Y Gymraeg a’ch busnes
Mae mantais busnes i ddefnyddio'r Gymraeg. Mae cynnig dewis iaith i'ch cwsmer yn arfer da o ran gofal cwsmer ac yn dangos parch tuag at y cwsmer a pharch at yr iaith Gymraeg.
Yn ôl ymchwil gan Gyngor ar Bopeth yn 2015 roedd 94% o siaradwyr Cymraeg rhugl yn teimlo bod gwasanaeth Cymraeg da yn helpu cwmni i wneud argraff, ac roedd 90% yn credu bod gallu cyfathrebu â sefydliadau drwy gyfrwng y Gymraeg yn golygu eu bod yn cael eu gwerthfawrogi fel cwsmeriaid.
Yn ôl Cyfrifiad 2011, mae bron i 80,000 o siaradwyr Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin. Wrth ystyried bod poblogaeth y Sir yn 183,777, mae bron 1 o bob 2 o'ch cwsmeriaid yn siarad Cymraeg.
Does dim angen cael popeth yn ddwyieithog ar unwaith. Beth am gymryd camau bach i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn raddol yn eich busnnes.