Rhybudd Haen 4: Cyfyngiadau Symud o hanner nos 19 Rhagfyr
Effeithir ar wasanaethau yn Sir Gaerfyrddin yn ystod y cyfnod hwn. Ni fyddwn yn diweddaru ein gwefan gyfan. Ewch i'r dudalen Newyddion i gael gwybodaeth am yr hyn sydd ar agor, ar gau neu lle mae cyfyngiadau ar waith.
Rydym yma i'ch cefnogi chi, eich cymuned, neu eich busnes. Byddwn yn parhau i ddiweddaru'r dudalen Newyddion gyda'r cyngor diweddaraf, gwybodaeth leol a chyfleoedd ariannu. Gallwch hefyd ein dilyn ar Facebook a Twitter.
Mae gan wefan Llywodraeth Cymru wybodaeth am yr hyn y gallwch ac na allwch ei wneud.
Mae'n rhaid i ni gyd weithio gyda'n gilydd i Ddiogelu Sir Gâr ac atal lledaeniad Covid-19 yn ein cymunedau.
Arhoswch gartref - cadwch yn ddiogel.

Ffilmio yn Sir Gaerfyrddin
Mae Sir Gaerfyrddin wedi profi ei bod yn gyrchfan ddymunol a chost-effeithiol i lawer o ymgyrchoedd hysbysebu ar y teledu, yn ddigidol ac mewn print.
Mae'r diwydiannau ceir a beiciau modur yn benodol wedi profi tirwedd wych y Sir – ein traethau ysgubol a ffyrdd gwledig hir drwy fynyddoedd gorllewinol Bannau Brycheiniog a mynyddoedd Cambria – sydd wedi cynnig y cefndir perffaith ar gyfer nifer o gynyrchiadau cenedlaethol a rhyngwladol. Ac mae'r Sir yn parhau i ennill enw da fel lleoliad ffilmio ar gyfer dramâu teledu a ffilmiau mawr, gyda nifer o gynyrchiadau sydd wedi ennill sawl gwobr yn ymgartrefu yn Sir Gaerfyrddin.
Mae gennym enw da am fod yn un o'r lleoliadau mwyaf croesawgar, deniadol a chofiadwy yng Nghymru. Cyrchfan sy’n cynnig llu o brofiadau gwerthfawr - calendr llawn o ddigwyddiadau a gwyliau, trefi marchnad cartrefol a bywiog, canolfannau siopa modern, traethau glân ac ardaloedd gwledig bryniog a ffrwythlon.
Pam dewis Sir Gaerfyrddin...
Y drydedd sir fwyaf yng Nghymru ac mae’n cwmpasu rhyw 2,371 cilometr sgwâr, sef 11% o gyfanswm tir Cymru. Wedi’i lleoli ar goridor yr M4, o fewn cyrraedd hwylus i Gaerdydd, Llundain a phob rhan o’r DU ac Iwerddon. Mae'n cynnig popeth y byddech chi'n ei ddisgwyl ar ffracsiwn o'r gost.
Rydym yn un o'r cyrchfannau twristiaeth gorau nid yn unig yng Nghymru ond yn y DU.

Mae ystod o gwmniau cyfryngol, gan gynnwys Tinopolis, eisoes wedi gweld y budd o ymgartrefu yn Sir Gaerfyrddin. Mae ein statws yn y sector diwydiannau creadigol wedi cael ei gryfhau gan benderfyniad S4C i adleoli i Gaerfyrddin yng Nghanolfan S4C Yr Egin, canolfan greadigol a digidol newydd Y Drindod Dewi Sant.
Sut y gallwn helpu...
Rydym un o’r sefydliadau mwyaf yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Yn ogystal â bod yn gorff statudol ar gyfer priffyrdd, parcio a thrwyddedu, rydym yn rheoli portffolio amrywiol o gyfleusterau o safon – o oleudai i gelloedd yr heddlu Fictoraidd, ystadau tai i gestyll.
Rydym yn deall yn llawn y pwysau sydd ar bob cynhyrchiad a’r gofynion, ac rydym wedi ymrwymo i’r gred mai’r ffordd orau o alluogi ffilmio yw sicrhau nad yw'n rhoi gofynion afresymol ar yr ardal lle mae'n digwydd. Mae cynllunio, paratoi ac ymgynghori effeithiol yn allweddol i hyn - mae angen o leiaf 10 diwrnod gwaith o rybudd arnom ar gyfer pob cais i ffilmio yn Sir Gaerfyrddin.
Mae ein gwasanaethau yn cynnwys:
- Gwrando ar ymholiadau cychwynnol, darparu gwybodaeth am amodau lleol a gwasanaethau logisteg
- Cysylltiadau â’r sector sgrin / ffilm lleol a chenedlaethol ac awdurdodau cyhoeddus eraill
- Helpu i sicrhau caniatâd i ffilmio
- Rheoli traffig a pharcio
- Ymgysylltu cymunedol
- Helpu i drefnu llety a lletygarwch
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ffilmio yn Sir Gaerfyrddin, e-bostiwch ni. Os ydych chi'n barod i wneud cais, mae angen i ni wybod ble a phryd y byddwch chi'n ffilmio, maint y criw, gwybodaeth am dronau / offer arbenigol, unrhyw ofynion parcio neu wasanaethau ychwanegol y gallai fod eu hangen arnoch chi fel lletygarwch, ymgysylltu â'r gymuned ac ati.
Gweneud cais am ganiatâd ffilmio
Crwydro Sir Gâr...
Ewch i Ddarganfod Sir Gâr i weld rhai o'r lleoliadau ysbrydoledig y gallech chi ffilmio ynddynt.