Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Rydym wedi cyhoeddi ein Cynllun Strategol Cydraddoldeb ar gyfer 2024-28 sy’n amlinellu sut bydd y Cyngor yn gwireddu ei gyfrifoldebau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a’r Dyletswyddau Penodol yng Nghymru.
Mae'n ofynnol i gyrff cyhoeddus roi sylw priodol i'r angen i:
- Ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu, erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall sydd wedi ei wahardd gan y Ddeddf;
- Hybu cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt yn ei rhannu;
- Hybu perthynas dda rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt yn ei rhannu.
Mae’r cynllun yn cynnwys gwybodaeth am ein gwaith ymgysylltu, y dystiolaeth ar gyfer datblygiad y Nodau Cydraddoldeb a phwyntiau gweithredu am y flwyddyn gyntaf o weithredu.
Mae’r dudalen hon hefyd yn cynnwys gwybodaeth allweddol am ein Gweithlu.