Cyfamod y Lluoedd Arfog
I’r rhai sy’n falch o amddiffyn ein cenedl, ac yn gwneud hynny ag anrhydedd, dewrder ac ymrwymiad, Cyfamod y Lluoedd Arfog yw ymrwymiad y genedl i chi. Mae’n addewid bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn deall y dylai’r rhai sy’n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, a’u teuluoedd, gael eu trin â thegwch a pharch yn y cymunedau, yr economi a’r gymdeithas y maent yn eu gwasanaethu â’u bywydau.
Llofnododd Cyngor Sir Caerfyrddin Gyfamod y Lluoedd Arfog ar 7 Gorffennaf, 2022 ym Mharc y Scarlets.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin a'i bartneriaid wedi ymrwymo i sicrhau bod y wybodaeth a'r cymorth sydd eu hangen arnynt ar gael yn hwylus i aelodau'r Lluoedd Arfog (boed yn aelodau rheolaidd neu wrth gefn) a chyn-aelodau'r Lluoedd Arfog, eu teuluoedd a'u gweddwon.