Cysylltu â ni

Mae gyda ni nifer o opsiynau cyswllt ar gael er mwyn darparu cymorth 24/7 i chi.

Mae ein Cwestiynau Cyffredin ar-lein yma i'ch helpu i ddod o hyd i'r atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin tu allan i'n horiau busnes.

Os bydd dal angen cymorth arnoch, gallwch siarad ag asiant Gwasanaeth Cwsmeriaid, rydym ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 08:30am – 6:00pm. Ar y cyfan, rydym yn llai prysur rhwng 4.30pm a 5.00pm.

Rydym hefyd yn postio diweddariadau rheolaidd ar newidiadau i wasanaethau, newyddion a digwyddiadau ar Twitter a Facebook. Rydym yn gallu ymateb i ymholiadau drwy'r Cyfryngau Cymdeithasol a thrwy ein ffurflen ymholiadau gyffredinol, dydd Llun - dydd Gwener, 9 - 5pm.

Croesewir gohebiaeth yn y Gymraeg a byddwn yn ymdrin â gohebiaeth Gymraeg a Saesneg i'r un safonau ac amserlenni.