Sut i optio allan o'r gofrestr agored
Mae'r Gofrestr Etholiadol yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi'u cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau cyhoeddus. Fe'i defnyddir i wneud yn siŵr mai dim ond pobl sydd â hawl i bleidleisio sy'n gallu pleidleisio.
Mae'r Gofrestr Agored yn rhan o'r Gofrestr Etholiadol sydd ar gael i'w phrynu (a elwid o'r blaen yn Gofrestr Olygedig neu'n Fersiwn i'w Gwerthu).
Os nad ydych ar y Gofrestr Agored, mae hynny'n golygu nad yw eich manylion ar gael i'w prynu at ddibenion marchnata. Nid yw'n effeithio ar eich hawl i bleidleisio na'ch statws credyd.
Cyflwynwyd y gyfraith sy'n galluogi pobl i ddewis peidio â bod ar y gofrestr ym mis Tachwedd 2001. Cyn hynny, gallai unrhyw un brynu'r Gofrestr Etholiadol gyfan am ffi. Gallai sefydliadau a brynodd gopi cyn i'r gyfraith newid fod yn defnyddio eich manylion o hyd.
Mae'n bosibl hefyd i'ch manylion fod ar gael os nad oeddech wedi mynd ati bob blwyddyn ers 2002 i ddewis peidio â bod ar y gofrestr. Darllenwch fwy am hyn ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Newid eich dewis
Gallwch ddewis peidio â chael eich manylion wedi'u cyhoeddi ar y Gofrestr Agored pan fyddwch yn cofrestru i bleidleisio. Fodd bynnag os ydych wedi eich cofrestru eisoes, gallwch newid eich dewis ar unrhyw adeg drwy wneud cais gan nodi'ch enw llawn, eich cyfeiriad ac a ydych yn dymuno cael eich cynnwys neu eich dileu o'r Gofrestr Agored.
Gallwch wneud hyn drwy e-bostio eich cais i gwasanaethauetholiadol@sirgar.gov.uk neu drwy ysgrifennu atom yn Y Gwasanaethau Etholiadol, Bloc 4, Parc Myrddin, Waun Dew, Caerfyrddin, SA31 1HQ.
Cyngor a Democratiaeth
Y Cyngor
- Cyfansoddiad y Cyngor
- Cadeirydd 2020 - 21
- Swyddfa'r Crwner
- Arglwydd Raglaw
- Blog Arweinydd
- Blog Cadeirydd y Cyngor
Cynghorwyr, ACau ac ASau
- Eich Cynghorydd Sir
- Sut mae bod yn Gynghorydd
- Lwfansau a buddiannau cynghorwyr
- Cynghorwyr Tref a Chymuned
- Aelodau Senedd Cymru
- Aelodau Seneddol
Adrannau'r Cyngor
Pwyllgorau a Chyfarfodydd
- Agendâu a chofnodion
- Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
- Dyddiadur y Cyngor
- Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
- Y Bwrdd Gweithredol
- Penderfyniadau swyddogion
- Pwyllgor Cynllunio
- Craffu
- Pwyllgor Safonau
- Cyngor Ymgynghorol Sefydlog dros Addysg Grefyddol (CYSAG)
Strategaethau a chynlluniau
Cyllideb y Cyngor
Ymgynghori a Pherfformiad
- Ymgynghoriadau actif
- Rheoli Perfformiad
- Archwiliadau, Arolygiadau ac Adroddiadau
- Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Amcanion lles
- Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2019-20
Canllawiau Brexit
Hysbysiadau cyhoeddus
Etholiadau a Phleidleisio
- Etholiadau Senedd Cymru
- Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu 2021
- Bod yn gymwys i bleidleisio
- Sut mae pleidleisio?
- Cofrestru i bleidleisio
- Diweddaru eich manylion ar y Gofrestr Etholiadol
- Diweddariad blynyddol o'r gofrestr pleidleiswyr
- Sut i optio allan o'r gofrestr agored
- Gweld y Gofrestr Etholiadol
- Is-etholiadau
- Fy Un Agosaf - Gwybodaeth etholiadol
- Etholiad Cyffredinol Seneddol 2019
- Etholiadau Lleol 2017
- Etholiad Seneddol 2017
Diogelu Data
Rhyddid Gwybodaeth
Ymchwil ac Ystadegau
Mwy ynghylch Cyngor a Democratiaeth