Pam yr ydym yn ymgynghori
Yn unol â chamau gweithredu sydd wedi'u cynnwys yng Nghynllun Llesiant ein Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus lleol, mae datblygiad y Strategaeth ddrafft hon wedi'i chynllunio i ymgorffori dull Seilwaith Gwyrdd a Glas o gynllunio gofodol sy'n canolbwyntio ar sicrhau bod nwyddau cyhoeddus yn cael eu darparu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, amlswyddogaetholdeb, a hyrwyddo'r defnydd o Atebion Seiliedig ar Natur, lle bynnag y bo'n briodol.
Yn y bôn, mae'n cydnabod y dylid ystyried ein hadnoddau naturiol a lled-naturiol yn 'seilwaith' pwysig yn union fel nodweddion adeiledig, ac y byddant ond yn parhau i fod o fudd i ni os byddwn yn cynllunio, buddsoddi ynddynt, ac yn eu rheoli yn rhagweithiol i sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio'n gynaliadwy.
Wedi'i ariannu ar y cyd gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a Chyngor Sir Caerfyrddin, gwahoddir preswylwyr Sir Gaerfyrddin a phartïon sydd â diddordeb i roi sylwadau ar y Strategaeth Seilwaith Gwyrdd a Glas Ddrafft.
Sut i gymryd rhan
Llenwch yr arolwg ar-lein hwn.
Os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd neu os oes angen help arnoch i gael mynediad i'r arolwg hwn, cysylltwch â thîm Prosiect Gwyrddu Sir Gâr drwy ffonio 07816 113034 (ar gael rhwng 9am ac 1pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener). Byddant ar gael i fewnbynnu'r wybodaeth hon i chi dros y ffôn.
Camau nesaf
Bydd adborth o'r ymgynghoriad hwn yn cael ei ddefnyddio i helpu i lywio'r gwaith parhaus o ddatblygu'r Strategaeth ddrafft y disgwylir iddi gael ei chyflwyno i'r Cyngor i'w hystyried ymhellach yng Ngwanwyn 2025.
Diogelu Data
Nid yw cwestiynau yn yr arolwg hwn yn casglu unrhyw ddata personol yn fwriadol. Os darperir unrhyw ddata personol drwy ymatebion a dderbyniwyd, caiff ei drin yn unol â'n Hysbysiad Preifatrwydd. Am fwy o wybodaeth am eich hawliau ac i gael manylion cyswllt ein Swyddog Diogelu Data.