Cyllideb y Cyngor
Yn yr adran hon
- 5. Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)
- 6. Bargen Ddinesig Bae Abertawe
- 7. Ffyrdd syml i arbed arian i'r Cyngor
6. Bargen Ddinesig Bae Abertawe
Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe wedi cyrraedd carreg filltir hollbwysig, ac mae'r naw prosiect a rhaglen drawsnewidiol wedi'u cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae ffocws y portffolio - yr amcangyfrifir y bydd yn denu buddsoddiad o £1.3 biliwn erbyn 2033 – bellach yn symud i'r cam cyflawni, a bydd yn darparu cyfleoedd i lawer o fusnesau a thrigolion ledled de-orllewin Cymru, yn ogystal â rhoi hwb i adferiad economaidd y rhanbarth.
Cynhaliwyd Digwyddiad Arddangos dathliadol ym Mharc y Scarlets i dynnu sylw at y cyflawniad rhagorol hwn a gwahoddwyd aelodau o'r sectorau cyhoeddus, addysg, iechyd a phreifat i fod yn bresennol. Yn ogystal â chanmol ymdrechion rhyfeddol partneriaid y prosiect sydd wedi bod yn rhan o'r daith hyd yn hyn, roedd hefyd yn gyfle i rwydweithio ac edrych ymlaen at y cyfleoedd sydd bellach wedi'u datgloi ar gyfer y dyfodol.
Mae'r Fargen Ddinesig, sydd wedi'i chreu i drawsnewid ac adfywio de-orllewin Cymru, yn fuddsoddiad digynsail a ariennir gan y ddwy lywodraeth, y sector cyhoeddus a'r sector preifat, a fydd yn cydweithio i gyflawni naw prosiect neilltuol. Yn werth dros £1.8 biliwn i'r economi ranbarthol, bydd Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn gwella bywydau pobl mewn ardaloedd gwledig a threfol ledled y rhanbarth, drwy godi dyheadau, creu dros 9,000 o swyddi â chyflogau da, gwella gwasanaethau a hybu sgiliau. Bydd adeiladau'n cael eu codi a fydd yn cefnogi busnesau i ddeori a thyfu, a bydd cyfleoedd o ran y gadwyn gyflenwi yn cael eu datblygu.
Wedi'i gosod i gyd-fynd â thair thema graidd – cyflymu'r economi, ynni a gweithgynhyrchu clyfar, a gwyddorau bywyd a llesiant - mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe eisoes wedi gweld cynnydd sylweddol drwy nifer o'i phrosiectau, sef agor Yr Egin, canolfan y sector creadigol, o dan arweiniad Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin; datblygiadau canol dinas Abertawe drwy agor Arena Abertawe; ac adeiladu Canolfan Dechnoleg y Bae ym Mhort Talbot. Mae'r datblygiadau hyn yn dechrau creu partneriaethau hirhoedlog gyda chwmnïau allweddol fel S4C yn Yr Egin a'r Grŵp Theatr Llysgenhadon sy'n rhedeg Arena Abertawe, ac mae llawer mwy i ddod yn y dyfodol.
Hefyd, mae cynnydd ym meysydd eraill y Fargen Ddinesig, oherwydd penodwyd contractwyr i ddechrau prosiect Pentre Awel gwerth miliynau o bunnoedd yn Llanelli, datblygiad swyddfa proffil uchel 71/72 Ffordd y Brenin yn Abertawe a'r gwaith o adnewyddu sied awyrennau hanesyddol ym Mhorthladd Aberdaugleddau. Bydd y rhain a llawer o gaffaeliadau eraill yn digwydd ar gyfer y Fargen Ddinesig yn ystod y misoedd nesaf, gan gynnig cyfleoedd i fusnesau rhanbarthol a darparu miloedd o swyddi, wrth iddynt symud drwy'r cam adeiladu i'r cam gweithredu.
Mae'r tri phrosiect rhanbarthol, Sgiliau a Thalent, Seilwaith Digidol a Chartrefi yn Orsafoedd Pŵer, hefyd yn mynd rhagddynt ac yn darparu sgiliau i fodloni gofynion gweithlu'r dyfodol, gan gefnogi economi ddigidol ffyniannus a hwyluso'r gwaith o fabwysiadu dyluniadau sy'n effeithlon o ran ynni a thechnolegau adnewyddadwy mewn cartrefi ledled y Dinas-ranbarth.
Prosiect Campysau Prifysgol Abertawe oedd y prosiect olaf i gael ei gymeradwyo gan y ddwy lywodraeth, a bydd yn hybu arloesedd a thwf busnesau yn y sectorau Technoleg Feddygol a Thechnoleg Chwaraeon sy'n ehangu. Mae'r Fargen Ddinesig bellach yn ceisio manteisio ar gyfleoedd gyda phartneriaid ar draws y portffolio cyfan, a bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth ar unwaith i'n rhanbarth, yn ogystal â chreu etifeddiaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe, "Mae cynnydd y Fargen Ddinesig dros y 12 mis diwethaf wedi bod yn wych ac rydym bellach mewn sefyllfa unigryw lle mae ein holl brosiectau a rhaglenni wedi'u cymeradwyo. Bargen Ddinesig Bae Abertawe yw'r rhanbarth cyntaf yng Nghymru i gael ei nodi, lle mae pob prif brosiect a rhaglen yn y cam cyflawni, sy'n wir yn dangos yr uchelgais sydd gennym o ran tyfu a chyflymu economi de-orllewin Cymru.
“Roedd yn wych cwrdd â chynifer o fusnesau a phartneriaid yn ystod y Digwyddiad Arddangos sy'n rhannu ein gweledigaeth ac a fydd yn cydweithio i sicrhau bod portffolio cyfan y Fargen Ddinesig yn llwyddiant, gan ddod â swyddi tra medrus, seilwaith a thwf i'r rhanbarth.”
Ychwanegodd Huw Bala, Rheolwr Prosiect yn Tinopolis “Cynhadledd ddiddorol iawn ar sawl lefel ond yn arbennig datblygiadau Ynni Gwyrdd Doc Penfro sef Hwb Morol Doc Penfro gwaith cyngor Castell Nedd a Phort Talbot gyda'i chynllun Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer ac wrth gwrs Seilwaith Digidol. Gwaith gwych mewn sawl maes.”
Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn fuddsoddiad o hyd at £1.3 biliwn mewn portffolio sy'n cynnwys naw o raglenni a phrosiectau mawr ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe, sydd ar y cyd gwerth dros £1.8 biliwn a 9,000 o swyddi i economi'r rhanbarth yn y blynyddoedd sydd i ddod.
Yn cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat, mae'r Fargen Ddinesig yn cael ei harwain gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro, a Chyngor Abertawe, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.