Newyddion a Digwyddiadau
Diweddarwyd y dudalen ar: 08/01/2025
Cymerwch ofal ychwanegol a chadwch lygad am symptomau blinder gwres (diffyg hylif, teimlo’n gyfoglyd, blinder) a llosg haul. Gofalwch fod ffrindiau a chymdogion agored i niwed yn iawn.
Os ydych yn ystyried mentro i’r dŵr i oeri, cofiwch hefyd am beryglon nofio yn y môr, mewn llynnoedd ac mewn afonydd. Gofalwch amdanoch eich hun ac eraill o'ch cwmpas.
Cynghorir pobl i wneud newidiadau i'w harferion er mwyn ymdopi â'r gwres eithafol, ac o ganlyniad bydd ein criwiau biniau yn dechrau casglu yn gynharach na’r arfer yfory (dydd Iau 9 Gorffennaf) a dydd Gwener 10 Gorffennaf, gan ddechrau am 5am yn hytrach na 6am.
Mae hyn yn cynnwys casgliadau gwastraff gardd a gwastraff hylendid/cewynnau. Rhowch eich gwastraff mas y noson gynt, neu cyn 5am ar eich diwrnod casglu.
Bydd y newid dros dro hwn i'r amseroedd dechrau yn helpu i sicrhau diogelwch a llesiant ein criwiau wrth iddyn nhw weithio yn y tywydd twym. Diolch am eich dealltwriaeth wrth i ni barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol.
Mwynhewch yr haul yn ddiogel!
Diweddarwyd y dudalen ar: 08/01/2025
