Bagiau glas - Ailgylchu
Rydym yn danfon tri rholyn o fagiau glas i bob cartref yn flynyddol. Gallwch roi cynifer o fagiau glas ag a fynnoch allan i'w casglu bob pythefnos. Cofio golchi a gwasgu – gallai llenwi pob bag i'r eithaf arbed siwrnai i gasglu rholyn ychwanegol i chi.
Rydym yn ailgylchu:
- Papur, cardbord, plastig, metelau
- Peidiwch byth â rhoi gwydr yn eich bagiau glas gan fod hynny'n beryglus i'n gweithwyr – ailgylchwch eich gwydr yn un o'n banciau ailgylchu
Bydd sticer yn cael ei roi ar bob bag sy'n cynnwys y math anghywir o eitemau ac ni fydd yn cael ei gasglu.
Edrychwch ar ein rhestr A-Y ailgylchu i weld rhestr lawn o'r hyn sy'n mynd yn eich bagiau glas neu darllenwch ein cwestiynau cyffredin.