Diogelu Data
Nod deddfwriaeth ynghylch Diogelu Data yw diogelu eich data personol a sicrhau yr ymdrinnir ag ef yn ofalus ac yn briodol. Mae'r term 'data personol' yn cyfeirio at ystod eang o wybodaeth amdanoch, megis eich enw, eich cyfeiriad, eich rhif ffôn a'ch manylion ariannol.
Mae'n ofynnol bod yr holl sefydliadau yn cydymffurfio â chwe egwyddor bwysig wrth gasglu data personol ac ymdrin ag ef:
- Rhaid i ni brosesu data personol mewn modd cyfreithlon, teg a thryloyw.
- Rhaid i ni brosesu data personol at ddibenion penodol, eglur a chyfreithlon yn unig, a rhaid i bob defnydd arall fod yn unol â'r dibenion hyn
- Rhaid i ddata personol fod yn ddigonol, yn berthnasol ac yn gyfyngedig i'r hyn sy'n angenrheidiol i'r diben y caiff ei ddefnyddio
- Rhaid i'r wybodaeth bersonol a gedwir fod yn fanwl gywir a, lle bo'r angen, rhaid ei ddiweddaru
- Rhaid peidio â chadw data personol yn hwy nag sy'n angenrheidiol
- Rhaid prosesu data personol mewn modd diogel, gan gynnwys diogelu rhag defnydd anawdurdodedig neu anghyfreithlon, a diogelu rhag colli, dinistrio neu ddifrodi'r data'n ddamweiniol drwy ddefnyddio mesurau technegol a threfniadaethol priodol
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymrwymo i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth drwy weithredu'r egwyddorion hynny ym mhob un o'i wasanaethau.
Gallwch gyfeirio hefyd at ein Hysbysiad Preifatrwydd i gael mwy o fanylion ar sut yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth yng ngwasanaethau penodol y Cyngor.
Mae gennych yr hawl i weld gwybodaeth a gedwir amdanoch drwy wneud cais i'r Cyngor. Gallwch:
- Gael cadarnhad bod data personol amdanoch yn cael ei brosesu
- Cael copi o'r data personol
Gallwch hefyd gael gwybodaeth atodol am sut mae eich data'n cael ei brosesu, megis y cyfnod yr ydym yn cadw gwybodaeth amdanoch.
Gallwch wneud cais drwy ddanfon ebost i diogeludata@sirgar.gov.uk.
Gallwch hefyd lawrlwytho ein ffurflen gais gan wrthrych data.
Dylech nodi, fel rheol, nad yw'r hawl hon yn caniatáu i chi weld gwybodaeth am bobl eraill.
Yn ogystal, mae'n rhaid i ni sicrhau mai dim ond y bobl sydd â hawl i'w gael sy'n cael unrhyw ddata personol yr ydym yn ei ryddhau. Felly, os ydym yn ansicr pwy ydych, byddwn yn gofyn i chi wirio hyn drwy roi rhagor o wybodaeth.
Mewn amgylchiadau o'r fath, gall fod yn ofynnol i ni weld dogfen sy'n cadarnhau pwy ydych cyn i ni roi unrhyw ddata personol i chi. Mae'r canlynol yn enghreifftiau o ddogfennau:
- Tystysgrif geni
- Pasbort
- Trwydded yrru
- Bil cyfleustodau
Mae'n ofynnol i ni ymateb i gais cyn gynted â phosibl; o fewn un mis ar ôl derbyn y cais fan bellaf. Mae'r Cyngor yn gallu cael dau fis ychwanegol ar ben hynny lle mae'r ceisiadau'n gymhleth neu fod nifer fawr ohonynt.
Mae gennych yr hawl hefyd i weld delweddau ohonoch chi eich hun sydd wedi'u recordio ar systemau Teledu Cylch Cyfyng a reolir gan y Cyngor.
Gallwn ddarparu copi o ffilm teledu cylch cyfyng sy'n cynnwys delweddau ohonoch, os yw'n cael ei gadw gennym. Mae hyn yn amodol ar unrhyw eithriadau a all fod yn berthnasol.
Yn gyffredinol, ymdrinnir â cheisiadau am ffilmiau teledu cylch cyfyng yn yr un modd â cheisiadau am wybodaeth arall, gan ddefnyddio'r manylion cyswllt uchod.
Mae angen i chi roi'r wybodaeth ganlynol er mwyn ein galluogi ni i chwilio am unrhyw ddelweddau a gedwir gennym:
- Lleoliad y system teledu cylch cyfyng
- Yr amser a'r dyddiad yr ydych yn credu y cafodd y delweddau eu recordio
- Ffotograff ohonoch chi eich hun, a oedd yn gyfredol ar yr amser y cafodd y delweddau eu recordio
Byddai hefyd o ddefnydd os gallech roi unrhyw wybodaeth arall a fyddai o gymorth i nodi'r delweddau (e.e. unrhyw ddillad penodol yr oeddech yn eu gwisgo ar y pryd). Efallai y bydd angen gwybodaeth arall arnom er mwyn cadarnhau pwy ydych.
Yn ogystal â chael mynediad at y data personol y mae'r Cyngor yn ei brosesu amdanoch chi, mae gennych yr hawl i:
- Cael unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn wedi'i gywiro
- Gwneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), y corff annibynnol yn y Deyrnas Unedig sy'n diogelu hawliau gwybodaeth
Mewn rhai amgylchiadau, mae gennych yr hawl i:
- Wrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol
- Dileu eich data personol
- Cyfyngu prosesu eich gwybodaeth bersonol
- Symudedd data
Os mai caniatâd yw'r unig sail ar gyfer prosesu eich data personol, gallwch hefyd dynnu hyn yn ôl ar unrhyw adeg.
I ddarganfod mwy am yr hawliau hyn a sut i wneud cais i'w defnyddio, defnyddiwch y manylion cyswllt a ddarperir ar waelod y dudalen we hon.
Rydym yn cadw gwybodaeth yn unol ag ein hamserlenni cadw.
Mae gennych hawl cyffredinol i weld gwybodaeth a gedwir gennym nad yw'n ymwneud â chi fel unigolyn, ac nad ydym yn ei chyhoeddi fel rheol, drwy gyflwyno cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Rydym hefyd yn dilyn Cynllun Cyhoeddi Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sy'n sicrhau eich bod yn gallu gweld gwybodaeth am y Cyngor yn didrafferth, gan gynnwys data ynghylch gwariant a pherfformiad.
Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch sut mae eich gwybodaeth yn cael ei phrosesu gan y Cyngor, gallwch godi'r mater gyda'n Tîm Cwynion, neu gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ISO).
Cyngor a Democratiaeth
Y Cyngor
Cynghorwyr, ACau ac ASau
- Eich Cynghorydd Sir
- Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd a'r Cynllun Deiseb
- Lwfansau a buddiannau cynghorwyr
- Cynghorwyr Tref a Chymuned
- Aelodau Senedd Cymru
- Aelodau Seneddol
- Sut mae bod yn Gynghorydd
Adrannau'r Cyngor
Dweud eich dweud
- Anghenion Rhandiroedd a Thyfu Cymunedol
- Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol
- Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
- Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
- Arolwg Bodlonrwydd Tenantiaid STAR
- Holiadur Preswylwyr Sir Gâr 2023
- Ymgynghoriad ynghylch Polisi Plant sy'n Codi'n 4 Oed Ysgolion Cynradd 2025/26
- Ymgynghoriad ar y gyllideb 2024 Gyllideb
- Prif Gynllun Teithio Llesol Y Tymbl
- Strategaeth Hamdden 2023-33 ymgynghoriad cymunedol
- Terfynau Cyflymder 20mya
- Ymgynghoriad ar Leoedd Actif
- Byw'n Dda yn Sir Gaerfyrddin
- Adolygiad o’r polisi trwyddedu
- Asesiad Amgylcheddol Strategol ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
- Holiadur Preswylwyr Sir Gâr 2024
- Trwyddedu Bridio Cŵn yn Sir Gaerfyrddin
- Polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol
- Strategaeth Leol ar gyfer Perygl Llifogydd 2024-2030
- Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg
- Creu Sir Gaerfyrddin Ddigidol
Pwyllgorau a Chyfarfodydd
- Agendâu a chofnodion
- Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
- Dyddiadur y Cyngor
- Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
- Y Cabinet
- Penderfyniadau swyddogion
- Blaengynlluniau Waith
- Pwyllgor Cynllunio
- Craffu
- Pwyllgor Safonau
- Cyngor Ymgynghorol Sefydlog dros Addysg Grefyddol (CYSAG)
Strategaethau a chynlluniau
Y Cyllideb y Cyngor
Cyllideb y Cyngor
- Crynhoad Cyllideb
- Datganiad Cyfrifon
- Cronfa Bensiwn Dyfed
- Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)
- Bargen Ddinesig Bae Abertawe
- Ffyrdd syml i arbed arian i'r Cyngor
Perfformiad y Cyngor
- Rheoli Perfformiad
- Archwiliadau, Arolygiadau ac Adroddiadau
- Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2022-23
Hysbysiadau cyhoeddus
Canllawiau Brexit
Iaith Gymraeg
Gweithredu dros yr Hinsawdd Sir Gâr
- Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud?
- Maniffesto Gweithredu dros yr Hinsawdd
- Prosiect Refit:Cymru
- Grant Gwres Carbon Isel
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyfamod y Lluoedd Arfog
Etholiadau a Phleidleisio
- Etholiad Cyffredinol Seneddol y Deyrnas Unedig
- Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu 2024
- Etholiadau'r Senedd 2026
- Pleidleisio
- Bod yn gymwys i bleidleisio
- Sut mae pleidleisio?
- Newidiadau i bleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy
- Cofrestru i bleidleisio
- Diweddaru eich manylion ar y Gofrestr Etholiadol
- Sut i optio allan o'r gofrestr agored
- Gweld y Gofrestr Etholiadol
- Is-etholiadau
- Fy Un Agosaf - Gwybodaeth etholiadol
- Help i Bleidleiswyr Anabl
- Prawf Adnabod Pleidleisiwr
- Recriwtio ar gyfer etholiadau
Mwy ynghylch Cyngor a Democratiaeth