Pam yr ydym wedi ymgynghori

O dan y Rheoliadau Cynefinoedd, mae’n ofynnol i’r Cyngor asesu a yw Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig 2018-2033 yn debygol o gael effaith sylweddol ar gyfanrwydd unrhyw Safle Ewropeaidd. Gelwir y broses orfodol hon yn Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARC), ac fe’i cynhelir drwy gydol y gwaith paratoi ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig.

Mae’r ymgynghoriad yma ar gyfer yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARC).

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gynnwys y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig ei hun. Ni fydd unrhyw sylwadau ynghylch y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig yn cael eu hystyried.

Mae’r ymgynghoriad diweddaraf hwn nawr yn cynnwys yr 2il Atodiad i’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (Chwefror 2024) sy’n sicrhau cydymffurfiaeth weithdrefnol yn unol â’r deddfwriaeth berthnasol. Gellir dod o hyd i broses gyfan yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar ein gwefan.

Mae’n cynnwys:

  • Adroddiad Cwmpasu ARC (Rhagfyr 2018)
  • Adroddiad ARC (Ionawr 2020)
  • Adendwm ARC (Chwefror 2023)
  • Ail Adendwm ARC (Chwefror 2024)

Sut aethom ati i ymgynghori

Trwy arolwg ar-lein