Carbon Sero-net erbyn 2030

Rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ac yn cydnabod bod gennym rôl bwysig y mae'n rhaid i ni ei chwarae o ran lleihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr ymhellach a rhoi'r arweiniad i annog trigolion, busnesau a sefydliadau eraill i gymryd camau i leihau eu hôl troed carbon.

Ym mis Chwefror 2019, cafodd argyfwng hinsawdd ei ddatgan gennym, a gwnaethom ymrwymiad i fod yn awdurdod lleol carbon sero-net erbyn 2030. Ers hynny, ni oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i gyhoeddi cynllun gweithredu carbon sero-net a gymeradwywyd gan y Cyngor llawn ym mis Chwefror 2020.

Rydym yn mabwysiadu ymagwedd bragmatig tuag at fod yn awdurdod lleol carbon sero-net erbyn 2030, ac rydym yn canolbwyntio i ddechrau ar ein hôl troed carbon mesuradwy. Nid yw hyn yn atal camau gweithredu ehangach eraill i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, sy'n cael eu cyflawni ar draws adrannau'r Cyngor.

Cyngor a Democratiaeth