Cymorth. Cefnogaeth. Cyngor

Os oes angen cymorth neu gyngor arnoch chi, gallwch fynd i un o'n Canolfannau Hwb yn ein tair prif dref: Rhydaman, Caerfyrddin neu Lanelli.

Rydym yn hapus i helpu gydag unrhyw gwestiwn, p'un a yw'n ymholiad cyflym neu'n rhywbeth mwy cymhleth. Bydd ein tîm o Ymgynghorwyr Hwb cyfeillgar yn rhoi cymorth ichi gael yr holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt. Byddwn yn dal ati i roi cymorth ichi hyd nes y byddwn wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i'ch helpu i sicrhau'r incwm fwyaf posibl a lleihau eich gwariant. Hefyd mae gennym Ymgynghorwyr Cyllidebu a fydd yn eich helpu i ddysgu sut i reoli eich arian a dod yn fwy annibynnol yn ariannol.

Os yw'n anodd ichi deithio i un o'r 3 tref, gallwch ymweld ag un o'n 10 tref wledig. Mae ein tîm Hwb Bach y Wlad yn ymweld â'r trefi hyn yn rheolaidd. Edrychwch ar dudalen Hwb Bach y Wlad i gael rhestr o'r trefi hyn a'r dyddiadau y byddwn ni yno.

Er mwyn rhoi'r cymorth, y gefnogaeth a'r cyngor rydych yn ei haeddu, rydym yn gweithio gyda nifer o sefydliadau partner a all gynnig cymorth ychwanegol na fyddwn o bosibl yn gallu ei ddarparu. Er enghraifft, gallan nhw helpu o ran cymorth llesiant ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol a chynorthwyo o ran gwneud cais am fudd-daliadau anabledd fel Lwfans Gweini, Taliad Annibyniaeth Bersonol, neu Lwfans Byw i'r Anabl i blant.

 

Ein Partneriaid

Mae nifer o'n sefydliadau partner yn gweithio yn ein 3 phrif Hwb ac yn cynnal sesiynau galw heibio ym mhob un o'r tri hwb yn rheolaidd.

Isod mae enghreifftiau o'r sefydliadau partner rydym yn gweithio'n agos gyda nhw er mwyn inni allu rhoi mynediad ichi i'r gwasanaethau arbenigol rydych yn eu haeddu ac y mae gennych hawl iddynt fel y cyswllt cyntaf.

Mae nifer o sefydliadau partner eraill sy'n ymweld â'n Canolfannau Hwb yn rheolaidd neu ar sail ad-hoc, fel

  • Cysylltu Sir Gâr
  • Adferiad
  • Angor
  • Yr Heddlu
  • Wallich
  • Cymdeithas y Milwyr, Morwyr, Awyrenwyr a'u Teuluoedd (SSAFA)
  • Y Tîm Maethu

I gael amserlen o'r adegau y mae ein partneriaid yn bresennol yn ein Canolfannau Hwb, ewch i dudalen eich Hwb lleol.