Hwb Bach Y Wlad

Rydym ni'n gwybod pa mor anodd yw hi pan fo angen cymorth arnoch ond heb fod yn gwybod ble i droi - rydym am i chi wybod ein bod ni yma ar eich cyfer a byddwn yn ymweld â thref yn agos atoch chi. 

Mae gennym dîm ymroddedig o ymgynghorwyr a all helpu - mae sefyllfa pawb yn wahanol, ond rydym yma i wrando a'ch helpu i wneud cais am y cymorth, y gwasanaethau a'r arian y mae gennych hawl iddynt.

Ochr yn ochr â'n tîm o ymgynghorwyr, mae gennym bellach swyddogion cyllidebu penodedig sy'n gallu eich helpu a'ch cefnogi gyda materion ariannol.

Bydd eitemau ailgylychu gwastradd a stoc tlodi mislif gyda ni yn y lleoliadau hyn a byddwn wrth law i ymdrin ag unrhyw ymholidau sy’n ymwneud â’r cyngor. Gweler isod sut y gallwn eich cefnogi.

Drwy gydol y 12 mis nesaf byddwn hefyd yn ymweld â digwyddiadau lleol ar draws Sir Gaerfyrddin. Am ragor o wybodaeth am y digwyddiadau hyn, ewch i’n tudalen newyddion a digwyddiadau.

Sylwch: Rhwng 22 Gorffennaf a 30 Awst dim ond digwyddiadau lleol y byddwn yn ymweld â nhw. Bydd yr holl ymweliadau rheolaidd yn ailddechrau ym mis Medi.