Ailgylchu, Biniau a Sbwriel

Coronafeirws (COVID-19)

Dim ond drwy apwyntiad y gellir ymweld â'r ganolfan ailgylchu i waredu unrhyw wastraff y cartref. Gallwch ymweld unwaith y dydd. Rhaid archebu'r slotiau erbyn 2.30pm y diwrnod cyn eich apwyntiad.

Rhowch eich bagiau allan y noson cyn eich casgliad. Gall ein hamserau casglu amrywio a gallant fod yn gynharach na'r arfer. Ni fyddwn yn gallu gwneud casgliadau ar gyfer unrhyw finiau sydd heb eu casglu ar hyn o bryd. Cofiwch, peidiwch â rhoi hancesi papur yn eich bagiau ailgylchu glas.

Cofiwch barhau i edrych ar y dudalen newyddion i gael y wybodaeth ddiweddaraf. Gallwch hefyd ein dilyn ar Facebook a Twitter.