Strategaeth Drawsnewid 2022 - 2027

Datgarboneiddio a bioamrywiaeth

1 Nod cyffredinol

Cefnogi’r Cyngor i greu newid trawsnewidiol i gefnogi amcanion a thargedau datgarboneiddio a bioamrywiaeth allweddol.

 

2 Beth mae angen inni ei drawsnewid a pham?

Mewn cyfarfod o’r Cyngor Llawn ym mis Chwefror 2019, cyhoeddodd y Cyngor ‘argyfwng newid hinsawdd’ a chytunodd yn unfrydol i ddod yn awdurdod Carbon Sero Net erbyn 2030. Bydd cyflawni Carbon Sero Net erbyn 2030 yn golygu cyflawni nifer o gamau a thargedau uchelgeisiol a gyflwynir yn y Cynllun Lleihau Carbon, a fydd yn ei dro yn galw am gyfraniad ac ymrwymiad gwasanaethau ar draws y Cyngor.

Erbyn hyn mae’r Cyngor wedi datblygu ei ymrwymiad trwy gyhoeddi Argyfwng Natur a sefydlu Panel Ymgynghorol trawsbleidiol i gynnig cyngor i’r Cabinet ar ddatblygu a gweithredu polisïau a rhaglenni i gyflawni’r symud at sero net erbyn 2030 a mynd i’r afael â’r argyfwng natur.

Mae'r fframwaith statudol a deddfwriaethol sy'n rheoli camau i gefnogi newid yn yr hinsawdd, lliniaru ac addasu, a gwella bioamrywiaeth yn wahanol ac mae ganddynt eu gofynion a'u fframwaith monitro ac adrodd eu hunain a nodir mewn deddfwriaeth. Er bod y ddau fframwaith yn wahanol ar lefel fyd-eang, genedlaethol a lleol, gall gweithgarwch i gefnogi'r naill agenda neu'r llall fod â rôl wrth gefnogi camau i fynd i'r afael â'r llall.

Hyd yn hyn mae’r Cyngor wedi gweithio’n raddol a phragmataidd wrth ddarparu ffocws blaenoriaeth gynnar ar leihau ei allyriadau ei hun a datgarboneiddio ei stad. Arweiniodd y gwaith hwnnw at ostyngiad o 14% yng nghyfanswm yr allyriadau carbon erbyn 2021, ond derbynnir y bydd angen newid trawsnewidiol ar draws yr awdurdod os ydym yn mynd i gyflawni sero net erbyn 2030. Bydd y meysydd allweddol yn cynnwys mwy o waith i leihau galw a datgarboneiddio ein defnydd o ynni, datgarboneiddio ein caffael, cadwyn gyflenwi a seilwaith adeiledig, ynghyd â rhoi sylw i reoli defnydd tir a gwrthbwyso, os ydym am gyflawni ein prif amcanion.

Mae gweithgarwch mewn perthynas â chefnogi ein gofyniad o dan atodlen 6 a gwella bioamrywiaeth yn cael eu nodi yng nghynllun Deddf yr Amgylchedd fel sy'n ofynnol drwy statud. Mae'r ddyletswydd i wella bioamrywiaeth yn ddyletswydd gyffredinol, ac nid yw Llywodraeth Cymru wedi amlinellu'r targedau ategol, y cerrig milltir neu ofynion pellach ar awdurdodau lleol eto.

Bydd angen i hyn weithio’n gyfochrog â phrosiectau a gyflawnwyd fel rhan o’r Rhaglen TIC bresennol sydd wedi ceisio lleihau cost carbon teithio staff trwy hyrwyddo dewisiadau mwy cynaliadwy o gynnal cyfarfodydd a theithio ynghyd â mentrau i resymoli prosesau argraffu a phapur.

 

3 Prif Amcanion

  • Cefnogi ymateb yr Awdurdod i newid hinsawdd a’r argyfwng natur.
  • Cefnogi’r gwaith o adnabod a chyflawni arbedion carbon a chamau gwella natur ar lefel gorfforaethol a gwasanaethau unigol.
  • Gweithredu’n hyrwyddwyr ar gyfer datgarboneiddio a chyfoethogi bioamrywiaeth mewn cynlluniau, rhaglenni, prosiectau ac ymyriadau eraill a wneir mewn gwasanaethau unigol.
  • Adnabod cyfleoedd ar gyfer arbedion carbon trwy gynllunio, datblygu a darparu gwasanaethau.
  • Adnabod rhwystrau rhag cyrraedd targed sero net.
    • Annog staff i feddwl yn fwy blaengar am waith comisiynu a chaffael a herio’r ffyrdd presennol o weithio.
    • Argymell camau fydd yn datgarboneiddio stad yr Awdurdod.
    • Gweithio gyda phartneriaid a dylanwadu arnynt, gan gynnwys sefydliadau rhanbarthol a llywodraeth i gymryd camau sy’n datgarboneiddio’r sector cyhoeddus.
    • Cysoni gweithgarwch ar draws yr Awdurdod.
  • Adnabod cyfleoedd o fewn cylch gorchwyl yr Awdurdod i leihau ein hôl troed carbon a mynd i’r afael â’r argyfwng natur.
  • Datblygu cyfleoedd i weithio gyda staff, partneriaid eraill yn y sector cyhoeddus a’r cyhoedd sy’n arddangos ein hymrwymiad ac yn annog newid dulliau teithio.

 

4. Beth fydd ein prif flaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf a thu hwnt?

  • Datblygu a chyflwyno Pecyn Gwaith Caffael erbyn Mawrth 2023.
  • Datblygu model “taflwybrau carbon” erbyn Rhagfyr 2023
  • Datblygu Strategaeth Datgarboneiddio newydd erbyn Ebrill 2024
  • Datblygu model costau carbon erbyn Ebrill 24
  • Datblygu model cyllidebu carbon erbyn Ebrill 24
  • Datblygu cynllun bioamrywiaeth fel sy’n ofynnol o dan Ddeddf yr Amgylchedd erbyn Rhagfyr 2023
  • Datblygu cynllun Cyfathrebu Allanol erbyn Rhagfyr 2023.

 

5. Sut fyddwn ni’n mesur effaith y gwaith hwn?

  • Cyfanswm arbedion carbon ar gyfer pob maes gwasanaeth dros gyfnod o amser
  • Adroddiad blynyddol ar “Gyflwr Natur”