Pam yr ydym wedi ymgynghori

Cymeradwywyd Rhaglen Moderneiddio Addysg Sir Gaerfyrddin gan y Cyngor Sir ym mis Tachwedd 2004 fel cynllun buddsoddi strategol a rhesymoli i drawsnewid darpariaeth ysgolion ledled Sir Gaerfyrddin. Y nod yw trawsnewid y rhwydwaith o ysgolion meithrin, ysgolion cynradd ac uwchradd sy'n gwasanaethu'r sir yn adnodd strategol a gweithredol effeithiol sy'n diwallu'r angen presennol ac yn y dyfodol am addysg sy'n canolbwyntio ar yr ysgol a'r gymuned. Ers ei sefydlu, mae'r Rhaglen Moderneiddio Addysg wedi cael cydnabyddiaeth eang am ei gweledigaeth strategol, ei chynllunio trawsnewidiol a'i chofnod trawiadol o gyflawni.

Yn 2010, penderfynodd y Cyngor Sir adolygu'r RhMA bob dwy flynedd neu fel arall yn ôl yr angen i sicrhau cysondeb ag amserlen Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif genedlaethol (wedi ei ail enwi Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (RhCDC)).

Mae hyn wedi bod yn nodwedd ganolog i'r RhMA ers ei sefydlu bod angen iddi gadw hyblygrwydd wrth wraidd y rhaglen i sicrhau bod y rhaglen yn parhau'n gyfredol ac yn ymatebol i newidiadau yn y fframwaith polisi addysg ac anghenion cymdeithas a chymunedau sy'n datblygu'n gyson. Mae hyn yn fwy gwir nag erioed yn yr hinsawdd presennol / ar ôl y pandemig.

O'r herwydd, mae'r Awdurdod Lleol yn cynnal ei adolygiad o'r RhMA ar hyn o bryd, yn unol â'r gofyniad i gyflwyno rhaglen amlinellol strategol ar gyfer y rhaglen dreigl newydd i Lywodraeth Cymru. O ganlyniad, datblygwyd Strategaeth y RhMA newydd i gyfarwyddo’r Rhaglen Addysg Moderneiddio newydd yn y dyfodol. Fe'i harweinir gan set o amcanion strategol a'i danategu gan ddarnau pwrpas ac egwyddorion addysgol yr adran i sicrhau cydlyniant â'r 8 Blaenoriaeth Addysg ar gyfer 2022-2025 a strategaeth Addysg Sir Gâr 2022-2032. Mae strategaeth y RhMA yn cynnwys set o feini prawf hyfywedd a buddsoddi i sicrhau dull priodol a thryloyw o ddatblygu trefniadaeth ysgolion a chynigion buddsoddi.

Sut aethom ati i ymgynghori

Trwy arolwg ar-lein

Bydd Adroddiad Ymgynghori yn crynhoi’r sylwadau a gyflwynwyd gan ymgyngoreion yn cael ei baratoi a’i gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin. Bydd yr Adroddiad Ymgynghori yn cael ei gyflwyno i aelodau'r Cabinet i'w ystyried a ddylid cymeradwyo'r strategaeth ai peidio.

Canlyniad yr ymgynghoriad

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 12 Chwefror 2024 a 13 Mawrth 2024 i gasglu barn yr holl randdeiliaid am y fersiwn ddrafft o Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg. Darperir adroddiad llawn am yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn yr Adroddiad atodedig ynghylch

Ymgynghoriad Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg.

Yng ngoleuni'r adborth i'r ymgynghoriad, mae'r newidiadau canlynol wedi'u gwneud i Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg i'w hystyried:

Diwygiad i'r geiriad sy'n ymwneud ag Egwyddorion Addysg Gynradd Sir Gaerfyrddin (gweler Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg)

Awgrymwyd gan y Pwyllgor Craffu - Addysg, Pobl Ifanc a'r Iaith Gymraeg, bod y Cabinet yn ystyried dileu'r egwyddor addysg sy'n ymwneud â dim mwy na 2 grŵp blwyddyn yn cael eu dyrannu i bob dosbarth addysgu ar y sail y byddai hyn yn rhoi pwysau ychwanegol ar staff ac ansicrwydd i rieni.

Yng ngoleuni'r awgrymiadau a'r ymatebion i'r ymgynghoriad uchod, adolygwyd y geiriad sy'n ymwneud â'r Egwyddorion Addysg i adlewyrchu bod yr Egwyddorion Addysg yn uchelgeisiol ac yn dangos ein nodau ar gyfer yr hyn yr ydym am i'n hysgolion yn Sir Gaerfyrddin anelu ato, gan adlewyrchu ein hymrwymiad i sicrhau rhagoriaeth mewn addysg.

Mae diwygio geiriad yr egwyddorion addysg gynradd o orfodol i ddyheadol yn cynyddu hyblygrwydd, gan ganiatáu i ysgolion nad ydynt yn gallu cydymffurfio'n llawn â'r egwyddorion addasu'r egwyddorion i'w hamgylchiadau a'u hadnoddau unigryw. Mae'n meithrin arloesi a chreadigrwydd wrth weithredu, gan sicrhau y gall amgylcheddau ysgol amrywiol geisio'r delfrydau cyffredin hyn.

Ychwanegu Atodiad 2 – Rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig (Gweler Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg)

Mae hyn yn amlinellu ymrwymiad Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin i gefnogi a meithrin cydnerthedd a chynaliadwyedd ei ysgolion gwledig yn y dyfodol a sicrhau bod pob cam rhesymol yn cael ei gymryd i gydymffurfio â chyfres Llywodraeth Cymru o weithdrefnau a gofynion yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion (2018) sy’n gweithio ar sail tybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig.

Mae hyn hefyd yn parhau i ymrwymo i ymgorffori Cyfnod 0 yn y siartiau llif, fel bod Cyfnod 0 yn cael ei ystyried ar gyfer pob ysgol sy'n destun strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg. Mae hyn yn golygu y bydd pob ysgol yn destun cyfres fanwl o ystyriaethau cyn llunio cynnig.

Awgrymir hepgor/diwygio'r geiriad mewn gwahanol adrannau o Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg i'w wneud yn fwy cryno, dileu ailadrodd a sicrhau ei fod yn berthnasol i'r Strategaeth mSiart llif eglurhaol ddiwygiedig ar gyfer Adolygiad Strategol a Chynigion Statudol.

Yn ogystal, mae'r siart llif eglurhaol fewnol ar gyfer adolygiad strategol a chynigion statudol wedi'i adolygu i sicrhau cydymffurfiaeth lawn â'r Cod Trefniadaeth Ysgolion (2018) a thrwy hynny gyfyngu ar y cyfle i'w herio (gweler Mapiau Proses diwygiedig atodedig).

Mae'r siart llif eglurhaol fewnol ar gyfer adolygiad strategol a chynigion statudol wedi'i diwygio i wahanu'r gweithdrefnau ar gyfer cynnal adolygiad strategol ynghylch ysgolion gwledig oddi wrth gynigion statudol eraill. Mae'r addasiad hwn yn sicrhau cydymffurfiaeth lawn â'r Cod Trefniadaeth Ysgolion (2018), gan fynd i'r afael yn benodol â'r gofynion gweithdrefnol unigryw ar gyfer cau ysgolion gwledig, sy'n wahanol i'r rhai sy'n berthnasol i gynigion statudol eraill. Trwy wahaniaethu'r prosesau hyn, mae'r awdurdod yn gwella eglurder ac yn gweithredu'n agosach at rwymedigaethau statudol.

Bydd hyn hefyd yn golygu na fydd y diwygiadau y cyfeiriwyd atynt ym mhenderfyniad blaenorolyr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ar 17 Medi 2018 bellach yn rhan o Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg. Gwnaed y diwygiadau hyn gan ragweld y newidiadau yn sgil Cod 2018 ond ni chafodd y rhain eu hadlewyrchu yn fersiwn derfynol y Cod.

Dylid nodi hefyd bod cynnig i fyrhau'r Broses Fewnol o Benderfynu ar Drefniadaeth Ysgolion wedi'i gymeradwyo a bod y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant wedi'i ddileu o Gyfnodau 2 a 3 o'r broses ymgynghori gan y Cyngor yn ei gyfarfod ar 13 Ionawr 2021.