Y Cyllideb y Cyngor
Cyn y gellir pennu’r gyllideb, mae angen inni benderfynu ynghylch y canlynol:
- faint y mae angen inni ei wario i gynnal gwasanaethau ar lefel dderbyniol
- unrhyw bwysau ychwanegol o ran gwariant, fel cynnydd mewn prisiau, codiadau cyflog a datblygiadau o ran gwasanaethau
- maint yr arbedion y gallwn eu cyflawni
- faint y byddwn yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru
Caiff Strategaeth y Gyllideb ei pharatoi i’w hystyried a’i harchwilio gan yr Aelodau ac rydym hefyd yn ymgynghori â’r cyhoedd a phartïon eraill sydd â diddordeb. Caiff y gyllideb ei phennu gan y Cabinet ym mis Chwefror a’i chymeradwyo’n ffurfiol yng nghyfarfod y Cyngor Sir ym mis Mawrth.
Datganiad o gyfrifon
Y Gyfriflen yw'r Crynodeb statudol o faterion ariannol y Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol a chaiff ei pharatoi'n unol â Chôd Ymarfer Cyfrifeg yr awdurdod lleol (ACOP).
Diben y Gyfriflen yw darparu gwybodaeth glir am gyllid gyffredinol y cyngor ar gyfer etholwyr, trethdalwyr lleol, aelodau'r cyngor ac unrhyw bartïon eraill â diddordeb, a dangos sut mae cyngor y ddinas wedi defnyddio arian cyhoeddus yn ystod y flwyddyn.
