Sut mae pleidleisio?

Diweddarwyd y dudalen ar: 10/01/2023

Yn agos at ddyddiad yr etholiad, anfonir cerdyn pleidleisio swyddogol atoch chi yn nodi Dyddiad yr Etholiad a ble mae eich gorsaf bleidleisio leol. Gallwch bleidleisio yno rhwng 7am a 10pm ar Ddiwrnod yr Etholiad. Bydd ein staff ni ym mhob gorsaf bleidleisio i’ch helpu gydag unrhyw gwestiynau neu os oes gennych anabledd.

Gallwch ddewis pleidleisio trwy’r post mewn etholiad, ond mae’n rhaid eich bod wedi llenwi a dychwelyd ffurflen gais i’r Gwasanaethau Etholiadol erbyn y dyddiad cau a nodwyd ar eich cerdyn pleidleisio (y dyddiad cau yw’r 12 fed diwrnod gwaith cyn yr etholiad bob tro).

Pleidleisiau post

Yn lle mynd i'ch gorsaf bleidleisio gallwch wneud cais am bleidlais bost. Mae Pleidleisiau Post ar gael i bawb a gellir eu danfon i unrhyw gyfeiriad, hyd yn oed dramor, ond cofiwch fod rhaid i'ch papur pleidleisio gyrraedd yn ôl inni cyn cau'r pleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad.

Lawrlwythwch ffurflen cais pleidlais drwy'r post ar y wefan Comiswn Etholiadol

Pleidleisio procsi

Os na allwch fynd i'r orsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad gallwch wneud cais i gael pleidlais brocsi. Ystyr hynny yw eich bod yn penodi rhywun i bleidleisio ar eich rhan.

Yna mae'r person hwnnw neu honno yn mynd i'r orsaf bleidleisio a bwrw eich pleidlais.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn eich ffurflen cais yw chwe diwrnod cyn diwrnod yr etholiad (heb gynnwys penwythnosau a gwyliau banc). Mewn rhai amgylchiadau, pan fo gennych argyfwng sy'n golygu na allwch fynd i'r orsaf bleidleisio'n bersonol, gallwch wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng hyd at 5pm ar ddiwrnod y bleidlais. 

Lawrlwythwch ffurfleni cais pleidlais drwy ddirprwy ar y wefan Comiswn Etholiadol

Pleidleisio drwy'r post drwy ddirprwy

Os nad yw eich dirprwy yn mynd i fod gartref diwrnod yr etholiad, gall wneud cais am i'w bapur pleidleisio drwy ddirprwy gael ei bostio ato/ati. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn eich ffurflen cais yw chwe diwrnod cyn diwrnod yr etholiad (heb gynnwys penwythnosau a gwyliau banc). Gwnech gais am ffurflen gais pleidleisio drwy'r post drwy ddirprwy gan ffonio 01267 228 889.

Dychwelyd eich ffurflenni cris

Mae'n rhaid i chi ddychwelyd eich ffurflenni cais drwy'r post/drwy procsi i'r cyfeiriad canlynol:

Uned Gwasanaethau Etholiadol, Adeilad 4, Parc Myrddin, Waun Dew,  Caerfyrddin,  SA31 1HQ

Pleidleisio Hygrych

Dylai pleidleisio ac etholiadau fod ar gael yn hawdd i bawb sydd â'r hawl gyfreithiol i bleidleisio, p'un a oes ganddynt anabledd ai peidio. Gwyddom y bydd angen mwy o gefnogaeth ar rai pobl nag eraill i ddefnyddio eu pleidlais – a bydd ein tîm etholiadau yn hapus i helpu. Ar gyfer pleidleiswyr ag anableddau, mae'r wefan Every Vote Counts yn adnodd ardderchog gyda gwybodaeth glir am y broses etholiadol, cofrestru i bleidleisio a phleidleisio yn y gorsafoedd pleidleisio.

Yn yr orsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad bydd bwth pleidleisio lefel isel i bobl anabl yn addas i'w ddefnyddio gyda chadair olwyn. Bydd hysbysiadau print bras o bapurau pleidleisio ar gael i'w gweld ym mhob gorsaf bleidleisio, gellir eu defnyddio er gwybodaeth, ond rhaid i chi barhau i fwrw'ch pleidlais ar bapur pleidleisio print safonol fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith. Bydd cymorth a elwir yn ddyfais gyffyrddadwy ar gael i alluogi pleidleiswyr dall neu rai sydd â nam ar eu golwg i bleidleisio heb gymorth. Gofynnwch i staff yn yr orsaf bleidleisio am y ddyfais hon. Byddwch hefyd yn gallu gofyn i'r Swyddog Llywyddu (y person sy'n gyfrifol am yr orsaf bleidleisio) i'ch helpu, maent wedi'u rhwymo'n gyfreithiol gan yr Angen am Gyfrinachedd felly bydd eich pleidlais yn gyfrinachol.

Os ydych chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, angen help i gofrestru neu i bleidleisio, cysylltwch â'r tîm etholiadau ar 01267 228889.

Cyngor a Democratiaeth