Hygyrchedd
Ein nod yw gwneud ein gwefan yn hygyrch i bawb. Os cewch unrhyw broblemau wrth ddefnyddio ein gwefan neu wasanaethau digidol, anfonwch neges e-bost at digidol@sirgar.gov.uk. Byddwn bob amser yn gwneud popeth a allwn i sicrhau bod ein gwefan yn haws i bawb ei defnyddio.
Cymorth sain / gweledol
Os cliciwch ar cymorth sain / gweledol yn y gornel dde ar dop y wefan byddwch yn gallu defnyddio'r bar offer hygyrchedd ac iaith. Mae hyn yn eich caniatáu chi i addasu ein gwefan yn ôl eich dewisiadau eich hun. Gallwch:
- Gwrando ar ein safle
- Troi testun yn sain
- Newid iaith – un o 90 o opsiynau
- Newid maint y ffont, uchder llinell a'r teip
- Newid lliw'r cefndir a'r cyferbyniad
- Opsiwn testun yn unig
- Offer chwyddo
- Defnyddio pren mesur neu gelu rhannau o'r dudalen
- Geiriadur
- Lawrlwytho ffeil sain
Cysylltu â ni
Os ydych yn fyddar neu'n drwm eich clyw, gallwn ddarparu cyfieithydd iaith arwyddion ar gyfer unrhyw apwyntiadau sydd gennych chi. Mae dolen sain symudol ar gael. Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn gwneud yr apwyntiad.
Os ydych yn defnyddio ffôn testun, gallwch ffonio unrhyw rif o fewn y Cyngor drwy wasgu 18001 cyn y rhif.
Pan fyddwch yn ymweld â'r Hwb / Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid, mae gan yr holl ganolfannau ddrysau awtomatig wrth y fynedfa ac mae pob gwasanaeth ar gael ar y llawr gwaelod.