Parc Gwledig Llyn Llech Owain
Heol yr Eglwys, Gors-las, Llanelli, SA14 7NF
Llecyn 73 Hectar (180 erw) Yng nghanol y Parc Gwledig, ceir llyn sydd wedi'i amgylchynu gan fawnog. Mae'r cynefin prin hwn wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Mewn mannau eraill, ceir llecynnau o weundiroedd a choetiroedd llydanddail ac mae llecynnau o goetiroedd conwydd yn cael eu clirio a'u haddasu'n weundiroedd a choetiroedd llydanddail.
Yn sgil rhwydwaith o lwybrau cerdded, gellir mwynhau cerdded yn y llecyn hwn. Mae nifer o'r llwybrau ag arwyneb da ac yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.
Mae llwybr pwrpasol yn caniatáu i bobl gerdded dros y fawnog ac o amgylch y llyn yn ddiogel.
Saif Tŵr Darganfod wrth ymyl y llyn ac o'r man hwnnw, gellir mwynhau golygfeydd godidog o Lyn Llech Owain a'r ardal gyfagos.
Parcio: Oes
Arlwyo: Ystafell ar gyfer cerbydau arlwyo, mae yna gaffi ar y safle hefyd.
Cyfyngiadau ffilmio: Dim
Cyfyngiadau ar ddefnyddio drôn: Dim
- Tŵr Darganfod
- Llyn
- Coetir