Iaith Gymraeg
Mae gan Sir Gâr y nifer fwyaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Mae ein poblogaeth ddwyieithog yn ased unigryw a gwerthfawr.
Mae gennym ddyletswydd statudol i ddarparu gwasanaethau Cymraeg ond rydyn ni hefyd yn frwd dros hyrwyddo’r Gymraeg a sicrhau fod gan ei holl drigolion y cyfle i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd. Er gwaetha’r cwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn ôl y Cyfrifiad diwethaf yn 2021, rydyn ni’n gwneud ein gorau glas i gyfrannu mewn modd ystyrlon i gynyddu nifer siaradwyr Cymraeg Cymru i Filiwn o siaradwyr erbyn 2050 yn unol ag amcan Llywodraeth Cymru.
Rydyn ni’n benderfynol o sicrhau bod yr Iaith Gymraeg yn parhau yn Iaith fyw yng nghymunedau Sir Gâr. Er mwyn gwneud hyn, mae’ rhaid i ni gydweithio i greu mwy o gyfleoedd i blant, pobl ifanc, oedolion a theuluoedd i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg yn yr ysgol, yn y gwaith, mewn busnesau ac mewn gweithgareddau hamdden.