Creu cyfleoedd a gyrfaoedd yn Sir Gâr
Gwnewch wahaniaeth. Dewch i weithio yn Sir Gaerfyrddin.
Mae ein tîm o dros 8,000 o weithwyr yn darparu ystod o wasanaethau o'r radd flaenaf i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr.
Mae gan Sir Gaerfyrddin, sy'n lle gwych i fyw a gweithio, arfordiroedd ysblennydd, canolfannau trefol, trefi marchnad hanesyddol a phentrefi llai sy'n cadw diwylliant a thraddodiadau unigryw Sir Gaerfyrddin yn fyw.
P'un a ydych chi'n chwilio am waith hyblyg tra bod y plant yn yr ysgol, rôl reoli, neu'n cymryd y cam cyntaf yn eich gyrfa, gallwch ymuno â'n tîm blaengar i helpu i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill.
Mae gennym ystod eang o yrfaoedd yma yng Nghyngor Sir Caerfyrddin, mae rhai ohonynt i'w gweld isod - ond i weld yr holl swyddi gwag, dewiswch 'Gweld Pob Swydd'.
Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir pob ymgeisydd i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Cymerwch amser i ddarllen nodiadau'r dudalen sut i wneud cais ac unwaith y byddwch wedi dod o hyd i'r swydd berffaith, llenwch a chyflwynwch ffurflen gais ar-lein. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, ewch i'n tudalen Cwestiynau Cyffredin.