Newidiadau i gasgliadau ailgylchu mewn rhannau o Sir Gâr yn y dyfodol

Yn dechrau o ganol/diwedd tymor yr hydref 2026

Beth sy'n digwydd ym mis Hydref 2026?

O ganol/diwedd tymor yr hydref 2026 ymlaen, bydd rhyw un o bob tri chartref yn Sir Gaerfyrddin, yng ngorllewin y sir yn bennaf, yn newid i wasanaeth casglu newydd o'r enw Ailgylchu ar Wahân. Bydd pob cartref arall yn aros yn rhan o'r gwasanaeth casglu 'Ailgylchu Cymysg' (bagiau glas) presennol am y tro, ac yn newid i'r gwasanaeth newydd yn y dyfodol.

Bydd cartrefi sy'n newid i'r gwasanaeth Ailgylchu ar Wahân newydd yn cael eu gofyn i ddidoli eu deunydd ailgylchu i sachau a chynwysyddion ar wahân sy'n gallu cael eu hailddefnyddio. Fyddwn ni ddim yn casglu deunydd ailgylchu cymysg mewn bagiau glas untro o'r cartrefi sy'n newid i'r gwasanaeth newydd mwyach.

Mae'r gwasanaeth newydd yn rhan o 'Lasbrint Casgliadau' Llywodraeth Cymruyn gyda'r nod o wella faint o ddeunydd ailgylchu sy'n cael ei gasglu a'i ansawdd, gan helpu Cymru i gyflawni cyfraddau ailgylchu uwch.  

Rydyn ni'n cyflwyno'r newidiadau hyn mewn dau gam ar draws y sir. Byddwn ni'n ysgrifennu at bob cartref yn haf 2026 i gadarnhau a fyddwch chi’n newid i'r gwasanaeth Ailgylchu ar Wahân newydd neu'n parhau i dderbyn y gwasanaeth Ailgylchu Cymysg (bagiau glas) presennol am y tro. 

 

Ar bwy mae'r newidiadau hyn yn effeithio?

Rydyn ni'n cyflwyno'r newidiadau hyn mewn dau gam ar draws y sir.

Rhowch eich cod post a dewiswch eich cyfeiriad i gael gwybod a fydd eich cartref chi yn newid i'r gwasanaeth ailgylchu ar wahân newydd yn yr Hydref 2026, neu a fydd eich gwasanaeth yn aros yr un peth am y tro.

 

A yw eich gwasanaeth ailgylchu yn newid o ganol/diwedd tymor yr Hydref 2026?

Gallwch ddarganfod isod a yw eich cartref yn newid i'r gwasanaeth Ailgylchu ar Wahân Newydd.

 

Cwestiyanau Cyffredin

Beth sy'n newid?

Os yw eich cartref yn newid i'r gwasanaeth Ailgylchu ar Wahân newydd o ganol/diwedd tymor yr hydref 2026, bydd angen i chi ddechrau didoli eich deunydd ailgylchu i gynwysyddion a sachau newydd y mae modd eu hailddefnyddio.

Byddwn ni'n dosbarthu'r sachau ailgylchu newydd yn ystod sawl wythnos ym mis Awst a mis Medi. Ar ôl iddyn nhw gael eu dosbarthu i’ch cartref, dylech chi gadw'r sachau hyn yn ddiogel nes bod angen i chi ddechrau eu defnyddio yn yr hydref. Byddwn ni hefyd yn dosbarthu’ch cyflenwad blynyddol o fagiau leinio ar gyfer cadis gwastraff bwyd ar yr un pryd.

Byddwch chi'n cael:

  • sach goch, sy'n gallu cael ei hailddefnyddio, ar gyfer metelau, plastigion a chartonau
  • sach oren, sy'n gallu cael ei hailddefnyddio, ar gyfer cardbord
  • sach las, sy'n gallu cael ei hailddefnyddio, ar gyfer papur
  • rholyn o fagiau coch ar gyfer bagiau plastig a deunydd lapio
  • sach wen fach, sy'n gallu cael ei hailddefnyddio, ar gyfer batris cartref

Byddwn ni'n casglu'r eitemau uchod bob wythnos ochr yn ochr â'r canlynol:

  • poteli a jariau gwydr o'ch bocs du (byddwn ni'n casglu hwn bob wythnos yn hytrach na phob tair wythnos)
  • gwastraff bwyd o'ch bin bwyd (rydyn ni eisoes yn casglu hwn bob wythnos)

 

Fyddwn ni ddim yn casglu eich deunydd ailgylchu cymysg mewn bagiau glas untro o ganol/diwedd tymor yr hydref 2026.

O ganol/diwedd tymor yr hydref 2026, efallai fydd diwrnodau casglu gwastraff bwyd, deunydd ailgylchu, gwydr a bagiau du yn newid ar gyfer pob cartref, p'un a ydych chi'n newid i'r gwasanaeth newydd neu'n aros yn rhan o'r gwasanaeth presennol. Ym mis Medi, byddwn ni'n anfon ail lythyr i bob cartref yn y sir yn cadarnhau eu diwrnodau casglu o ganol/diwedd tymor yr hydref ymlaen, ynghyd â chalendr casgliadau. 

Byddwn ni dal yn casglu hyd at 3 bag du o wastraff na ellir ei ailgylchu o bob cartref bob tair wythnos. 

Os ydych chi'n derbyn gwasanaeth casglu gwastraff hylendid a chewynnau a/neu wastraff gardd, bydd eich diwrnodau casglu ar gyfer y gwasanaethau hyn yn aros yr un peth. 

 

Beth sy'n aros yr un peth?

Dydyn ni ddim yn gwneud unrhyw newidiadau i'r gwasanaethau canlynol ar hyn o bryd:

  • casgliadau gwastraff hylendid a chewynnau
  • casgliadau gwastraff gardd
  • casgliadau gwastraff swmpus
  • Canolfan Eto, ein prosiect atgyweirio ac ailddefnyddio

Beth sy'n mynd i ble?

Gallwch chi gael gwybod pa fath o eitemau cartref y dylech chi eu rhoi ym mhob un o'ch sachau a'ch cynwysyddion yma:

 

Sach Las

Ie plîs
  • Llythyron
  • Amlenni gwyn, gyda a heb ffenestri
  • Cylchgronau
  • Papurau newydd
  • Llyfrynnau a chatalogau
  • Papur argraffydd
  • Symiau bach o bapur wedi'i ddarnio, fel derbynebau a biliau'r cartref. Rhowch hwn mewn cynhwysydd wedi'i wneud o bapur, fel bag papur gwyn neu amlen, yna ei roi yn eich sach las.

 

Dim diolch

Rhowch yr eitemau hyn yn eich sach oren (cardbord):

  • Papur brown
  • Amlenni brown

 

Rhowch yr eitemau hyn yn eich bagiau du:

  • Papur cegin, tywelion papur neu hancesi papur
  • Cardiau crafu
  • Papurau gludiog, fel nodiadau 'post-it', labeli gludiog neu dâp papur
  • Papur wal
  • Papur lapio
  • Papur wedi'i drochi gan fwyd, olew, saim neu baent
  • Papur gwlyb o unrhyw fath

 

Cofiwch:

  • Cadw’r papur yn sych

Sach Oren

Ie plîs
  • Bocsys cardbord, fel y rhai ar gyfer grawnfwyd, cacennau, tabledi peiriant golchi llestri, esgidiau, hancesi papur, pethau ymolchi, a phast dannedd
  • Tiwbiau papur tŷ bach
  • Cartonau wyau
  • Llewys cardbord sy'n cael eu defnyddio i becynnu bwyd, gan gynnwys prydau parod ac amlbecynnau
  • Cardiau cyfarch heb fathodynnau, bwâu, ffoil, llwch llachar na rhubanau
  • Cefn cardbord pecynnau batris a brwshys dannedd
  • Amlenni cardbord a bocsys dosbarthu ar-lein
  • Papur brown
  • Papur lapio parseli brown

 

Dim diolch

Rhowch yr eitemau hyn yn eich bagiau du:

  • Cardbord wedi'i drochi gan fwyd, olew, saim neu baent, fel bocsys pizza
  • Cardiau cyfarch sydd â bathodynnau, bwâu, ffoil, llwch llachar neu rubanau allwch chi ddim eu tynnu
  • Papur lapio
  • Polystyren

Rhowch yr eitemau hyn yn eich sach goch (metelau, plastigau a chartonau):

  • Cartonau bwyd a diod, fel Tetra Pak, sy'n cael eu defnyddio ar gyfer sudd ffrwythau, llaeth a chawl

Cofiwch:

  • gwasgu a thorri cardbord yn ddarnau bach i sicrhau ei fod yn ffitio yn eich sach
  • cadw cardbord yn sych

Sach goch

Ie plîs

Metelau

  • Caniau diodydd, fel y rhai ar gyfer cwrw a diodydd meddal
  • Tuniau bwyd, fel y rhai ar gyfer ffa pob a chawl
  • Tuniau siocledi a bisgedi metel, a'u caeadau
  • Aerosolau gwag
  • Dalennau a hambyrddau ffoil glân
  • Podiau coffi alwminiwm glân

Cartonau

  • Cartonau bwyd a diod, fel sudd ffrwythau, llaeth a chawl

Plastigau

  • Poteli gofal croen a nwyddau ymolchi plastig, fel y rhai ar gyfer hylif golchi dwylo, hylif golchi'r corff, gel cawod, siampŵ, cyflyrydd a bath swigod
  • Poteli cynnyrch glanhau plastig, fel y rhai ar gyfer cannydd (bleach), hylif golchi llestri, cynnyrch golchi dillad a chyflyrydd ffabrig, a thybiau sy'n dal capsiwlau a thabledi golchi dillad
  • Poteli diodydd plastig, fel y rhai ar gyfer diodydd meddal, llaeth a dŵr
  • Potiau plastig, fel potiau hufen ac iogwrt
  • Tybiau plastig, fel tybiau menyn, margarîn, siocled, losin a hufen iâ
  • Hambyrddau plastig, fel hambyrddau cacennau, myffins a chig
  • Basgedi plastig, fel y rhai sy'n dal ffrwythau a llysiau
  • Hambyrddau a chaeadau cludfwyd plastig
  • Poteli plastig o'ch garej, eich tŷ gwydr neu'ch sied, fel poteli bwyd planhigion hylifol nad yw'n wenwynig

 

Dim diolch

Ewch â'r eitemau hyn i'ch Canolfan Ailgylchu leol:

  • Potiau, sosbenni neu gyllyll a ffyrc metel
  • E-sigaréts neu bennau fepio a'u batris
  • Plastigau caled, fel cadeiriau gardd, teganau plant, biniau cegin, powlenni golchi llestri, potiau planhigion neu focsys Tupperware
  • Tanwyr sigaréts
  • Canisterau nwy

Rhowch yr eitemau hyn yn eich bagiau du:

  • Rhwydi sy'n dal ffrwythau a llysiau
  • Pecynnau swigod (deunydd pacio tabledi)
  • Brwshys dannedd di-drydan
  • Raseli plastig

Cofiwch:

  • golchi a gwasgu lle bo hynny'n bosibl
  • rhoi’r holl eitemau lapio, bagiau plastig a ffilm rydd mewn bag coch untro, ei glymu'n dynn, ac yna ei roi y tu mewn i'ch sach goch, sy'n gallu cael ei hailddefnyddio, gyda'ch metelau, plastigion a chartonau.

Bag coch untro

Ie plîs
  • Bagiau plastig, gan gynnwys bagiau siopa, bagiau pasta, bagiau bwyd anifeiliaid anwes a bagiau parseli
  • Pecynnau creision a chnau
  • Pecynnau bisgedi, deunydd lapio losin a siocled
  • Bagiau bara
  • Deunydd leinio bocsys grawnfwyd
  • Labeli a deunydd lapio plastig poteli diodydd
  • Caeadau ffilm prydau parod a ffilmiau plastig tebyg
  • Bagiau bwyd wedi'i rewi
  • Deunydd lapio cylchgronau a phapurau newydd
  • Deunydd lapio amlbecynnau (e.e. amlbecynnau creision, cnau a losin)
  • Deunydd lapio poeth (shrink wrap) a modrwyau poteli a chaniau
  • Bagiau sychlanhau a bagiau sy'n gorchuddio dillad newydd
  • Deunydd pecynnu plastig sy'n cael ei ddefnyddio i ddosbarthu eitemau cartref (e.e. cyfarpar)
  • Bagiau compost gardd ac uwchbridd
  • Bagiau ffrwythau, salad a llysiau (gan gynnwys bagiau cynnyrch rhydd a bagiau wedi'u pecynnu ymlaen llaw)
  • Deunydd lapio pecynnau papur tŷ bach a phapur cegin
  • Haenen lynu
  • Pacedi bach (e.e. reis meicrodon, diodydd, bwyd babi/anifeiliaid anwes, neu fagiau rhannu losin)
    Pacedi bach ar gyfer cynhyrchion glanhau (e.e. tabledi peiriant golchi llestri neu beiriant golchi dillad)

 

Dim diolch

Rhowch yr eitemau hyn yn eich bagiau du:

  • Polystyren neu ewyn
  • Rhwydi plastig ar gyfer ffrwythau a llysiau
  • Gwellt a chyllyll a ffyrc plastig
  • Menig neu fasgiau tafladwy
  • Pecynnau swigod (e.e. deunydd pecynnu tabledi)
  • Gwastraff anifeiliaid anwes

Cofiwch:

  • clymu’ch bag coch yn dynn, ac yna ei roi y tu mewn i'ch sach goch, sy'n gallu cael ei hailddefnyddio, gyda'ch metelau, plastigion a chaniau.

Sach Wen Fach

Ie plîs
  • Batris cartref, fel batris AAA, AA, B, C, D, DD a 9V

 

Dim diolch

Ewch â'r eitemau hyn i'ch Canolfan Ailgylchu leol:

  • E-sigaréts neu bennau fepio a'u batris
  • Batris car
  • Gwefrwyr batris
  • Batris botwm lithiwm, fel y rhai sy'n cael eu defnyddio mewn cyfrifiannell, watsh neu allwedd car
  • Batris sy'n gallu cael eu gwefru, fel y rhai o liniaduron ac offer pŵer

Food caddy

 

Ie plîs
  • Bagiau te wedi'u defnyddio a gwaddodion coffi
  • Plisgyn wyau
  • Pilion/crwyn ffrwythau a llysiau 
  • Cig a physgod amrwd ac wedi'u coginio, gan gynnwys esgyrn a chregyn
  • Sbarion diangen ar blât
  • Gweddillion na ellir eu storio'n ddiogel i'w bwyta'n ddiweddarach
  • Bwyd nad yw bellach yn ddiogel i'w fwyta
  • Bwyd anifeiliaid

 

Dim diolch
  • Deunydd pecynnu o unrhyw fath
  • Hylifau fel llaeth. Gallwch arllwys symiau bach o fwyd hylifol neu ddiod i lawr y sinc, yn ddelfrydol ar yr un pryd ag ychydig o ddŵr i sicrhau bod y gwastraff yn rhedeg i ffwrdd yn hawdd, heb achosi rhwystr.
  • Olewau neu frasterau hylifol. Ewch â'r eitemau hyn i'ch Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref leol mewn cynhwysydd addas. 
  • Unrhyw ddeunydd nad yw'n wastraff bwyd

Os oes angen i chi gael gwared ar unrhyw frasterau sy'n solet neu'n rhannol hylifol, rhowch y rhain yn eich bag du.

Glass box

 

Ie plîs
  • Poteli gwydr, fel poteli cwrw, gwin a diodydd medal
  • Jariau gwydr, fel jariau bwydydd babanod a sawsiau
  • Poteli a jariau gwydr nad ydynt ar gyfer bwyd a diod, fel y rhai a ddefnyddir ar gyfer persawr, persawr eillio ac eli wyneb

 

Dim diolch:
  • Cerameg neu lestri
  • Gwydrau yfed 
  • Gwydr fflat, fel cwarelau ffenestri
  • Drychau
  • Bylbiau golau
  • Gwydr coginio, fel Pyrex
  • Platiau microdon
  • Fasys
  • Poteli farnais ewinedd
  • Gwydr sydd wedi torri 

Os oes angen cael gwared ar yr eitemau hyn, ewch â nhw i'ch canolfan ailgylchu agosaf i gael eu hailgylchu, neu lapiwch eitemau llai mewn papur newydd/papur cegin, cyn eu bagio nhw (er mwyn sicrhau nad yw'r criwiau'n cael dolur wrth eu casglu).

 

 

Beth fydd yn digwydd nesaf?

1. Dylech chi barhau i ddefnyddio'r gwasanaeth Ailgylchu Cymysg (bagiau glas) presennol am y tro.
2. Cofrestrwch i dderbyn negeseuon atgoffa am gasgliadau am ddim drwy e-bost neu neges destun drwy Fy Nghyfrif Hwb. 
3. Byddwch chi'n cael llythyr yn haf 2026, a fydd yn nodi a fydd eich cartref yn newid i'r gwasanaeth Ailgylchu ar Wahân newydd o ganol/diwedd tymor yr hydref 2026, neu a fydd eich gwasanaeth yn aros yr un peth am y tro.

 

Cwestiynau cyffredin

 

Os ydych chi'n byw mewn cartref lle mae'r biniau'n cael eu rhannu, byddwch chi'n aros yn rhan o'r gwasanaeth Ailgylchu Cymysg presennol am y tro a dylech barhau i ddefnyddio'r bagiau glas. Yn yr haf, byddwn ni'n anfon llythyr atoch yn cadarnhau hyn

Efallai y bydd eich diwrnodau casglu yn newid o ganol/diwedd tymor yr hydref 2026. Ym mis Medi, byddwn ni'n anfon ail lythyr atoch yn cadarnhau eich diwrnodau casglu o'r hydref ymlaen, ynghyd â chalendr casgliadau.

Cyn i'ch cartref newid i'r gwasanaeth casgliadau Ailgylchu ar Wahân newydd, byddwn ni'n ysgrifennu atoch chi eto.

Mae llawer o gynghorau yng Nghymru eisoes wedi gwneud y newidiadau hyn, gan ddilyn canllawiau ailgylchu Llywodraeth Cymru. Mae hyn wedi eu helpu i gynyddu faint o ddeunydd ailgylchu maen nhw'n ei gasglu a gwella ansawdd y deunydd ailgylchu hwnnw. 

Mae didoli eich deunydd ailgylchu i sachau a chynwysyddion ar wahân yn ein helpu i gasglu deunyddiau glanach. Mae hyn yn golygu bod modd ailgylchu mwy i greu cynhyrchion newydd, sy'n lleihau allyriadau carbon ac yn helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd. 

Bydd y gwasanaeth newydd hefyd yn ein galluogi ni i gasglu eitemau ychwanegol - megis bagiau plastig a deunydd lapio plastig, a batris cartref - gan ei gwneud hi'n haws i chi ailgylchu mwy o'ch gwastraff o gartref.

Mae cynghorau yn gallu cael dirwy am beidio â chyrraedd targed ailgylchu Llywodraeth Cymru.

Rydyn ni'n cyflwyno'r gwasanaeth casgliadau Ailgylchu ar Wahân newydd ledled Sir Gaerfyrddin mewn dau gam. Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau bod y gwasanaeth newydd yn rhedeg yn hwylus o'r cychwyn cyntaf.

Rydyn ni'n dechrau mewn ardaloedd lle mae'n symlach casglu gwastraff a lle mae llai o wahanol fathau o eiddo a threfniadau casglu. Bydd hyn yn ein helpu i sefydlu'r gwasanaeth yn llwyddiannus cyn ei ehangu i ardaloedd mwy cymhleth.

Bydd cyflwyno'r gwasanaeth fesul cam hefyd yn rhoi amser i ni wneud yn siŵr bod gan ein depos a'n cyfleusterau ailgylchu ddigon o le a chapasiti i gefnogi'r newidiadau ar draws y sir gyfan. 

Hyd nes y byddwch chi'n derbyn eich sachau a'ch bagiau ailgylchu newydd, a phecyn gwybodaeth, rydyn ni'n gofyn i chi barhau i gyflwyno eich deunydd ailgylchu a'ch gwastraff na ellir ei ailgylchu yn y ffordd arferol.

Am y tro, os nad ydych chi'n siŵr pa eitemau y gallwch chi ac na allwch chi eu hailgylchu o gartref gan ddefnyddio'ch bagiau glas a'ch bocs du presennol. Cewch ragor o wybodaeth yma.

Gallwch chi hefyd ailgylchu eitemau cartref ychwanegol yn eich canolfan ailgylchu leol.

Os yw eich cartref yn newid i'r gwasanaeth casgliadau Ailgylchu ar Wahân newydd o ganol/diwedd tymor yr hydref 2026, byddwn ni'n dosbarthu'r sachau ailgylchu newydd yn ystod sawl wythnos ym mis Awst a mis Medi. Ar ôl iddyn nhw gael eu dosbarthu i’ch cartref, dylech chi gadw'r sachau hyn yn ddiogel nes bod angen i chi ddechrau eu defnyddio yn yr hydref. Byddwn ni hefyd yn dosbarthu’ch cyflenwad blynyddol o fagiau leinio ar gyfer cadis gwastraff bwyd ar yr un pryd.

O ddydd Llun 7 Medi, byddwch chi'n gallu gwirio a ydyn ni wedi dosbarthu'r sachau newydd i'ch cartref neu a ydyn ni heb ymweld â'ch ardal chi eto drwy wirio eich statws dosbarthu ar-lein yma.

Byddwn ni hefyd yn darparu diweddariadau rheolaidd ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol wrth i ni gwblhau dosbarthu'r sachau ym mhob ardal. Cofiwch edrych ar y diweddariadau hyn a gwefan y Cyngor cyn defnyddio ein ffurflen ar-lein i roi gwybod i ni nad ydych chi wedi derbyn eich sachau.

 

Os nad yw eich cartref yn newid i'r gwasanaeth casgliadau Ailgylchu ar Wahân newydd eleni, ni fydd angen i chi ddechrau didoli eich deunydd ailgylchu i'r sachau a bagiau newydd ar wahân eto. Mae hyn yn golygu na fyddwch chi'n derbyn sachau a bagiau ailgylchu newydd eleni.

Byddwn ni'n ysgrifennu atoch chi eto cyn i'r newidiadau hynny ddigwydd yn eich ardal chi. Tan hynny, daliwch ati i ddefnyddio'ch bagiau glas presennol a'r cynwysyddion eraill sydd gyda chi ar gyfer eich ailgylchu. 

Byddwn ni'n dosbarthu'ch cyflenwad blynyddol o fagiau glas a bagiau leinio ar gyfer cadis gwastraff bwyd i'ch cartref yn ddiweddarach eleni.

Cofiwch ddefnyddio'r canlynol:

  • bin bwyd ar gyfer eich gwastraff bwyd,
  • bocs du ar gyfer eich poteli a'ch jariau gwydr, a

bagiau glas ar gyfer y canlynol:

  • caniau metel, tuniau, aerosolau a ffoil,
  • poteli, potiau, tybiau a hambyrddau plastig,
  • cartonau bwyd a diod, fel Tetra Pak,
  • cardbord, a
  • papur. 

Gallwch chi osod mas faint bynnag o fagiau glas ag a fynnoch chi bob wythnos i ni eu casglu. Gallwch chi osod mas gynifer o fagiau glas llawn ag a fynnoch chi i'w casglu.

Mewn rhannau eraill o Gymru lle mae'r sachau hyn eisoes yn cael eu defnyddio, mae'r rhan fwyaf o bobl yn eu cadw nhw y tu fas yn eu gardd, eu garej, eu sied neu mewn cynhwysydd allanol.

Gallwch chi blygu'ch sachau a'u cadw y tu mewn i'ch cartref, neu gallwch chi eu storio y tu fas gyda'ch biniau a'ch cadi os bydd hynny'n haws i chi. 

Cofiwch ysgrifennu’ch cyfeiriad ar eich sachau newydd gan ddefnyddio pen ffelt parhaol. Bydd hyn yn eich helpu i adnabod eich sachau ar ôl i ni gasglu eu cynnwys.

Yn yr haf byddwn ni'n anfon llythyr i bob cartref yn y sir yn cadarnhau a fydd yn newid i'r gwasanaeth casgliadau 'Ailgylchu ar Wahân' newydd ganol/diwedd tymor yr hydref 2026, neu'n aros yn rhan o'r gwasanaeth casgliadau 'Ailgylchu Cymysg' presennol am nawr.

Ym mis Medi, byddwn ni'n anfon ail lythyr i bob cartref yn y sir yn cadarnhau eu diwrnodau casglu o'r hydref ymlaen, ynghyd â chalendr casgliadau.

Os yw eich cartref yn newid i'r gwasanaeth Ailgylchu ar Wahân newydd o ganol/diwedd tymor yr hydref 2026 ymlaen, byddwn ni'n anfon pecyn gwybodaeth atoch chi hefyd sy'n cynnwys:

  • llyfryn sy'n esbonio pa eitemau cartref sy'n mynd ym mhob sach, yn ogystal â'ch cynwysyddion presennol
  • 'canllaw cyflym' sy'n dangos beth sy'n mynd i ble

Os nad yw eich cartref yn newid i'r gwasanaeth Ailgylchu ar Wahân newydd eleni, byddwn ni'n ysgrifennu atoch eto cyn i'ch cartref newid i'r gwasanaeth Ailgylchu ar Wahân yn y dyfodol. 

Gallwch chi hefyd gofrestru ar gyfer ein gwasanaeth bwletin newyddion drwy e-bost – Newyddion eich Cyngor – sy'n rhoi newyddion a diweddariadau'r cyngor i bobl sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys gwybodaeth am newidiadau i'ch casgliadau deunydd ailgylchu a gwastraff na ellir ei ailgylchu. 

Byddwn ni'n defnyddio cerbydau newydd i gasglu eich deunydd ailgylchu. Mae rhai o'r cerbydau hyn yn edrych fel cerbydau casglu safonol ond maen nhw wedi'u dylunio'n benodol gyda gwahanol adrannau i gadw'ch deunydd ailgylchu ar wahân ar ôl i ni ei gasglu.

Bydd gwahanu eich deunydd ailgylchu i wahanol sachau a bagiau yn gwella ansawdd y deunyddiau sy'n cael eu casglu. Mae hyn yn golygu bod modd ailgylchu mwy i greu cynhyrchion newydd yn hytrach na defnyddio deunyddiau crai, sy'n lleihau ein hallyriadau carbon ac yn cefnogi ymdrechion i fynd i'r afael â newid hinsawdd.

Mae'r gwelliannau rydyn ni'n eu gwneud i'n casgliadau ailgylchu yn golygu y bydd y diwrnodau rydyn ni'n casglu deunydd ailgylchu a gwastraff na ellir ei ailgylchu yn newid i rai cartrefi.

Wrth i ni gyflwyno sachau a bagiau ar wahân ar gyfer y gwahanol fathau o ddeunydd ailgylchu, fel metelau, plastigion, cartonau, cardbord, papur, ac yn y blaen, byddwn ni hefyd yn dechrau defnyddio cerbydau casglu newydd sydd wedi'u dylunio i gadw'r deunyddiau hyn ar wahân. Roedd y newidiadau hyn yn rhoi cyfle i adolygu ein llwybrau casglu ar yr un pryd.

Pan wnaethon ni adolygu ein llwybrau casglu, fe wnaethon ni ystyried sawl peth arall fel lle mae tai newydd yn cael eu hadeiladu, newidiadau i ffyrdd, newidiadau i gyfreithiau amgylcheddol, pwysau ar gyllideb y cyngor, a lleihau allyriadau carbon.

Ar ôl ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael, mae'r ffordd fwyaf effeithlon a chost-effeithiol o wneud y gwelliannau hyn i'n gwasanaeth yn golygu bod yn rhaid i ni newid rhai diwrnodau casglu.

Os nad yw eich cartref yn newid i'r gwasanaeth casgliadau Ailgylchu ar Wahân newydd eleni, efallai y bydd eich diwrnodau casglu yn dal i newid o ganol/diwedd tymor yr hydref 2026 ymlaen. Ym mis Medi, byddwn ni'n anfon llythyr atoch yn cadarnhau eich diwrnodau casglu, a chalendr yn dangos eich dyddiadau casglu o dymor yr hydref ymlaen. 

Gallwch chi hefyd edrych ar eich diwrnod a'ch dyddiadau casglu unrhyw bryd, a lawrlwytho eich calendr casgliadau, yma.

Gallwch chi hefyd gofrestru i dderbyn negeseuon atgoffa am gasgliadau drwy e-bost neu neges destun.

Er mai dim ond preswylwyr sy'n byw yng ngorllewin y sir yn bennaf fydd, i ddechrau, yn defnyddio'r sachau a'r bagiau ailgylchu newydd, a cherbydau arbenigol, yn ddiweddarach eleni, rydyn ni wedi gorfod newid llwybrau casglu a diwrnodau casglu ar draws y sir gyfan ar yr un pryd. Trwy wneud y newidiadau hyn gyda'i gilydd, dim ond unwaith y mae angen i ni ddiweddaru llwybrau, sy'n ein helpu ni i weithio mor effeithlon â phosibl ac yn lleihau tarfu yn y dyfodol.

Gallwn. Gallwch chi gofrestru i dderbyn negeseuon atgoffa am gasgliadau drwy e-bost neu neges destun drwy glicio yma neu drwy gysylltu â ni.

Gallwch chi hefyd edrych ar eich diwrnod a'ch dyddiadau casglu unrhyw bryd, a lawrlwytho eich calendr casgliadau, yma.

Yn 2021, gwnaethon ni gyhoeddi arolwg i ymgynghori â'r holl breswylwyr am y newidiadau roedden ni'n bwriadu eu gwneud i'r gwasanaethau casglu deunydd ailgylchu a gwastraff na ellir ei ailgylchu rydyn ni'n eu darparu i chi.

Ddarllen yr Adroddiad Ymgynghori

Mae'r sachau newydd rydyn ni'n bwriadu eu rhoi i chi yn debyg i'r rhai sy'n cael eu defnyddio gan gynghorau eraill ledled Cymru ac mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw wedi bod yn ddigon mawr fel nad oes angen rhai ychwanegol ar bobl.

Fodd bynnag, os ydych chi’n teimlo, ar ôl defnyddio'r gwasanaeth newydd am ychydig wythnosau, bod angen rhagor o sachau neu gynhwysyddion arnoch chi ar gyfer eich deunydd ailgylchu, gallwch chi eu harchebu yma.

Cofiwch greu lle yn eich sachau drwy olchi a gwasgu eich eitemau metel a phlastig a'ch cartonau yn ddiogel lle bo hynny'n bosibl, a thorri cardbord, i sicrhau eu bod nhw'n ffitio yn y sachau.

Byddwn ni'n dal i ddosbarthu'ch cyflenwad blynyddol o fagiau leinio ar gyfer cadis gwastraff bwyd yn yr hydref, ond gallwch ofyn am ragor os bydd angen.

Os yw eich cartref yn newid i'r gwasanaeth casgliadau Ailgylchu ar Wahân newydd o dymor yr hydref 2026:

  • Hyd nes eich bod yn newid i'r gwasanaeth newydd, gallwch barhau i archebu bagiau leinio ar gyfer cadis ar-lein am y tro. 
  • O'ch diwrnod cyntaf yn rhan o'r gwasanaeth newydd, ni fydd angen i chi archebu bagiau leinio ar gyfer cadis ar-lein. Clymwch fag leinio o amgylch dolen eich bin bwyd, ac ar eich diwrnod casglu nesaf byddwn ni'n gadael rholyn newydd ar neu wrth ymyl eich bin bwyd. Bydd gan ein cerbydau casglu newydd le i gario bagiau leinio sbâr, fel ein bod yn gallu eu rhoi i'r cartrefi sydd eu hangen pan fyddwn ni'n casglu deunydd ailgylchu.

 

Os nad yw eich cartref yn newid i'r gwasanaeth casgliadau Ailgylchu ar Wahân newydd eleni: 

 

Cyn i'r newidiadau ddigwydd lle rydych chi'n byw, byddwn ni'n anfon pecyn gwybodaeth atoch chi a fydd yn cynnwys llyfryn sy'n esbonio pa eitemau cartref sy'n mynd ym mhob sach (yn ogystal â'ch cynwysyddion presennol eraill) a sut i roi eich deunydd ailgylchu mas ar eich diwrnod casglu. Byddwn ni hefyd yn cynnwys 'canllaw cyflym' byrrach sy'n dangos beth sy'n mynd i ble.

Byddwn ni hefyd yn diweddaru ein Canllaw Ailgylchu A-Y ar-lein i ddangos i chi beth sy'n mynd ym mhob sach.

Pan fydd y newidiadau yn dechrau yn eich ardal chi, byddwn ni hefyd yn dechrau casglu bagiau a deunydd lapio plastig o'ch cartref. 

Byddwn ni'n rhoi rholyn o fagiau coch untro i chi ar gyfer yr eitemau hyn, ynghyd â sachau newydd rydych chi'n gallu eu hailddefnyddio ar gyfer eich mathau eraill o ddeunydd ailgylchu. Bydd y llyfryn rydyn ni'n ei roi i chi hefyd yn esbonio'r mathau o eitemau y dylech chi eu rhoi yn eich bagiau a sut i roi eich bag wedi'i lenwi mas i'w gasglu.

Hyd nes y byddwn ni'n dechrau casglu bagiau a deunydd lapio plastig yn eich ardal chi, dylech chi barhau i fynd â'ch bagiau a'ch deunydd lapio plastig i fannau casglu deunydd ailgylchu, fel y rhai mewn archfarchnadoedd. Gallwch chi chwilio am eich man gollwng agosaf ar wefan Cymru yn Ailgylchu.

Sylwch y gall yr eitemau sy'n cael eu derbyn amrywio rhwng lleoliadau, felly dilynwch y canllawiau sy'n cael eu rhoi ym mhob man ailgylchu. 

Os na allwch chi fynd â'r eitemau hyn i fan ailgylchu, rhowch nhw yn eich bagiau du hyd nes i ni ddechrau casglu'r eitemau hyn o'ch cartref.

Os yw rhywun sy'n byw yn eich cartref yn defnyddio cewynnau untro, gallwch chi gofrestru ar gyfer ein gwasanaeth casglu gwastraff hylendid a chewynnau am ddim. Ar ôl cofrestru, byddwn ni'n casglu'r eitemau hyn o'ch cartref bob pythefnos.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael am ein gwasanaeth casglu gwastraff hylendid a chewynnau neu i gofrestru yma.

Os yw rhywun sy'n byw yn eich cartref yn defnyddio cynnyrch anymataliaeth – fel padelli gwely a deunydd leinio tafladwy, padiau anymataliaeth, neu badiau gwely neu gadair – neu fagiau colostomi/stoma, bagiau cathetr neu boteli wrin, neu ffedogau neu fenig untro – gallwch chi gofrestru ar gyfer ein gwasanaeth casglu gwastraff hylendid a chewynnau am ddim. Ar ôl cofrestru, byddwn ni'n casglu'r eitemau hyn o'ch cartref bob pythefnos.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael am ein gwasanaeth casglu gwastraff hylendid a chewynnau neu i gofrestru yma.

Hyd nes y byddwch chi'n derbyn eich sachau a'ch bagiau ailgylchu newydd, a phecyn gwybodaeth, rydyn ni'n gofyn i chi barhau i gyflwyno eich gwastraff ailgylchu a'ch gwastraff na ellir ei ailgylchu yn y ffordd arferol.

Am y tro, os nad ydych chi'n siŵr pa eitemau y gallwch chi ac na allwch chi eu hailgylchu o gartref gan ddefnyddio'ch bagiau glas a'ch bocs du presennol, mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein Canllaw Ailgylchu A-Y.

Cofiwch glymu eich bagiau leinio a'ch bagiau gwastraff yn dynn, a chau'r caeadau ar eich cadi a'ch biniau, er mwyn atal eu cynnwys rhag dianc, yna rhowch eich cynwysyddion yn eich man casglu arferol erbyn 6am ar eich diwrnod casglu.

Os bydd angen unrhyw help arnoch chi i ddidoli eich gwastraff a'ch deunydd ailgylchu, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu, ewch i'n tudalen Cysylltu â Ni

Os na allwch chi roi eich gwastraff ailgylchu a'ch gwastraff na ellir ei ailgylchu mas i'w gasglu oherwydd anawsterau symud, ac na all neb arall eich helpu chi, gallwch chi wneud cais am 'wasanaeth casgliad gwastraff â chymorth'. 

Mae'r gwasanaeth hwn yn ein galluogi i gasglu eich deunydd ailgylchu a'ch gwastraff na ellir ei ailgylchu o le sy'n agosach at eich cartref. Bydd angen i chi wneud cais yn gyntaf, yna bydd angen i ni wirio eich eiddo cyn y gallwn ni ddarparu'r gwasanaeth.

I wneud cais am gasgliadau gwastraff â chymorth, cysylltwch â ni.

Os ydych chi eisoes yn derbyn casgliadau gwastraff â chymorth, byddwch chi'n parhau i gael y gwasanaeth hwn yn awtomatig pan fydd y gwasanaeth casglu ailgylchu newydd yn dechrau yn eich ardal chi. Does dim angen i chi wneud unrhyw beth.

Ewch i Fy Ailgylchu Cymru i gael gwybod beth sy'n digwydd i'ch deunydd ailgylchu a'ch gwastraff na ellir ei ailgylchu ar ôl i ni eu casglu.

Gallwch chi ailgylchu amrywiaeth eang o eitemau yn eich canolfan ailgylchu leol. I gael gwybodaeth am eich canolfan ailgylchu leol, ei horiau agor, unrhyw gyfyngiadau o ran maint cerbydau, a'r hyn y bydd yn rhaid i chi ei wneud o bosib cyn ymweld, ewch i'n tudalen Canolfannau Ailgylchu.

Os yw'r eitemau rydych chi'n mynd â nhw i'ch canolfan ailgylchu leol mewn cyflwr da a bod modd eu hailddefnyddio o bosib yn hytrach na'u hailgylchu, efallai y byddwn ni'n mynd â nhw i Ganolfan Eto, ein prosiect atgyweirio ac ailddefnyddio. Yno, bydd ein staff yn gwirio'r eitemau, yn gwneud unrhyw waith atgyweirio yn ôl yr angen, ac yna'n eu rhoi nhw ar werth. 

Mae Eto yn helpu pawb yn Sir Gaerfyrddin i fod yn fwy cynaliadwy, i leihau wastraff, ac i roi bywyd o'r newydd i eitemau nad oes dim o'i le arnyn nhw. Mae ailddefnyddio yn ffordd wych o arbed yr ynni sy'n cael ei ddefnyddio wrth wneud cynhyrchion newydd, gan helpu i leihau eich ôl troed carbon a gwneud eich rhan i ddiogelu'r amgylchedd. 

Rhagor o wybodaeth am Ganolfan Eto

Rydyn ni'n cynnig gwasanaeth casglu gwastraff swmpus. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i breswylwyr sydd am gael gwared ar eitemau cartref diangen, fel gwelyau, carpedi, oergelloedd, rhewgelloedd a chypyrddau dillad. Gallwn ni gasglu'r eitemau hyn o'ch cartref am ffi fach.

Gwybodaeth am ein gwasanaeth casglu gwastraff swmpus

Rydyn ni'n defnyddio cerbydau gwahanol i gasglu eich deunydd ailgylchu a'ch gwastraff na ellir ei ailgylchu. Ac er ein bod yn casglu rhai eitemau ar yr un diwrnod, fel poteli a jariau gwydr a bagiau du, rydyn ni'n eu casglu ar gerbydau wahanol ar adegau gwahanol rhwng 6am a 2pm.

Os nad ydyn ni wedi casglu rhywfaint o'ch deunydd ailgylchu neu'ch gwastraff na ellir ei ailgylchu erbyn 2pm ar eich diwrnod casglu arferol, cysylltwch â ni.

Ond os ydych chi'n gweld tag neu sticer ar un neu fwy o'ch cynwysyddion nad ydyn wedi'u casglu neu eu gwagio erbyn 2pm ar eich diwrnod casglu, efallai fod hynny oherwydd ei fod yn cynnwys eitem(au) anghywir. 

Os bydd hyn yn digwydd, edrychwch ar y sticer neu'r tag a dilynwch y cyfarwyddiadau. Fel arfer, bydd angen i chi dynnu'r eitem(au) anghywir ac yna rhoi'ch bag mas eto ar eich diwrnod casglu nesaf. 

Os nad ydych chi'n siŵr beth yw'r eitem / eitemau anghywir, mae rhestr o eitemau cartref cyffredin a ble y dylech chi eu rhoi neu cysylltwch â ni.

Cofiwch ein bod ni'n casglu gwahanol fathau o ddeunydd ailgylchu a gwastraff na ellir ei ailgylchu ar wahanol amserlenni. Er enghraifft, er ein bod yn casglu eich gwastraff bwyd a'ch deunydd ailgylchu bob wythnos, rydyn ni'n casglu eich bagiau du ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu bob tair wythnos. Gallwch chi edrych ar eich dyddiadau casglu unrhyw bryd, a lawrlwytho eich calendr casgliadau, yma.

Gallwch chi hefyd gofrestru i dderbyn negeseuon atgoffa am gasgliadau drwy e-bost neu neges destun drwy glicio yma neu drwy gysylltu â ni.

Mae'n bwysig eich bod chi'n rhoi'r eitemau cywir yn y cynwysyddion cywir, ac nad yw eich cynwysyddion ailgylchu yn cynnwys deunyddiau na ellir eu hailgylchu. Fodd bynnag, rydyn ni'n cydnabod bod unrhyw un yn gallu gwneud camgymeriad.

Os ydych chi'n rhoi cynhwysydd sy'n rhy llawn neu'n rhy drwm mas, neu os yw'n cynnwys eitemau anghywir, bydd ein criwiau yn rhoi tag neu sticer arno yn gofyn i chi ddidoli ei gynnwys yn gywir erbyn eich casgliad nesaf. 

Os nad ydych chi'n siŵr beth yw'r eitem / eitemau anghywir, mae rhestr o eitemau cartref cyffredin a ble y dylech chi eu rhoi neu cysylltwch â ni.

Os ydych chi'n sylweddoli eich bod chi wedi rhoi rhywbeth yn y cynhwysydd anghywir ar ôl i ni gasglu eich deunydd ailgylchu, peidiwch â phoeni – ond ceisiwch gofio ei wneud yn iawn y tro nesaf. Cofiwch hefyd dynnu'r sticer neu'r tag o'ch cynhwysydd ac yna ei roi yn eich bagiau du (os yw'n sticer) neu yn eich bag glas / sach oren (os yw'n dag).

Os bydd gennych chi unrhyw fagiau glas untro yn weddill ar ôl i chi ddechrau defnyddio'ch sachau a'ch bagiau ailgylchu newydd o ganol/diwedd tymor yr hydref 2026, rhowch nhw i’ch teulu neu’ch ffrindiau sy’n byw mewn rhannau eraill o Sir Gaerfyrddin nad ydyn nhw'n defnyddio'r gwasanaeth newydd eto.

 

Diolch - drwy ailgylchu rydych chi'n gwneud gwahaniaeth MAWR yn Sir Gaerfyrddin.

Hwb