Pridiannau Tir Lleol
Mae chwiliadau Pridiannau Tir Lleol yn rhan bwysig o'r broses trawsgludo eiddo. Bydd canlyniadau'r chwiliadau lleol yn hysbysu darpar brynwyr ynghylch gwybodaeth hanfodol am eiddo sydd efallai gan awdurdodau lleol.
Nid ydym bellach yn darparu gwasanaeth chwilio pridiannau tir lleol.
Mae ein cofrestr Pridiannau Tir Lleol bellach wedi mudo i gofrestr genedlaethol Cofrestrfa Tir EF. Gallwch nawr gael mynediad i'r gwasanaeth digidol newydd trwy'r Porth, Porth Busnes ac ar dudalennau GOV.UK Cofrestrfa Tir EF.
Rydym yn dal i ddarparu atebion i ymholiadau Con29.
Anfonwch y ffi ofynnol o £124.80 yn unig wrth gyflwyno ymholiad Con29 i ni.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i GOV.UK
Mae'r ffurflenni ymholiad CON29 a CON29O yn rhoi gwybodaeth am faterion megis cynlluniau lleol, priffyrdd, gwaith adeiladu a hawliau tramwy cyhoeddus.
Wrth gyflwyno chwiliadau, a fyddech cystal â:
- Sicrhau bod y cynllun lleoliad Arolwg Ordnans (graddfa 1/2500) mwyaf diweddar ac o ansawdd da yn cael ei gyflwyno gyda ffiniau'r eiddo wedi'u marcio'n goch. (ac yn cynnwys rhif trwydded Arolwg Ordnans a chydnabyddiaeth)
- Nodi y caiff gwybodaeth ynghylch ffyrdd ychwanegol sef mân ffyrdd, ffyrdd cefn neu'n ffyrdd sy'n ffinio ei rhoi os cânt eu nodi drwy enw ym mocs 'C' neu os cyfeirir atynt a'u hamlygu ar y cynllun lleoliad sydd wedi'i gyflwyno yn unig.
- Nodi nad ydym ni'n ateb Rhan 2 Ymholiad Dewisol 4. Gellir dod o hyd i wybodaeth yn ymwneud â hyn ar y Gofrestr Gynllunio.
Ffioedd
Math o chwiliad | Ffi gan gynnwys TAW |
---|---|
Con29R yn unig | £124.80 |
Ymholiadau 5 - 21 | £12.00 yr un |
Ymholiad 22 | £24.00 |
Gofyn am ddogfennau
Nid yw'r Uned Pridiannau Tir Lleol yn cadw gwybodaeth am atebion a roddwyd i ymholiadau CON29 a CON290. Felly, er mwyn arbed oedi di-angen, a fyddech cystal â chysylltu â'r Adrannau hynny os oes angen copi o ddogfennau neu gymorth pellach arnoch. Mae'n bosibl y codir tâl am gostau gweinyddol neu lungopio.
- Priffyrdd
- Cynllunio
- Iechyd yr Amgylchedd
- Rheoli Adeiladu
- Tir Comin
- Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog