Defnyddio ac yn gweld technoleg i gefnogi iechyd a llesiant yn Sir Gaerfyrddin
Wrth baratoi ar gyfer agoriad Canolfan Pentre Awel, mae Cyngor Sir Caerfyrddin a Phrifysgol Abertawe yn cydweithio ar brosiect ymchwil ar y cyd i ddysgu a deall sut mae cymunedau Sir Gaerfyrddin yn defnyddio ac yn gweld technoleg fel ffordd o gefnogi iechyd a llesiant. Mae'r cyfle hwn yn caniatáu i Gyngor Sir Caerfyrddin weithio'n unigol neu ar y cyd â sefydliadau eraill i gefnogi cymunedau Sir Gaerfyrddin, boed hynny drwy gynnal dosbarthiadau defnyddio technoleg i bobl o bob lefel neu drwy helpu i ddatblygu cynhyrchion, gwasanaethau neu driniaethau arloesol newydd i sicrhau ein bod yn rhoi iechyd a bywydau cymunedau yn gyntaf.
Bydd yr arolwg yn cymryd oddeutu 5 munud yn unig i'w gwblhau