’r farn fod gwerth eich preswylfa wedi gostwng, er enghraifft, oherwydd dymchwel rhan o’r adeilad, newid yng nghyflwr ffisegol yr ardal leol, neu addasiadau i wneud y breswylfa’n un addas ar gyfer rhywun ag anabledd corfforol.

Mae rheolau a therfynau amser ar gyfer apelio. Felly, byddai’n dda o beth ichi gysylltu â llinell gymorth y Swyddfa Brisio i gael cyngor a chyfarwyddyd.

Apelio yn erbyn atebolrwydd i dalu

Gellwch apelio hefyd os credwch nad ydych yn gorfod talu treth y cyngor, er enghraifft, am nad chi yw’r preswylydd neu’r perchennog, neu am fod eich eiddo wedi’i eithrio; neu os yr ydyn wedi gwneud camgymeriad wrth gyfrif eich bil.

Os dymunwch apelio ar sail un o’r rhain, mae’n rhaid i chi’n gyntaf hysbysu’r adran Treth y Cyngor yn ysgrifenedig er mwyn iddynt gael cyfle i ailystyried yr achos. Os nad ydych yn fodlon ar ymateb cewch apelio ymhellach i Dribiwnlys Prisio. Nid yw apelio yn caniatáu i chi beidio â thalu’r dreth sy’n ddyledus yn y cyfamser, ond os bydd eich apêl yn llwyddiannus bydd gennych hawl i gael ad-daliad o unrhyw dreth ormodol a dalwyd.

Gellir cael manylion pellach am y gweith-drefnau apelio (gan gynnwys swyddogaeth y tribiwnlysoedd prisio) oddi wrth adran Treth y Cyngor.

Canllawiau yn unig yw’r nodiadau byr hyn ac efallai y bydd angen bodloni amodau eraill cyn y gellir rhoi gostyngiad.

Am wybodaeth bellach neu gyngor ynghylch Treth y Cyngor ffoniwch 01554 742200 neu danfonwch e-bost i trethcyngor@sirgar.gov.uk.

Gwnewch gais am ostyngiadau yn ddi-oed er mwyn osgoi unrhyw golled bosibl

Os na fydd ond un oedolyn yn byw mewn tŷ, ceir disgownt o 25%. (ond gweler y nodiadau isod yn ymwneud â Thai Gwag ac Ail Gartrefi). Ni chyfrifir y bobl ganlynol wrth edrych ar nifer y preswylwyr, os bodlonir yr amodau:

  • Myfyrwyr a ystyrir yn rhai amser llawn, myfyrwyr nyrsio a chynorthwywyr ieithoedd tramor.
  • Myfyrwyr o dan 20 oed sy'n astudio cwrs rhanamser er mwyn cymhwyso.
  • Rhywun sy'n briod, yn bartner sifil, neu'n ddibynnydd i fyfyriwr, nad yw'n ddinesydd Prydeinig ac sy'n cael ei atal rhag cymryd gwaith cyflogedig neu hawlio Budd-daliadau Gwladol.
  • Plant y telir Budd-dâl Plant ar eu cyfer.
  • Rhai 18 a 19 oed sydd yn yr ysgol, neu newydd adael.
  • Prentisiaid a rhai ar Gyrsiau Hyfforddiant i’r Ifanc.
  • Pobl sydd â salwch meddwl difrifol.
  • Rhai sy’n byw’n barhaol mewn cartrefi preswyl neu ysbytai GIG.
  • Gofalwyr, ond nid os ydynt yn gofalu am briod, partner neu blentyn dan 18 (os taw'r gofalwr yw'r rhiant).
  • Gweithwyr gofal Awdurdod Lleol / elusennau penodol.
  • Aelodau o gymuned grefyddol (e.e. mynachod neu leianod).
  • Preswylwyr hostel.
  • Aelodau o Luoedd sydd ar Ymweliad neu Bencadlysoedd Rhyngwladol a Chyrff Amddiffyn.
  • Carcharorion a gafwyd yn euog neu sy’n aros eu prawf.

Hefyd, yn ychwanegol at y gostyngiadau statudol a grybwyllir uchod, mae gan Gynghorau y grym i roi gostyngiadau ar sail ddewisol ac yn ôl amgylchiadau lleol.

Bydd y rhan fwyaf o dai gwag wedi’u heithrio o Dreth y Cyngor am y chwe mis cyntaf, ac wedyn rhoddir disgownt o 50%. Mae rhai eithriadau i’r rheol hon (gweler isod), ac o dan rai amgylchiadau ni chodir tâl o gwbl (gweler Anheddau sydd wedi’u Heithrio isod).

Fodd bynnag, os oes celfi mewn eiddo heb fod neb yn byw ynddo, neu os oes celfi ynddo ac nad yw'n brif breswylfa i neb, fel rheol ni fydd cyfnod eithrio (ond gweler Anheddau sydd Wedi’u Heithrio isod) ac ni chaniateir disgownt ychwaith. Bydd yn rhaid felly i’r perchennog dalu Treth y Cyngor yn llawn. Fodd bynnag, gellir rhoi gostyngiad o 50% ar gyfer carafan neu pan fydd y sawl sy'n agored i dalu Treth y Cyngor hefyd yn agored i dalu'r un dreth am breswylfa arall, lle y mae'n rhaid iddo/iddi breswylio fel amod o gyflogaeth neu pan fo’n rhaid i aelod o’r Lluoedd Arfog fyw mewn llety hunangynhwysol (e.e. tŷ neu fflat) a ddarperir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Mae eiddo sydd ddim yn brif breswylfa i neb, ac sy'n cael ei osod am gyfnodau byr (ar gyfer gwyliau gan mwyaf), yn gallu bod yn rhwymedig i Drethi Annomestig ac nid y Dreth Gyngor. Mae swyddogion yn y “Swyddfa Brisio” yn gyfrifol am benderfynu a ddylai eiddo gael ei osod ar Restr Brisio’r Dreth Gyngor neu ar y Rhestr Annomestig. Mae'n debygol y bydd manteision ariannol sylweddol i gwsmeriaid os bydd eu heiddo yn cael ei dynnu oddi ar Restr y Dreth Gyngor a'i osod ar y Rhestr Annomestig.

Er mwyn i eiddo gael ei restru ar gyfer Trethi Annomestig rhaid iddo, fel arfer, fodloni'r amodau canlynol:

  1. rhaid iddo fod ar gael i'w osod yn fasnachol, fel llety hunangynhaliol, am gyfnodau byr sy'n dod i gyfanswm o 140 o ddiwrnodau, o leiaf, yn ystod y 12 mis blaenorol
  2. roedd y cyfnodau pryd y cafodd ei roi ar osod yn dod i gyfanswm o 70 o ddiwrnodau, o leiaf
  3. y bwriad yw y bydd yr adeilad, am y 12 mis nesaf, ar gael i'w osod yn fasnachol fel llety hunangynhaliol am gyfnodau byr sy'n dod i gyfanswm o 140 o ddiwrnodau, o leiaf

Mae'n bosibl y bydd amodau eraill yn berthnasol ond gall y ddeddfwriaeth fod yn llai llym pan fo nifer o adeiladau yn cael eu gosod yn yr un lleoliad neu’n agos iawn at ei gilydd.

I gael rhagor o wybodaeth, neu os ydych yn credu y dylai'ch eiddo gael ei dynnu oddi ar Restr Brisio'r Dreth Gyngor a'i roi ar y Rhestr Brisio Annomestig, cysylltwch â'r swyddogion yn y Swyddfa Brisio (gweler “Apeliadau Prisio” am fanylion cyswllt).

Gwnewch gais yn ddi-oed i osgoi'r posibilrwydd o golli cyfle i gael eich eithrio

Bydd rhaid talu Treth y Cyngor ar y rhan fwyaf o anheddau, ond bydd rhai’n cael eu heithrio ac ni fydd rhaid talu Treth y Cyngor arnynt. Mae’r eithriadau canlynol yn berthnasol, os bodlonir yr amodau:

  • Anheddau a adawyd yn wag a heb ddodrefn. Mae'r eithriad yn gyfyngedig i gyfnod o 6 mis hyd yn oed os yn dilyn newid o berchennog neu Dalwr y Dreth Gyngor.
  • Preswylfeydd sy'n wag ac sydd heb eu dodrefnu ac y mae addasiadau'n cael eu gwneud i'w strwythur neu y mae angen gwneud gwaith adnewyddu sylweddol iddynt cyn bod modd byw ynddynt, a phreswylfeydd lle mae gwaith o'r fath wedi cael ei gwblhau'n ddiweddar. Mae'r eithriad yn gyfyngedig o 12 mis hyd yn oed os yn dilyn newid o berchennog neu Dalwr Y Dreth Gyngor.
  • Anheddau a adawyd yn wag gan gleifion sydd mewn ysbyty/cartref gofal.
  • Anheddau a adawyd yn wag gan bobl sy’n derbyn gofal, ac anheddau a adawyd yn wag gan bobl sy’n darparu gofal mewn mannau eraill.
  • Anheddau a adawyd yn wag wedi i’r perchennog - breswylydd diwethaf farw. Gallai amodau/terfynau amser eraill fod yn gymwys hefyd.
  • Preswylfeydd a adawyd yn wag gan garcharorion.
  • Preswylfeydd sy'n wag ac sydd wedi cael eu hadfeddiannu, neu mewn achos o fethdalu, sydd yn nwylo ymddiriedolwyr.
  • Neuaddau preswyl.
  • Preswylfeydd lle nad oes neb ond myfyrwyr yn byw (neu wŷr/gwragedd priod, partneriaid sifil, neu ddibynyddion penodol nad ydynt yn Brydeinig – gweler y gostyngiadau uchod), rhai sydd newydd adael yr ysgol neu rai o dan 18 oed.
  • Preswylfeydd a adawyd yn wag gan berchennog sy'n fyfyriwr.
  • Anheddau lle nad oes neb ond rhywun sydd â salwch meddwl difrifol yn byw.
  • Eiddo gwag sy'n breswylfeydd offeiriadon/gweinidogion neu y mae elusennau'n berchen arnynt (hyd at chwe mis ar gyfer yr olaf).
  • Pan fo gan yr un sy'n atebol imiwnedd diplomyddol.
  • Tai gwag sydd yn gartrefi clerigwyr neu yn eiddo i elusennau.
  • Anheddau y mae’r ddeddf yn gwahardd pobl rhag byw ynddynt.
  • Rhandai sy'n cael eu meddiannu gan berthynas oedrannus neu anabl i'r preswylwyr sy'n byw yn y brif breswylfa.
  • Rhandai gwag na ellir eu rhoi ar osod ar wahân i’r prif gartref.
  • Llecyn parcio neu angorfa pan nad oes carafán neu gwch yno.

Os bydd un neu fwy o’r nodweddion canlynol yn eich tŷ, y mae eu hangen i gwrdd ag anghenion penodol person anabl sydd yn byw yn eich tŷ, yn blentyn neu’n oedolyn, efallai y byddwch yn medru derbyn gostyngiad i’ch bil.

  • ystafell, heblaw ystafell ymolchi, cegin neu doiled, a ddefnyddir yn bennaf gan y person anabl (Sylwer na fydd y gostyngiad yn berthnasol pe bai angen yr ystafell a ddefnyddir gan y person anabl ar yr aelwyd i'w defnyddio fel ystafell wely neu ystafell fyw, hyd yn oed pe na bai ef/hi yn anabl) neu,
  • ail gegin neu ystafell ymolchi a ddefnyddir er mwyn cwrdd ag anghenion y person anabl, neu
  • ddrysau neu fynedfeydd lletach er mwyn medru defnyddio cadair olwyn yn y tŷ.

Ar ôl bwrw golwg dros y tŷ, os byddwch yn gymwys i dderbyn gostyngiad, codir Treth y Cyngor arnoch sydd ar lefel un band yn is na band prisio eich tŷ. Er enghraifft, os yw eich tŷ ym Mand ‘D’, codir tâl arnoch fel petai ym Mand ‘C’.

NODER - O’r 1af Ebrill 2000 ymlaen, mae’r math hwn ar ostyngiad hefyd wedi bod ar gael i bobl sy’n byw mewn tai a osodwyd ym Mand ‘A’. Bydd angen ffurflen gais arnoch oddi wrth Uned Treth y Cyngor.

Bwriad Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yw i helpu pobl sy'n byw ar incwm isel. Er enghraifft, os ydych yn cael Cymhorthdal Incwm ni fyddwch fel arfer yn talu unrhyw Treth Cyngor. Mae'n bosibl hefyd y byddwch yn gymwys os ydych yn gweithio ond bod eich cyflog yn isel iawn. Fel rheol fydd bod yn gymwys yn dibynnu ar y canlynol:

  • Incwm
  • Cynilion/Cyfalaf
  • Amgylchiadau personol a theuluol  

Os penderfynwyd eich bod yn cael cymorth gan Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, dangosir y swm a chyfnod y gostyngiad ar eich bil.

Cofiwch fod yn rhaid ichi roi gwybod i’r Adain Budd-daliadau am unrhyw newidiadau o ran eich amgylchiadau ag allai effeithio ar eich hawl i gael cymorth. Mae enghreifftiau yn y daflen Newidiadau o ran Amgylchiadau a anfonir gyda'ch llythyr rhoi gwybod am gostyngiad. Fe’ch eithrir chi rhag talu Treth y Cyngor am unrhyw gyfnod yr ydych chi wedi cael Gostyngiad Treth y Cyngor o 100%. Cysylltwch a’r Adain Budd-daliadau drwy ffonio 01554 742100 i gael rhagor o wybodaeth.

Mae gan y Cyngor ryddid i godi’r dreth gyngor hyd at 100% o’r gyfradd lawn, yn achos eiddo sydd wedi bod yn wag ac sydd â fawr ddim dodrefn ynddo, am gyfnod parhaus o flwyddyn o leiaf, ac eiddo sydd wedi’i ddodrefnu’n sylweddol ac nad yw’n brif breswylfa i neb. Fodd bynnag, ni weithredir unrhyw bremiwm ar hyn o bryd.

Rydym yn rhannu eich gwybodaeth er mwyn darparu gwasanaethau eraill y cyngor ac weithiau rydym yn rhannu gwybodaeth â sefydliadau eraill pan fo'r gyfraith yn caniatáu hyn. Fel arfer bydd hyn yn golygu darparu manylion cyswllt a/neu gadarnhau pwy sy'n byw mewn eiddo.

Dangosir isod enghreifftiau lle mae'n bosibl y bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu ag adain arall yn y cyngor:

  1. Helpu i brosesu ceisiadau am Fudd-dal Tai a/neu Ostyngiad y Dreth Gyngor.
  2. Helpu i brosesu ceisiadau am fathodynnau glas neu docynnau bysiau rhad.
  3. Darparu manylion cyswllt i staff Gwasanaethau Cymdeithasol.
  4. Darparu manylion cyswllt:
    a)    landlordiaid i staff yr Adran Dai er mwyn iddynt wirio bod tenantiaethau wedi'u cofrestru â Rhentu Doeth Cymru ac i weld a yw landlordiaid yn fodlon cynorthwyo ag ymholiadau sy'n ymwneud â llety fforddiadwy yn y sir.
    b)    perchenogion tai gwag tymor hir i weld a ellir rhoi cymorth i'w defnyddio eto.
  5. Er mwyn helpu swyddogion gorfodi i ymchwilio i achosion o dipio anghyfreithlon.

Gweler isod enghreifftiau lle mae'n bosibl y bydd gwybodaeth yn cael ei darparu i gyrff allanol:

  1. Helpu'r heddlu i ymchwilio/atal troseddau.
  2. Helpu Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi i ymchwilio i achosion o dwyll.
  3. Darparu manylion am breswyliaeth neu fanylion cyswllt i swyddogion treth cynghorau eraill.
  4. Helpu adran y llywodraeth sy'n ymchwilio i fewnforio anifeiliaid yn anghyfreithlon.    

Am ragor o fanylion am hyn, gallwch gysylltu â ni: trethcyngor@sirgar.gov.uk