Hwb Bach Y Wlad

Rydym ni'n gwybod pa mor anodd yw hi pan fo angen cymorth arnoch ond heb fod yn gwybod ble i droi - rydym am i chi wybod ein bod ni yma ar eich cyfer a byddwn yn ymweld â thref yn agos atoch chi. 

Mae gennym dîm ymroddedig o ymgynghorwyr a all helpu - mae sefyllfa pawb yn wahanol, ond rydym yma i wrando a'ch helpu i wneud cais am y cymorth, y gwasanaethau a'r arian y mae gennych hawl iddynt.

Ochr yn ochr â'n tîm o ymgynghorwyr, mae gennym bellach swyddogion cyllidebu penodedig sy'n gallu eich helpu a'ch cefnogi gyda materion ariannol.

Bydd eitemau ailgylychu gwastradd a stoc tlodi mislif gyda ni yn y lleoliadau hyn a byddwn wrth law i ymdrin ag unrhyw ymholidau sy’n ymwneud â’r cyngor. Gweler isod sut y gallwn eich cefnogi.

 

 

 

 

 

 

 

Lle rydym yn gweithio

Gallwch ddod o hyd i ni yn y lleoliadau canlynol o fis Mai 2024:

Lleoliad Amlder
Clwb a Sefydliad y Gweithwyr Cross Hands 1af a 3ydd dydd Gwener y mis - 10yb-3yp
Canolfan Cymunedol Cwmaman 2ail dydd Gwener y mis - 10yb-3yp
Canolfan y Dywysoges Gwenllïan Cydweli  2ail dydd Llun y mis - 10yb-3yp
Neuadd Goffa Talacharn 2ail dydd Mercher y mis - 10yb-3yp
Neuadd Ddinesig Llandeilo 1af a 3ydd dydd Iau y mis - 10yb-3yp
Canolfan Ieuenctid a Chymunedol Llanymddyfri 3ydd dydd Mawrth y mis - 10yb-3yp
Clwb Rygbi Llanybydder Dydd Iau olaf y mis - 10yb-3yp
Castellnewydd Emlyn Neuadd Cawdor Dydd Mercher 1af y mis - 10yb-2yp
Sanclêr - Y Gât 3ydd dydd Mawrth y mis - 10:30yb-3yp
Neuadd y Dref Hendy-gwyn ar Daf 2ail dydd Mawrth y mis - 10yb-3yp

Drwy gydol y 12 mis nesaf byddwn hefyd yn ymweld â digwyddiadau lleol ar draws Sir Gaerfyrddin. Am ragor o wybodaeth am y digwyddiadau hyn, ewch i’n tudalen newyddion a digwyddiadau.

Hwb Nos

Cyfle i gael sgwrs wyneb yn wyneb Gyda phartneriaid allweddol. Cefnogi chi gyda:

  • Cymorth costau byw
  • Hawliwch bopeth
  • Cymorth cyflogadwyedd
  • Gweithgareddau gyda Chymunedau Actif
  • Cymorth teulu
  • Swyddogion tai
Venue Date and Time
Neuadd Ddinesig San Pedr, Caerfyrddin 12 Chwefror, 2025. 4-7yp
Canolfan Hamdden Castell Newydd Emlyn 20 Chwefror, 2025. 4-7yp
Canolfan Hamdden Llanelli 26 Chwefror, 2025. 4-7yp
Neuadd Pontyberem 5 Mawrth, 2025. 4-7yp
Canolfan Hamdden Rhydaman 12 Mawrth, 2025. 4-7yp
Canolfan Hamdden Llanymddyfri 19 Mawrth, 2025. 5:30-8yp
Canolfan Hamdden Sanclêr 26 Mawrth, 2025. 4-7yp