Pleidleisio
Diweddarwyd y dudalen ar: 22/01/2024
Dysgwch bopeth sydd angen ei chi wybod am bleidleisio ac etholiadau, prawf adnabod pleidleisiwr ac unrhyw newidiadau i bleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy.
Mae 3 ffordd gallwch bleidleisio:
Mynd i'ch gorsaf bleidleisio agosaf, ar y Diwrnod Pleidleisio
Anfon eich papur pleidleisio yn ôl atom yn y post
Penodi dirprwy (person arall) i bleidleisio ar eich rhan naill ai drwy fynd i'r man pleidleisio neu drwy'r post
Pan fyddwch yn pleidleisio drwy fynd i'r man pleidleisio, byddwch yn ymweld â'r orsaf bleidleisio a ddyrannwyd i chi yn seiliedig ar eich cyfeiriad ar eich cyfeiriad etholiadol.
Yn agos at ddyddiad yr etholiad, anfonir cerdyn pleidleisio swyddogol atoch yn dweud wrthych pryd y mae Diwrnod yr Etholiad a ble mae eich gorsaf bleidleisio leol. Gallwch bleidleisio yno rhwng 7am a 10pm ar Ddiwrnod yr Etholiad.
Dim ond yn yr orsaf bleidleisio a ddyrannwyd i chi y gallwch bleidleisio.
Etholiadau Seneddol
Prawf Adnabod Pleidleisiwr
O fis Mai 2023 bydd angen i chi ddangos eich llun prawf adnabod a gymeradwywyd neu Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr mewn gorsafoedd pleidleisio adeg etholiadau Seneddol.
Yn ôl y gyfraith, bydd yn rhaid i chi ddangos prawf adnabod sy'n cynnwys llun pan fyddwch am bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio mewn etholiad Seneddol. Gallai fod yn brawf adnabod sy'n cynnwys llun ac sydd wedi'i gymeradwyo, megis pasbort. Caiff prawf adnabod sydd wedi dod i ben ei dderbyn os yw'r llun yn dal i edrych yn debyg i chi.
Dim ond dogfennau gwreiddiol fydd yn cael eu derbyn; ni fydd lluniau neu gopïau wedi'u sganio yn cael eu derbyn. Fodd bynnag, os yw eich prawf adnabod sy’n cynnwys llun wedi dod i ben, caiff ei dderbyn ar yr amod bod y llun yn dal i edrych yn debyg i chi.
Os nad oes gennych brawf adnabod sydd wedi'i gymeradwyo, bydd angen i chi wneud cais am 'Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr' am ddim - sydd weithiau'n cael ei galw'n 'Gerdyn Pleidleisiwr' neu'n 'Ddogfen Adnabod Etholiadol'. Bydd modd i bleidleiswyr wneud cais ar-lein am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr drwy wefan Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr GOV.UK newydd.
Etholiadau Seneddol a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu
Prawf Adnabod Pleidleisiwr
O fis Mai 2023 bydd angen i chi ddangos eich llun prawf adnabod a gymeradwywyd neu Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr mewn gorsafoedd pleidleisio adeg etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu.
Yn ôl y gyfraith, bydd yn rhaid i chi ddangos prawf adnabod sy'n cynnwys llun pan fyddwch am bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio mewn etholiad Comisiynydd Heddlu a Throseddu. Gallai fod yn brawf adnabod sy'n cynnwys llun ac sydd wedi'i gymeradwyo, megis pasbort. Caiff prawf adnabod sydd wedi dod i ben ei dderbyn os yw'r llun yn dal i edrych yn debyg i chi.
Dim ond dogfennau gwreiddiol fydd yn cael eu derbyn; ni fydd lluniau neu gopïau wedi'u sganio yn cael eu derbyn. Fodd bynnag, os yw eich prawf adnabod sy’n cynnwys llun wedi dod i ben, caiff ei dderbyn ar yr amod bod y llun yn dal i edrych yn debyg i chi.
Os nad oes gennych brawf adnabod sydd wedi'i gymeradwyo, bydd angen i chi wneud cais am 'Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr' am ddim - sydd weithiau'n cael ei galw'n 'Gerdyn Pleidleisiwr' neu'n 'Ddogfen Adnabod Etholiadol'. Bydd modd i bleidleiswyr wneud cais ar-lein am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr drwy wefan Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr GOV.UK newydd.
Yn hytrach na mynd i'ch gorsaf bleidleisio gallwch wneud cais i gael pleidlais bost.
Mae Pleidleisiau Post ar gael i bawb a gellir eu hanfon i unrhyw gyfeiriad, hyd yn oed dramor, ond cofiwch fod yn rhaid dychwelyd eich papur pleidleisio atom cyn diwedd y bleidlais ar ddiwrnod yr etholiad.
Etholiadau Seneddol a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu
Byddwch yn gallu gwneud cais am bleidlais drwy'r post ar gyfer etholiadau Seneddol ac etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu drwy system ar-lein llywodraeth ganolog newydd. Bydd yn ofynnol cadarnhau hunaniaeth etholwyr sy'n gwneud cais am bleidlais drwy'r post ar gyfer y ddau fath hyn o etholiad gan ddefnyddio cofnodion yr Adran Gwaith a Phensiynau, a hynny wrth wneud cais ar-lein ond hefyd wrth lenwi cais papur.
Bydd eich cais am y ddau fath hyn o etholiad yn para am hyd at dair blynedd. Bydd hysbysiad o'r angen i wneud cais newydd yn cael ei anfon cyn hyn ar ddiwedd y cyfnod hwnnw
Mewn etholiadau Seneddol neu etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, bydd terfyn hefyd ar faint o bleidleisiau drwy'r post y caiff etholwr eu cyflwyno mewn unrhyw orsaf bleidleisio neu adeilad cyngor. Byddwch yn cael cyflwyno eich un eich hun, a hyd at bump arall.
Senedd a Llywodraeth Leol
Yn achos etholiadau'r Senedd a Llywodraeth Leol ni fyddwch yn gallu gwneud cais ar-lein am bleidlais drwy'r post ond bydd yn rhaid i chi lenwi cais papur. Gallwch ofyn am un o'r ffurflenni hyn gan eich swyddfa etholiadau neu fynd ar-lein i lawrlwytho'r ffurflen hon o wefan y Comisiwn Etholiadol. Nid oes angen prawf adnabod ar gyfer y ddau fath hyn o etholiad.
Gall eich cais am y ddau fath hyn o etholiad bara am gyfnod amhenodol ar yr amod eich bod yn parhau i adnewyddu eich llofnod bob pum mlynedd. Bydd cais am adnewyddu eich llofnod yn cael ei anfon atoch gan y swyddfa etholiadau ar yr adeg ofynnol.
Ar gyfer etholwyr sydd â threfniant pleidlais drwy'r post ar waith cyn 31 Hydref 2023 - nid oes angen i chi wneud unrhyw beth arall. Bydd y swyddfa etholiadau yn cysylltu â chi pan fydd angen i chi adnewyddu eich pleidleisiau drwy'r post ar gyfer pob math o etholiad.
Os na allwch fynd i'r orsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad, gallwch wneud cais i gael pleidlais drwy ddirprwy: dyma lle rydych chi'n penodi rhywun i bleidleisio ar eich rhan. Wedyn mae'r person hwnnw'n mynd i'ch gorsaf bleidleisio ac yn bwrw eich pleidlais.
Lawrlwythwch Ffurflenni cais pleidlais drwy Ddirprwy ar wefan y Comisiwn Etholiadol
Etholiadau Seneddol a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu
Bydd newidiadau i'r terfyn o ran nifer y bobl gall pleidleisiwr fod yn ddirprwy ar eu rhan. Ar hyn o bryd caiff person fod yn ddirprwy ar gyfer nifer diderfyn o berthnasau agos a dau etholwr arall.
O dan y rheolau newydd ar gyfer y mathau hyn o etholiad, byddai pleidleiswyr yn cael eu cyfyngu i fod yn ddirprwy ar gyfer pedwar o bobl, a dim ond dau ohonynt sy'n cael bod yn etholwyr domestig sy'n byw yn y DU waeth beth fo'u perthynas (neu uchafswm o 4 o bobl, lle mae 2 berson yn byw yn y DU a 2 berson wedi'u cofrestru fel rhai sy'n byw dramor).
If you choose to vote by proxy, then the person who you have trusted to vote on your behalf will have to take their own identification to be issued with a ballot paper.
Rhagor o wybodaeth am newidiadau i bleidleisio drwy ddirprwy
Etholiadau'r Senedd a Llywodraeth Leol
Nid oes unrhyw newid i'r rheolau cyfredol h.y., cewch fod yn ddirprwy i ddim mwy na dau etholwr, ac eithrio lle maen nhw'n ŵr neu'n wraig, yn bartner sifil, yn rhiant, yn fam-gu neu'n dad-cu, yn frawd, yn chwaer, yn blentyn neu'n ŵyr yr etholwr.
Rhagor o wybodaeth am newidiadau i bleidleisio drwy ddirprwy
Dwi ddim yn gwybod
Os nad ydych yn sicr a ydych wedi cofrestru i bleidleisio, cwblhewch ein ffurflen ar-lein a byddwn yn gwirio eich manylion.
Nac ydw
Cofrestru ar-lein yw'r ffordd gyflymaf i gofrestru a dim ond 5 munud y mae'n ei gymryd!
Bydd angen i chi wybod eich Rhif Yswiriant Gwladol a'ch Dyddiad Geni cyn i chi ddechrau!
Cofiwch fod dyddiad cau i wneud cais i gofrestru cyn unrhyw etholiad. Y dyddiad cau yw 12 diwrnod gwaith cyn diwrnod yr etholiad.