Strategaeth Drawsnewid Cyngor Sir Caerfyrddin
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi lansio ei Raglen Drawsnewid a fydd yn newid y ffordd y mae'r awdurdod yn defnyddio llawer o'i adnoddau er mwyn gallu parhau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel.
Cafodd y rhaglen uchelgeisiol, sy'n adeiladu ar y gwaith trawsnewid a wnaed eisoes gan yr awdurdod dros y 10 mlynedd diwethaf.
Bydd y rhaglen yn amlinellu sut y mae'r awdurdod yn bwriadu symud ymlaen i roi mwy o werth a buddion i breswylwyr a busnesau yn y sir a bydd hefyd yn ceisio cyflymu ymhellach y broses o foderneiddio ar draws y cyngor, gan ganiatáu iddo ddarparu gwasanaethau cost-effeithiol o ansawdd uchel mewn amgylchedd heriol.
Dros y pum mlynedd nesaf, bydd y rhaglen yn buddsoddi ymhellach yn staff, adeiladau a thechnoleg yr awdurdod er mwyn creu arferion gwaith mwy modern a chyflymu prosesau.
Bydd y Rhaglen Drawsnewid yn bwydo Strategaeth Gorfforaethol newydd y cyngor - gweledigaeth y cyngor ar gyfer y pum mlynedd nesaf o dan y weinyddiaeth newydd a oedd hefyd heddiw wedi ei gadarnhau gan Aelodau'r Cabinet. Bydd y Strategaeth Gorfforaethol bellach yn mynd i'r Cyngor Llawn i'w chymeradwyo'n derfynol ar 1 Mawrth, 2023.

Pwrpas y Strategaeth Drawsnewid
Prif nod y Strategaeth Drawsnewid yw darparu fframwaith strategol i gynnal rhaglen o newid sefydliadol o bwys fydd yn cefnogi’r Cyngor i gyflawni ei nodau ac amcanion ehangach fel y’u cyflwynir yn ei Strategaeth Gorfforaethol.
Bydd y Strategaeth Drawsnewid yn cyflwyno nodau ac amcanion i helpu i wireddu gweledigaeth benodol.
Bydd y Strategaeth yn ceisio amlinellu sut mae’r sefydliad yn bwriadu gwella ei allu a’r ffordd mae’n defnyddio ei adnoddau i gynnig mwy o werth a buddion i’w gwsmeriaid a’i drigolion.
Bydd yn ceisio cyflymu’r broses foderneiddio ymhellach fyth ar draws y Cyngor, ac yn ein galluogi i barhau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel, cost-effeithiol yng nghyd-destun amgylchedd allanol heriol.
Bydd y Strategaeth yn ceisio annog ymagwedd gynhwysol ac integredig at drawsnewid sy’n gwneud y defnydd gorau o’i bobl, systemau a phrosesau. Bydd yn ceisio cyflwyno achos busnes dros fuddsoddi ymhellach yn ein staff, adeiladau a thechnoleg ac annog mabwysiadu arferion gweithio modern a chyflymu prosesau. Bydd yn anelu hefyd at ddatblygu’r sgiliau, diwylliant ac ymddygiadau sydd eu hangen i wneud newid yn bosib.
Bydd yn ceisio cyflwyno’r ymagwedd fydd yn sail i weithredu Rhaglen Drawsnewid, fydd yn cynnwys mwy o ffocws ar ‘gyflawni’ a chreu cyflymdra ac egni i gyflawni’r math o newid sydd ei angen.
Dylid ystyried trawsnewid yn broses barhaus, ac o’r herwydd bydd hon yn Strategaeth ddeinamig y bydd angen ei hadolygu a’i diweddaru bob blwyddyn.
Trawsnewid – Ein taith hyd yn hyn
Bu Rhaglen TIC y Cyngor yn un o’r prif gyfryngau ar gyfer cefnogi newid a thrawsnewid ar draws y sefydliad yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Prif nod y rhaglen oedd cefnogi’r gwaith o sicrhau ffordd gynaliadwy o drawsnewid y sefydliad; ffordd o weithio fyddai’n galluogi’r Cyngor i gyrraedd ei darged ar gyfer arbedion ariannol, tra’n diogelu safonau ac ansawdd gwasanaethau rheng flaen ar yr un pryd.
Llwyddodd y Rhaglen i gyflawni’r amcanion hynny ac mae wedi helpu datblygu arferion gwaith mwy modern a chydnerth.
Ymateb y Cyngor i bandemig Covid-19 – trawsnewid heb ei gynllunio
Ym Mawrth 2020, roedd Cyngor Sir Caerfyrddin ar fin dechrau un o'r cyfnodau mwyaf heriol a wynebodd llywodraeth leol erioed. Cyflwynodd effaith pandemig Covid-19 ledled y byd heriau unigryw i'r holl wlad, a derbyniwyd y byddai angen i gynghorau fod wrth wraidd yr ymateb lleol i'r argyfwng.
Roedd dyfodiad argyfwng Covid yn golygu fod rhaid i wasanaethau addasu’n gyflym i roi trefniadau amgen ar waith ar gyfer defnyddwyr a staff i sicrhau eu bod yn parhau i ddarparu gwasanaethau.
Roedd y Cyngor yn awyddus felly i gofnodi a defnyddio’r hyn a ddysgodd o’i ymateb i’r pandemig – i ddeall beth weithiodd yn dda a beth na weithiodd cystal, a sut allai hynny newid ‘beth rydym yn ei wneud’ a ‘sut rydym yn ei wneud’, yn y dyfodol.

Trawsnewid – Ein Gweledigaeth
‘Creu newid mewnol sylweddol a chyflym dros gyfnod o 5 mlynedd fydd yn galluogi’r Cyngor i gyflawni ei nodau ac amcanion yn llwyddiannus fel y’u hamlinellir yn ei Strategaeth Gorfforaethol.’
Bydd y Rhaglen yn ceisio tanio newid a blaengaredd arwyddocaol ar hyd a lled y Cyngor ac yn ein helpu sicrhau’r deilliannau gorau oll gyda’r adnoddau sydd ar gael.
Bydd yn ceisio galluogi’r Cyngor i:
- Fod yn sefydliad modern, blaengar a deinamig.
- Sicrhau dyfodol ariannol cynaliadwy.
- Datblygu gweithlu medrus a hyblyg a dod yn ‘Gyflogwr o Ddewis’.
- Darparu gwasanaethau mwy pwrpasol, o ansawdd uchel i gwrdd ag anghenion cwsmeriaid am lai o gost i’r Cyngor.
Prif Amcanion
- Cefnogi’r gwaith o ddatblygu Cyngor sy’n ariannol gynaliadwy, all ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy’n cynnig gwerth am arian.
- Adnabod a helpu sicrhau arbedion ariannol trwy weithio’n fwy effeithlon neu dorri costau.
- Datblygu ymagwedd fwy masnachol at ddarparu gwasanaethau’r Cyngor gyda’r bwriad o greu mwy o gyfleoedd cynhyrchu incwm.
- Cyflwyno rhaglen gwella gwasanaethau sy’n sicrhau y gall y Cyngor ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel a chynnig y safonau gofal cwsmer uchaf.
- Cefnogi ailfodelu gwasanaethau er mwyn darparu gwasanaethau modern, hyblyg a deinamig a gynlluniwyd ar sail anghenion y cwsmer/defnyddiwr terfynol.
- Dod yn sefydliad mwy creadigol a blaengar.
- Gweithio gyda rhanddeiliaid a defnyddwyr terfynol i gytuno ar y ffordd fwyaf priodol o ddarparu gwasanaethau.
- Parhau i ddatblygu gweithlu ystwyth, hyblyg, wedi’i rymuso ac wedi’i hyfforddi’n dda sydd wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel a chynnig y safonau gofal cwsmer uchaf.
- Gwneud mwy o ddefnydd o dechnoleg i gynorthwyo’r Cyngor i ddod yn sefydliad mwy modern, deinamig.
- Gweithredu’n Gyngor deallus trwy wneud defnydd effeithiol o ddata i reoli a gwella perfformiad, ac i reoli gofynion yn effeithiol trwy waith atal ac ymyrraeth gynnar.
- Darparu cyfle i rannu a chydnabod arfer da ar draws y sefydliad.
- Adnabod lle y gall fod angen capasiti a/neu adnoddau ychwanegol i gefnogi’r broses o newid a thrawsnewid.
- Gwneud defnydd effeithiol o gyfathrebu, ymgysylltu â staff a rhaglenni dysgu a datblygu i helpu creu’r diwylliant a’r newid ymddygiad angenrheidiol.
Deilliannau a fwriedir o’r Rhaglen Drawsnewid:
- Gwella ansawdd gwasanaethau a chynnig gwell gwerth am arian
- Gwasanaethau mwy cost-effeithlon
- Gwasanaethau pwrpasol, ymatebol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer
- Gweithlu hyblyg sydd wedi’i hyfforddi’n dda iawn
- Gweithlu mwy ymgysylltiedig ac uwch ei gymhelliant
- Datblygu diwylliant dysgu a ‘gallwn wneud’ ymhellach
- Y safonau gofal cwsmer gorau
- Creu arbedion ariannol
- Arbedion a buddion amgylcheddol
- Cynyddu lefel yr incwm a gynhyrchir
- Prosesau gwaith modern ac effeithlon

Ein Blaenoriaethau Trawsnewid
Cynigir fod y Rhaglen yn canolbwyntio ar gefnogi’r gwaith o gyflawni’r blaenoriaethau thematig canlynol:
Parhau i sicrhau arbedion ariannol trwy weithio’n fwy effeithlon neu dorri costau a ffyrdd mwy clyfar o weithio.
Datblygu agwedd fwy masnachol at ddarparu gwasanaethau’r Cyngor gyda’r bwriad o gynyddu lefel yr incwm a gynhyrchir.
Manteisio ar y cyfleoedd a gyflwynwyd gan symud at weithio hybrid ac ad-drefnu ymhellach bortffolio adeiladau’r Cyngor a moderneiddio a gwella’r amgylchedd gwaith yn yr adeiladau craidd eraill.
Goruchwylio’r gwaith o ddatblygu Strategaeth Weithlu a chyflawni blaenoriaethau allweddol ar gyfer y gweithlu i alluogi’r Cyngor i ddod yn sefydliad mwy modern ac ymatebol ac yn ‘Gyflogwr o Ddewis’.
Darparu ar gyfer ymagwedd fwy cynaliadwy a chreadigol at yr adolygiad, ailfodelu a gwella gwasanaethau’r Cyngor.
Parhau i wneud gwell defnydd o dechnoleg i ddarparu prosesau gwasanaeth mwy clyfar ac effeithlon a chynnig gwell profiad i gwsmeriaid.
Cefnogi’r Cyngor i greu newid trawsnewidiol i gefnogi amcanion a thargedau datgarboneiddio a bioamrywiaeth allweddol.
Cynorthwyo ysgolion i ddod o hyd i ffyrdd o dorri costau a ffyrdd gwell o weithio, a chefnogi’r gwaith o ddatblygu cyllidebau ysgol mwy cynaliadwy a helpu diogelu darpariaeth academaidd rheng flaen.
Blaenoriaethau Croestoriadol
Hefyd, gofynnir i bob un o’r ffrydiau gwaith ystyried y themâu trawsbynciol canlynol fel rhan o’u gwaith:
-
Cwsmeriaid
Sut mae’r hyn rydym yn gobeithio ei gyflawni yn cwrdd ag anghenion ein cwsmeriaid?
-
Gwneud Gwell Defnydd o Adnoddau
A fydd yn creu ffordd well a mwy effeithlon o weithio allai arwain at dorri costau, arbedion ariannol neu wneud mwy am yr un lefel o fewnbynnau?
-
Cenedlaethau’r Dyfodol a Llesiant
Sut mae’n cefnogi’r 5 Ffordd o Weithio sy’n cynnal y Ddeddf?
-
- Hirdymor
- Integreiddio
- Cynnwys
- Cydweithio
- Atal
-
Datgarboneiddio
Sut mae’r gwaith hwn yn helpu amcanion Carbon Sero Net y Cyngor?
-
Data
Gofalu fod pob penderfyniad yn seiliedig ar ddata a thystiolaeth briodol?