Mae mantais busnes i ddefnyddio'r Gymraeg. Mae cynnig dewis iaith i'ch cwsmer yn arfer da o ran gofal cwsmer ac yn dangos parch tuag at y cwsmer a pharch at yr iaith Gymraeg.
Yn ôl ymchwil gan Gyngor ar Bopeth yn 2015 roedd 94% o siaradwyr Cymraeg rhugl yn teimlo bod gwasanaeth Cymraeg da yn helpu cwmni i wneud argraff, ac roedd 90% yn credu bod gallu cyfathrebu â sefydliadau drwy gyfrwng y Gymraeg yn golygu eu bod yn cael eu gwerthfawrogi fel cwsmeriaid.
Yn ôl Cyfrifiad 2011, mae bron i 80,000 o siaradwyr Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin. Wrth ystyried bod poblogaeth y Sir yn 183,777, mae bron 1 o bob 2 o'ch cwsmeriaid yn siarad Cymraeg.
Beth yw manteision defnyddio'r Gymraeg?
Mae'n denu cwsmeriaid
Yn ôl gwaith ymchwil diweddar, dywedodd 82% o gwsmeriaid eu bod yn fwy tebygol o ddewis cwmni sy'n darparu gwasanaeth Cymraeg da.
Mae'n cryfhau brand
Mae 82% o fusnesau'n cytuno neu'n cytuno'n gryf bod defnyddio'r Gymraeg yn ychwanegu gwerth at gynnyrch neu wasanaeth.
Mae'n cryfhau teyrngarwch cwsmeriaid
Mae iaith yn rhan bwysig o hunaniaeth pob person. Byddwch yn meithrin perthynas yn gyflym â chwsmeriaid sy'n siarad Cymraeg a fydd wedyn yn siŵr o ddefnyddio'ch busnes eto os ydynt yn eich gweld fel busnes dwyieithog.
Mae'n dangos tegwch a chydraddoldeb
Mae defnyddio dwy iaith swyddogol Cymru yn dangos parch at ddiwylliant y wlad a'i phobl.
Gall godi proffil eich busnes
Gall busnesau dwyieithog elwa ar sylw gan y cyfryngau Cymraeg a Saesneg.
Gall gyfrannu at y gwaith o warchod diwylliant ac iaith frodorol y sir
Byddwch yn rhoi cyfle i drigolion y sir ddefnyddio eu Cymraeg. Bu gostyngiad o 6% yng nghanran y siaradwyr Cymraeg yn y sir yn y cyfrifiad diwethaf. Bydd cynyddu amlygrwydd y Gymraeg yn eich busnes yn helpu i atal y Gymraeg rhag dirywiad pellach.
Edrychwch ar y fideo isod i weld sut mae'r Gymraeg wedi bod o fudd i fusnesau yn Sir Gaerfyrddin.