Deall rhestru

Diweddarwyd y dudalen ar: 31/08/2023

Prif ddiben 'Rhestru' yw gwarchod adeiladau a strwythurau o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol arbennig a'u hamgylchiadau rhag newidiadau a fyddai'n newid cymeriad yr adeiladau hyn a'u hamgylchiadau'n sylweddol. Mae 'Caniatâd Adeilad Rhestredig' yn ofynnol pan fydd cynigion i wneud gwaith addasu, estyn neu ddymchwel yn cael eu hystyried, ac mae hyn yn fesur diogelu i sicrhau bod cymeriad arbennig adeilad yn cael ei ystyried yn llawn.

Caiff adeiladau eu 'rhestru' os ystyrir eu bod o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Mae hyn yn golygu nid yn unig bod eich adeilad rhestredig yn bwysig i chi, ond hefyd yn bwysig i'ch cymuned leol ac yn cyfrannu at dreftadaeth ddiwylliannol Cymru. O dan y gyfraith mae'n ofynnol i Lywodraeth Cymru goladu rhestru o adeiladau sydd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig a defnyddir y rhestru hyn i helpu awdurdodau cynllunio i wneud eu penderfyniadau er budd y dreftadaeth adeiledig.

Mae adeiladau rhestredig yn asedau gwerthfawr nad oes modd i unrhyw beth arall gymryd eu lle. Mwy na thebyg, mae llawer ohonynt wedi newid dros amser ac efallai y bydd angen gwneud newidiadau pellach i lawer ohonynt yn y dyfodol. Cadwraeth yw rheoli newid yn ofalus; mae hyn yn golygu dod o hyd i'r opsiwn gorau i warchod a gwella nodweddion arbennig adeiladau rhestredig er mwyn i genedlaethau allu eu gwerthfawrogi a'u mwynhau yn awr ac yn dyfodol. Mae gofalu am adeiladau rhestredig yn briodol, a'u cadw mewn modd cynaliadwy, yn helpu i sicrhau eu bod yn parhau i gyfrannu at dreftadaeth a gwerth diwylliannol Sir Gaerfyrddin a Chymru.

Yn Sir Gaerfyrddin, ceir 1,848 o adeiladau rhestredig sy'n amrywio o gestyll, plastai gwledig, bythynnod, adeiladau cyhoeddus, adeiladau fferm, waliau a phontydd hanesyddol a hyd yn oed ciosgau ffôn.

Ceir tri chategori o Adeiladau Rhestredig:

  • Adeiladau o ddiddordeb eithriadol yw adeiladau Gradd I. Dim ond tua 2% o Adeiladau Rhestredig sydd yn y categori hwn. Yn Sir Gaerfyrddin mae 24 o adeiladau rhestredig Gradd I.
  • Adeiladau o bwysigrwydd neilltuol yw adeiladau Gradd II*. Mae 4% o Adeiladau Rhestredig yng Nghymru yn Radd II*, ac yn Sir Gaerfyrddin ceir 120 o adeiladau Gradd II*
  • Adeiladau o ddiddordeb arbennig yw adeiladau Gradd II. Mae 94% o'r holl adeiladau rhestredig yn y dosbarth hwn a cheir 1,704 yn Sir Gaerfyrddin. Dyma'r dosbarth rhestru mwyaf tebygol i berchennog cartref.

Caiff adeiladau eu rhestru gan Lywodraeth Cymru am eu diddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, am gysylltiad hanesyddol agos (â phobl neu ddigwyddiadau sy'n bwysig yn genedlaethol) neu am werth grŵp. Mae oedran a phrinder hefyd yn cael eu hystyried. Mae'r holl adeiladau a godwyd cyn 1700, ac sy'n gyflawn i raddau helaeth, yn adeiladau rhestredig, yn ogystal â'r rhan fwyaf o adeiladau a godwyd rhwng 1700 a 1840, er bod rhywfaint o ddethol yn angenrheidiol er mwyn nodi'r enghreifftiau gorau. Mae angen mwy o ddethol ar gyfer adeiladau a godwyd ar ôl 1840 gan fod cynifer yn fwy ohonynt yn parhau i fodoli. Fel arfer mae adeiladau a godwyd lai na 30 mlynedd yn ôl ond yn cael eu rhestru os ydynt o ansawdd rhagorol neu o bosibl dan fygythiad.

Wrth ystyried rhestru adeilad, mae Llywodraeth Cymru yn cael ei chynghori gan Cadw: Henebion Cymru. Gall unrhyw un argymell i adeilad gael ei restru. Mae darpariaethau newydd o dan Ddeddf Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 yn sicrhau yr ymgynghorir yn ffurfiol â pherchnogion wrth ystyried rhestru adeilad neu strwythur, gan wneud y broses ddynodi'n fwy agored ac yn haws ei deall. Bydd adeiladau a strwythurau sy'n cael eu hystyried ar gyfer rhestru yn cael eu gwarchod dros dro gyda'r bwriad o ddiogelu asedau hanesyddol rhag difrod yn ystod y cyfnod ymgynghori. Bydd perchennog neu breswylydd hefyd yn gallu gofyn am adolygiad o benderfyniad dynodi newydd yn unol â'r darpariaethau a osodir yn Neddf Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016.

Yn ogystal â bod yn gasgliad parod o adeiladau sy'n bwysig i dreftadaeth cenedl, mae rhestru'n ychwanegu lefel o warchodaeth. Mae hyn ar ffurf gweithdrefn gynllunio arbennig a elwir yn Ganiatâd Adeilad Rhestredig.

Rhoddir y warchodaeth hon i'r adeilad yn ei gyfanrwydd a chaiff y tu mewn (gan gynnwys gosodiadau) a'r tu allan eu gwarchod, pa bynnag gradd. Mae unrhyw wrthrych neu strwythur sy'n gysylltiedig ag adeilad rhestredig hefyd wedi'u gwarchod a gall hyn gynnwys estyniadau (gan gynnwys ychwanegiadau modern), waliau, portshys ac adeiladau allanol.

Yn ogystal, mae strwythurau neu wrthrychau o fewn cwrtil adeilad rhestredig sydd wedi bod yn bresennol ar y tir ers cyn 1 Gorffennaf 1948 hefyd yn cael eu gwarchod. Mae adeiladau a strwythurau o'r fath yn cael eu galw'n 'gwrtil' a gallant gynnwys adeiladau allanol, waliau, gatiau a phileri gatiau, cytiau rhew a thylciau moch ac ati.

Mae Caniatâd Adeilad Rhestredig yn ofynnol ar gyfer unrhyw waith addasu (gan gynnwys dymchwel yn rhannol), estyniadau ac atgyweiriadau i adeilad rhestredig, a fyddai'n effeithio ar ei gymeriad fel adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Os ydych yn ystyried gwneud gwaith i adeilad rhestredig, fe'ch cynghorir i gysylltu â'r Tîm Treftadaeth Adeiledig i gael cyngor pellach.

Mae'n drosedd gwneud unrhyw waith (naill ai'n allanol neu'n fewnol) a fyddai'n effeithio ar gymeriad adeilad ar ôl iddo gael ei restru, oni bai bod caniatâd adeilad rhestredig wedi'i gael gan yr awdurdod cynllunio perthnasol. Ymgorfforir hyn yn Neddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

Mae gwaith cynnal a chadw arferol neu atgyweiriadau tebyg wedi'u heithrio o'r mesurau rheoli adeilad rhestredig fel arfer, ond gofynnir i chi gysylltu â'r tîm treftadaeth adeiledig os oes angen arweiniad arnoch mewn perthynas ag achos penodol cyn i unrhyw waith ddechrau.

Mae pob ased treftadaeth ar restr 'Cof Cymru - Asedau Hanesyddol Cenedlaethol Cymru' yn rhoi disgrifiad byr o nodweddion mwyaf nodedig yr ased. Gellir gweld y disgrifiadau hyn ar-lein drwy chwilio am yr eiddo ar y rhestr ar adran Cof Cymru ar wefan Cadw.

Mae'r disgrifiadau hyn yn fan cychwyn defnyddiol i ddeall yr ased treftadaeth ond ni fwriedir iddynt fod yn gynhwysfawr. Cawsant eu llunio'n wreiddiol i nodi'r eiddo rhestredig yn unig, nid i bwysleisio'r holl fanylion treftadaeth pwysig. Mewn rhai achosion maent yn nodi nodweddion pensaernïol a hanesyddol penodol sydd o ddiddordeb arbennig, ond mae'n anaml iddynt gynnwys yr holl elfennau sy'n gwneud yr adeilad hwnnw'n bwysig o safbwynt hanesyddol.

O dan Ddeddf Amgylchedd Hanesyddol 2016, ymgynghorir yn ffurfiol â'r perchennog wrth ystyried rhestru adeilad neu strwythur ar gyfer rhestru, gan wneud y broses benderfynu'n fwy agored ac yn haws ei deall. Gall perchennog neu breswylydd ofyn am adolygiad o benderfyniad newydd i ddynodi yn unol â'r ddeddf. Os ydych yn ystyried gwneud hyn, gofynnir i chi gysylltu â'r Tîm Treftadaeth Adeiledig i'w drafod.

Byddai angen i unrhyw apêl fod yn seiliedig ar wybodaeth mewn perthynas â diddordeb pensaernïol neu hanesyddol yr adeilad ac nid ag effeithiau gwarchodaeth statudol ar gynigion datblygu.

Mae perchen ar adeilad rhestredig neu ofalu amdano'n gyfrifoldeb mawr. Efallai mai eich cartref neu eich modd o ennill incwm yw'r adeilad; efallai eich bod newydd ei brynu neu ei fod wedi bod yn eich teulu ers blynyddoedd; efallai eich bod yn gwneud atgyweiriadau arno fel contractwr neu'n ei ystyried fel rhan o brosiect adfywio. Beth bynnag yw eich perthynas â'r adeilad hwnnw, mae'n bwysig cofio ei fod yn rhestredig i sicrhau bod ei gymeriad arbennig yn cael ei warchod - rydych yn gofalu amdano ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae'n bosibl bod llawer o'r rhesymau pam yr ydych yn dwlu ar yr adeilad hwnnw yn ymwneud â'i gymeriad arbennig, a'ch dyletswydd chi yw ei warchod.

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod yr eiddo'n cael ei gynnal a'i gadw mewn cyflwr rhesymol. Nid oes dyletswydd statudol i wneud gwelliannau, ond mae'n rhaid i chi beidio â pheri i gyflwr yr adeilad fod yn waeth nag ydoedd pan ddaeth yn eiddo i chi. Gall hyn olygu bod angen gwneud peth gwaith arno, hyd yn oed os yw hynny ddim ond i gadw'r adeilad yn ddiddos rhag y gwynt a'r glaw/dŵr. Fodd bynnag, efallai y bydd angen i chi gael caniatâd adeilad rhestredig er mwyn gwneud y gwaith hwn.

Os ydym yn credu eich bod yn esgeuluso'r eiddo'n fwriadol, neu eich bod wedi gwneud gwaith heb ganiatâd, mae'n bosibl y bydd camau gorfodi'n cael eu cymryd. Gallai hyn gynnwys cyflwyno 'Hysbysiadau Atgyweirio', gan nodi'r gwaith y bydd angen ei wneud er mwyn cynnal yr adeilad ac atal dirywio ymhellach, neu i ddadwneud gwaith a wnaed heb ganiatâd. Mae'n bosibl y bydd erlyniad, gan arwain at ddirwyon neu garchar yn dilyn hyn a gall esgeulustod bwriadol sylweddol arwain at Orchymyn Prynu Gorfodol.

Mae'n bosibl y bydd cael cofnod ffotograffig o'r eiddo fel yr oedd pan ddaeth i'ch meddiant yn ased defnyddiol, ond os ydych wedi etifeddu gwaith anghyflawn neu waith na wnaed gan eich rhagflaenydd, chi fydd yn gyfrifol am y rhain hefyd.

Wrth brynu adeilad rhestredig, mae'n bwysig nodi bod y 'rhestru' yn cyfeirio at yr adeilad cyfan.

Wrth benderfynu ynghylch prynu adeilad rhestredig, dylech ystyried a all yr adeilad fodloni eich anghenion yn ei gyflwr presennol. Mae'n debygol y bydd unrhyw newidiadau i'r adeilad, gan gynnwys newidiadau i'r cynllun mewnol a chodi estyniadau yn destun caniatâd adeilad rhestredig ac ni fyddant yn cael eu cymeradwyo'n awtomatig.

Mae'n bwysig pennu'n gynnar a fydd cynigion yn dderbyniadwy.

Anfonwch yr holl fanylion am eich cynigion i'r Tîm Treftadaeth Adeiledig i'w hystyried. Er y gallai galwad ffôn fod yn werthfawr i'ch helpu i wneud penderfyniadau ynghylch prynu eiddo neu beidio, ni fydd y Swyddog Treftadaeth Adeiledig yn gallu rhoi arweiniad clir i chi oni bai bod manylion ysgrifenedig yn cael eu darparu. Dylech gynnwys cyfeiriad yr eiddo, manylion ynghylch yr adeilad presennol a'ch holl newidiadau, ychwanegiadau ac addasiadau arfaethedig.

Fel arall, efallai y byddwch am ddefnyddio gwasanaethau Pensaer Cadwraeth neu Ymgynghorydd Treftadaeth/Cynllunio a fydd yn gallu eich cynghori ymhellach ar y cam cynnar hwn. Bydd arolwg strwythurol llawn yn rhoi gwybodaeth am ddeunyddiau'r adeilad, ei gyflwr cyffredinol ac unrhyw bryderon. Bydd y wybodaeth yn amhrisiadwy wrth gynnal a chadw neu weithio ar eich adeilad. Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio gweithiwr proffesiynol sy'n gyfarwydd ag adeiladau hanesyddol, wedi'i achredu gan gorff proffesiynol megis Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig neu'r Sefydliad Cadwraeth Adeiladau Hanesyddol. Mae rhai gweithwyr proffesiynol ag achrediad cydnabyddedig wedi'u rhestru yn y cyfeirlyfr ar wefan Fforwm Adeiladau Traddodiadol Cymru.

Os ydych yn penderfynu prynu adeilad rhestredig, efallai y byddwch yn y dymuno cael cyngor gan frocer yswiriant arbenigol neu roi gwybod i'ch yswiriwr bod eich eiddo'n rhestredig, gan efallai y bydd angen yswiriant arbenigol. Mae'n debygol y bydd cost ailadeiladu adeilad rhestredig yn uwch na'r hyn ar gyfer eiddo safonol. Gall prisiad arbenigol manwl gan syrfëwr neu bensaer achrededig eich helpu i benderfynu ar y polisi yswiriant mwyaf priodol.

Mae'n bwysig deall bod cyfrifoldeb am waith anawdurdodedig ar Adeilad Rhestredig yn gysylltiedig â pherchnogaeth. Felly dylai eich cyfreithiwr bennu, cyn cyfnewid contractau, a yw'r gwaith a gyflawnwyd wedi'i awdurdodi.

Cynllunio